Maluku
Math | grŵp o ynysoedd |
---|---|
Poblogaeth | 1,895,000 |
Cylchfa amser | UTC+09:00 |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Ynysfor Maleia |
Gwlad | Indonesia |
Arwynebedd | 74,505 km² |
Uwch y môr | 3,027 metr, 958 metr |
Gerllaw | Molucca Sea |
Cyfesurynnau | 2°S 128°E |
ID-ML | |
Mae ynysoedd Maluku (hefyd y Moluccas) yn ynysoedd yn Indonesia, wedi eu lleoli i'r dwyrain o Sulawesi, i'r gorllewin o Gini Newydd ac i'r gogledd o Timor.
Nid yw'r rhan fwyaf o'r ynysoedd yn fawr; mae arwynebedd y cyfan tua 74,505 km² gyda poblogaeth o 1,895,000 yn 2000. Mae'r rhan fwyaf o'r ynysoedd yn fynyddig, a nifer gyda llosgfynyddoedd byw arnynt. Yn y 1950au datblygodd mudiad oedd yn anelu at annibyniaeth i ran ddeheuol Maluku (De Maluku, neu Maluku Selatan yn Indoneseg). O 1950 hyd 1999 roedd yr ynysoedd yn ffurfio un dalaith o Indonesia, ond yn y flwyddyn honno gwahanwyd hwy yn ddwy dalaith, Maluku a Gogledd Maluku. Rhwng 1999 a 2002 bu llawer o ymladd rhwng Cristionogion a dilynwyr Islam ar yr ynysoedd hyn, ond mae pethau wedi tawelu ers hynny.
Ynysoedd
- Ternate (yr ynys fwyaf)
- Bacan
- Halmahera
- Morotai
- Ynysoedd Obi
- Ynysoedd Sula
- Tidore