Plougoñ
Math | cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 1,201 |
Pennaeth llywodraeth | Maurice Lemaître |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Llydaw |
Arwynebedd | 11.73 km² |
Uwch y môr | 0 metr, 80 metr |
Yn ffinio gyda | Kledenn-ar-C'hab, Prevel |
Cyfesurynnau | 48.0367°N 4.6658°W |
Cod post | 29770 |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Plogoff |
Pennaeth y Llywodraeth | Maurice Lemaître |
Mae Plougoñ (Ffrangeg: Plogoff) yn gymuned yn Departamant Penn-ar-bed (Ffrangeg Finistère), Llydaw. Mae'n ffinio gyda Cléden-Cap-Sizun, Primelin ac mae ganddi boblogaeth o tua 1,201 (1 Ionawr 2021).
Yn yr erthygl hon, cyfieithir y termau brodorol kumunioù (Llydaweg) a communes (Ffrangeg) i "gymuned" yn Gymraeg.
Poblogaeth
Protestiadau Atomfa Plougoñ
Yn y 1970au daeth Plougoñ yn enwog am brotestiadau enfawr yn erbyn y bwridad i godi aromfa niwclear.
Yn y 1970au cynnar penderfynodd cwmni ynni cenedlaethol Ffrainc - EDF, adeiladau atomfa yn Plougoñ. Llwyddodd bobl yr ardal blocio'r holl ffordd o amgylch safle yn 1976, gyda phrotestiadau eto yn 1978 a 1979.
Yn ôl cyfraith Ffrainc roedd rhaid i ddogfennau cynlluniau adeiladu ar gyfer yr atomfa cael eu harddangos i’r cyhoedd yn y Ti-kêr (neuadd y dref) lleol. Ond fe wrthododd y cyngor dangos y dogfennau ac yn y diwedd llosgwyd y dogfennau gan y cynghorwyr o flaen dorf yn sgwâr y pentref.
Ceisiodd lywodraeth Ffrainc gosod dogfennau newydd mewn carafan tu allan i neuadd y dref ond ddaeth y carafann yn ganolbwynt protestiadau enfawr.[1] Am 45 diwrnod ceisiodd unedau heddlu terfysg y CRS, heddlu milwrol a milwyr paratrwp gwarchod y carafannau yn erbyn ymosodiadau miloedd o brotestwyr.
Yn 1981 etholwyd François Mitterrand yn llywydd Ffrainc a chyhoeddodd ei fod yn stopio prosiect yr atomfa newydd.
Mae ffilm ddogfen Plogoff, des pierres contre des fusils (Plougoñ, cerrig yn erbyn gynnau) am hanes y brwydro yn erbyn lluoedd Ffrangeg wedi’i gwneud gan Nicole a Félix Le Garrec.[2]
Galeri
-
Bae Trépassés
-
Tywynau ar Fae Trépassés