Awrora: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dim crynodeb golygu Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) Golygiad trwy'r ap iOS |
Dim crynodeb golygu Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) Golygiad trwy'r ap iOS |
||
Llinell 10: | Llinell 10: | ||
William Bulkeley: |
William Bulkeley: |
||
Cofnododd Bukeley<ref>Dyddiaduron William Bulkeley, Brynddu, Llanfechell, Môn (gyda chaniatad Adran Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor)</ref> weld yr Awrora o Fôn chwe gwaith rhwng 1740 a 1750. |
Cofnododd Bukeley<ref>Dyddiaduron William Bulkeley, Brynddu, Llanfechell, Môn (gyda chaniatad Adran Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor)</ref> iddo weld yr Awrora o Fôn chwe gwaith rhwng 1740 a 1750. |
||
Lari Parc: "Mi welais i'r Aurora borealis ar ôl i mi gyrraedd Y Fron, tua gaeaf 2000 neu 2001. Rhaid, wrth feddwl, i'r peth ddigwydd rhwng tua 7 a 9 y nos. Yr oeddwn yn mynd am dro gyda'r nos yn y gaeaf o gwmpas y Fron, a dyma fi'n gweld rhywbeth oren yn yr awyr ac ar y gorwel gogledd dwyreiniol. Yr oeddwn yn meddwl i gychwyn bod Llandudno ar dân, ac oeddwn yn gweld dim ond y golau a gai ei adlewyrchu dros y mynyddoedd. Es i i le heb oleuadau stryd i gael gwell golwg, a dyma'r golau'n dechrau symud mewn tonau dros yr awyr: yr oedd yn ffurfio siapiau fel deunydd, neu lenni yn symud yn araf deg yn y gwynt. Yr oedd y ffurfiau'n mynd yn hynod o uchel i'r awyr. Yr oeddwn i'n edrych arnynt am tua awr, cyn i mi geisio darbwyllo pobl oeddwn yn eu nabod i gael cip ond nid oeddent yn fy nghredu i gychwyn, ac efo plant ifanc, dwi'n siwr bod hi'n annodd dilyn ffansi dyn sengl! Ond yn y diwedd dyma nhw'n dod allan i edrych. Yn anffodus, chawson nhw ddim eu taro gan hudoledd y ffenomenon. |

Fersiwn yn ôl 08:00, 1 Ionawr 2019
Goleuni naturiol yn wybren y Ddaear, i'w gweld yn bennaf ym mhegynau'r Ddaear (o gwmpas yr arctig a'r antarctig, yw awrora (lluosog: awrorau). Yn y gogledd, mae weithiau yn cael ei gyfeirio ato fel gwawl y gogledd, goleuni'r gogledd, ffagl yr arth neu goleufer (aurora borealis). Yn y de, mae'n cael ei alw'n gwawl y de neu goleuni'r de (aurora australis).
Mae awrorau yn cael eu cynhyrchu pan fydd y magnetosffer yn cael ei gyffroi gan wynt solar i'r graddau bod llwybr gronynnau sydd wedi'u gwefru yn y gwynt solar a'r plasma magnetosfferig, yn bennaf ar ffurf electronau a protonau, yn eu hyrddio i'r uwch atmosffer (thermosffer/ecsosffer) oherwydd maes magnetig y Ddaear, ble mae eu hegni yn cael ei golli.
Mae'r ïoneiddio a chyffroad y cyfansoddion atmosfferig o ganlyniad yn pelydru goleuni o wahanol liwiau a chymhlethdod. Mae ffurf yr awrora, sydd i'w weld o fewn i stribynau o amgylch y pegynau, hefyd yn dibynnu ar gyflymiad y groynnau sy'n cael eu hyrddio. Mae protonau fel arfer yn cynhyrchu tywyniadau optegol fel atomau hydrogen digwyddol ar ol ennill electronau o'r atmosffer. Mae awrorau proton fel arfer i'w gweld ar ledredau is.[1]
Llygad-dystion Cymreig
Gwelir Awrora'r Gogledd (borealis) yn weddol rheolaidd o Gymru.
William Bulkeley: Cofnododd Bukeley[2] iddo weld yr Awrora o Fôn chwe gwaith rhwng 1740 a 1750.
Lari Parc: "Mi welais i'r Aurora borealis ar ôl i mi gyrraedd Y Fron, tua gaeaf 2000 neu 2001. Rhaid, wrth feddwl, i'r peth ddigwydd rhwng tua 7 a 9 y nos. Yr oeddwn yn mynd am dro gyda'r nos yn y gaeaf o gwmpas y Fron, a dyma fi'n gweld rhywbeth oren yn yr awyr ac ar y gorwel gogledd dwyreiniol. Yr oeddwn yn meddwl i gychwyn bod Llandudno ar dân, ac oeddwn yn gweld dim ond y golau a gai ei adlewyrchu dros y mynyddoedd. Es i i le heb oleuadau stryd i gael gwell golwg, a dyma'r golau'n dechrau symud mewn tonau dros yr awyr: yr oedd yn ffurfio siapiau fel deunydd, neu lenni yn symud yn araf deg yn y gwynt. Yr oedd y ffurfiau'n mynd yn hynod o uchel i'r awyr. Yr oeddwn i'n edrych arnynt am tua awr, cyn i mi geisio darbwyllo pobl oeddwn yn eu nabod i gael cip ond nid oeddent yn fy nghredu i gychwyn, ac efo plant ifanc, dwi'n siwr bod hi'n annodd dilyn ffansi dyn sengl! Ond yn y diwedd dyma nhw'n dod allan i edrych. Yn anffodus, chawson nhw ddim eu taro gan hudoledd y ffenomenon. Dwi'n deall mai eithaf anghyffredin ydy gweld yr aurora borealis o Gymru, ond wrth lwc, mi ydwyf wedi, a hyd yn oed pe bai neb yn fy nghredu, bydd y cof o'r peth gennyf nes i'r cof mynd yn wan"[3][1]
Keith O'Brien: Trawsfynydd Mawrth 2015 [cyfiethiad] Awrora dros Trawsfynydd, heno (22 Mawrth 2015), heno (anodd gweld gyda'r llygad ond fe'i codwyd gan y camera yn iawn)(Flickr) [2]
Tarddiad yr enw
Mae'r gair "awrora" yn tarddu o'r gair Lladin am "gwawr", gan fod cred ar un adeg mai golau cyntaf y wawr oedd awrorau.
Cyfeirnodau
- ↑ "Simultaneous ground and satellite observations of an isolated proton arc at sub-auroral latitudes". Journal of Geophysical Research. 2007. Cyrchwyd 5 August 2015.
- ↑ Dyddiaduron William Bulkeley, Brynddu, Llanfechell, Môn (gyda chaniatad Adran Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor)
- ↑ Lari Parc, Bwletin rhif 7, tud. 3