Neidio i'r cynnwys

Gwylys

Oddi ar Wicipedia
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 01:10, 28 Ionawr 2015 gan EmausBot (sgwrs | cyfraniadau)

Mae'r ID a roddwyd yn anhysbys i'r system. Defnyddiwch ID dilys i'r endid data. Perlysieuyn parhaol o deulu'r pys yw gwylys (Glycyrrhiza glabra). Mae'n frodorol i'r Dwyrain Canol a De Ddwyrain Ewrop, ger arfordir Môr y Canoldir. Tyfir i dynnu'r sudd melys a elwir yn licris o'i wraidd.

Mae'r gwylys yn tyfu dros 0.9 m (3 troedfedd), ac uwchben y ddaear mae ganddo goesynnau hirion a dail adeiniog sy'n cynnwys 9 i 17 o ddeilios, a blodau gleision sy'n cynhyrchu codennau sy'n cynnwys 3 neu 4 hedyn. Mae gwreiddiau'r planhigyn yn rhwydwaith dwfn o risomau.[1]

Tyfir y planhigyn am 3 i 5 flynedd cyn ei gynaeafu. Caiff y gwreiddiau a'r rhisomau eu glanhau, eu gwasgu'n fwydion, a'u berwi ac yna fe grynhoir y sudd licris drwy broses anweddu. Tyfir gwylys heddiw yn Rwsia,[1] De Ewrop a'r Unol Daleithiau.[2] Fe'i dyfir ym Mhrydain ers yr 16eg ganrif pan gafodd ei dyfu gan fynachod Dominicaidd yn Pontefract, Swydd Efrog.[1]

Mae ganddo flas chwerwfelys cryf sy'n debyg i anis a ddaw o'r sylwedd glysyrhisin,[2] ac arogl melys. Yn y gegin, defnyddir gwylys i wneud melysion megis licris cymysg a theisenni Pontefract, i flasu Guinness, sambwca a chyrfau a gwirodlynnau eraill a diodydd ysgafn. Yn y fferyllfa mae ei arogl cryf a'i flas neilltuol o fudd wrth gelu blasau cas y moddion, er enghraifft mewn surop peswch a losin gwddf.[1] Defnyddir hefyd i drin wlseri peptig a chlefyd Addison.[2]

Geirdarddiad

Gelwir gwylys hefyd yn licris, licoris neu licorys, benthycair o'r enw Saesneg liquorice,[3] a ddaw o'r Roeg: glyks/glukus (melys) a rhiza (gwreiddyn).[1] Gair arall arno yw perwraidd, cyfuniad o "pêr" a "gwraidd".[4] Bathwyd y gair "gwylys" gan William Owen Pughe ym 1800 mewn ymgais i drosi liquorice gan iddo gamdybio taw liquor (Saesneg am wirod) oedd yr elfen gyntaf yn y gair hwnna. Cyfansoddair o "gwy" (dŵr) a "llys" (llysiau) yw bathiad Pughe.[5] Heddiw yn gyffredinol defnyddir "licris" i gyfeirio at yr ystyr goginiol a "gwylys" i gyfeirio at yr ystyr fotanegol.[6]

Cyfeiriadau

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 Morris, Sallie. The New Guide to Spices (Llundain, Lorenz, 1999), t. 53.
  2. 2.0 2.1 2.2 (Saesneg) licorice (herb). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 6 Tachwedd 2014.
  3.  licris. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 6 Tachwedd 2014.
  4.  perwraidd. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 6 Tachwedd 2014.
  5.  gwylys. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 6 Tachwedd 2014.
  6. Geiriadur yr Academi, [liquorice].
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: