Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol | |
---|---|
Logo'r Coleg | |
Sefydlwyd | 2011 |
Math | Cyhoeddus |
Canghellor | Dr Haydn Edwards (Cadeirydd) |
Lleoliad | Caerfyrddin, Cymru |
Tadogaethau | Prifysgol Cymru |
Gwefan | http://www.colegcymraeg.ac.uk/ |
Mewn partneriaeth â phrifysgolion Cymru, mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn darparu addysg uwch ar gyfer myfyrwyr drwy gyfrwng y Gymraeg.[2] Nod y coleg ffederal hwn yw cynyddu nifer y myfyrwyr sy'n astudio cyrsiau cyfrwng Cymraeg a sicrhau bod y gefnogaeth ar gyfer y myfyrwyr hynny, ansawdd yr addysg, a phrofiadau astudio’r myfyrwyr, o’r safon uchaf. Erbyn Tachwedd 2015 roedd y Coleg yn cyflogi 115 o ddarlithwyr.[3] Prif Weithredwr y Coleg yw Dr Ioan Matthews a'i Gofrestrydd yw Dr Dafydd Trystan.
Sefydlwyd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn 2011 i weithio gyda phrifysgolion Cymru, er mwyn datblygu cyrsiau ac adnoddau cyfrwng Cymraeg i fyfyrwyr. Nid oes gan y Coleg ei gampws ei hun, ond mae’n gweithio trwy nifer o 'ganghennau' ar draws y prifysgolion yng Nghymru.[4]
Nod y canghennau yw cefnogi gwaith y Coleg a gweithredu fel pwynt cyswllt lleol i fyfyrwyr. Mae’r dewis o gyrsiau cyfrwng Cymraeg a gynigir wedi tyfu'n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf. Erbyn hyn mae dros 500 o wahanol raddau ar gael i fyfyrwyr cyfrwng Cymraeg, ynghyd â 150 o ysgoloriaethau israddedig a ddyfernir i fyfyrwyr bob blwyddyn. Dyma’r tro cyntaf i unrhyw gorff fynd ati i gynllunio cyrsiau gradd cyfrwng Cymraeg yn genedlaethol ar gyfer myfyrwyr.
Ceisia'r Coleg roi mwy o gyfleoedd astudio i fyfyrwyr cyfrwng Cymraeg, hyfforddi darlithwyr cyfrwng Cymraeg newydd, datblygu modiwlau ac adnoddau o’r radd flaenaf i fyfyrwyr cyfrwng Cymraeg ac ariannu ysgoloriaethau israddedig ac ôl-raddedigion.
Dros y blynyddoedd diwethaf mae modiwlau sy'n cael eu cynnig ar yr un pryd mewn mwy nag un brifysgol wedi dod yn fwy amlwg, gyda nifer o enghreifftiau llwyddiannus ym meysydd y Gwyddorau Amgylcheddol, y Diwydiannau Creadigol, y Gyfraith, Cerddoriaeth, Hanes ac Ieithoedd Modern Ewropeaidd.
Y Porth
[golygu | golygu cod]Mae llwyfan e-ddysgu’r Porth yn galluogi prifysgolion i rannu adnoddau cyfrwng Cymraeg ar draws Cymru.[5] Felly, mae modd manteisio ar y technolegau e-ddysgu diweddaraf. Mae hefyd yn cynnig adnoddau astudio sy’n ehangach na’r hyn sydd ar gael i fyfyrwyr yn eu prifysgol leol. Mae'r adnoddau'n cynnwys:
- deunydd cynnwys agored e.e. cyfres o eiriaduron pynciol i fyfyrwyr
- cyrsiau a modiwlau sy’n berthnasol i gynlluniau gradd penodol o faes Addysg i’r Gwyddorau Biolegol
- oriel gwe sy’n cynnwys gwefannau perthnasol o ddiddordeb i fyfyrwyr sy’n astudio pynciau trwy gyfrwng y Gymraeg
- fideos am feysydd penodol
Datblygwyd yr holl adnoddau a modiwlau ar y Porth gan ddarlithwyr o brifysgolion Cymru trwy nawdd a chydweithrediad y Coleg Cymraeg Cenedlaethol (a'r Ganolfan Addysg Uwch cyn Ebrill 2011). Mae ystod eang o'r meysydd a welir ar y Porth yn adlewyrchiad o'r datblygiadau sylweddol sydd wedi bod yn y sector, ac mae'r Porth bellach yn ganolog i'r holl ddatblygiadau yn y sector Addysg Uwch cyfrwng Cymraeg.
Ysgoloriaethau Myfyrwyr
[golygu | golygu cod]Bob blwyddyn mae’r Coleg yn dyfarnu tua 150 o ysgoloriaethau i fyfyrwyr israddedig a fydd yn dilyn cyrsiau gradd mewn prifysgolion drwy Cymru benbaladr. Ceir dau fath o ysgoloriaeth – Prif Ysgoloriaethau ac Ysgoloriaethau Cymhelliant. Mae’r Prif Ysgoloriaethau ar gyfer myfyrwyr sy’n astudio o leiaf ddwy ran o dair o’u cwrs gradd trwy gyfrwng y Gymraeg. O wneud hyn, gellir ymgeisio am un o Brif Ysgoloriaethau’r Coleg, gwerth £3,000 dros dair blynedd (£1,000 y flwyddyn). Mae bron i 300 o wahanol gyrsiau gradd bellach yn cynnwys digon o fodiwlau cyfrwng Cymraeg i fod yn gymwys ar gyfer y Prif Ysgoloriaethau.
Yn wahanol i’r Prif Ysgoloriaethau, mae’r Ysgoloriaethau Cymhelliant ar gael i fyfyrwyr sy’n bwriadu astudio cyrsiau gradd penodol yn un o’r deg maes academaidd canlynol: Daearyddiaeth, Bioleg a Gwyddorau’r Amgylchedd, Busnes a Rheolaeth, Gwaith Cymdeithasol, Gwyddorau ac Astudiaethau Chwaraeon, Y Gyfraith, Gwyddorau Iechyd, Ieithoedd Modern, Mathemateg a Ffiseg, Seicoleg a Cemeg.[6]
Mae’r Ysgoloriaethau hyn yn cynnig £500 y flwyddyn (neu £1,500 dros dair blynedd) am astudio o leiaf draean o’r cwrs gradd trwy gyfrwng y Gymraeg.
Gwerddon
[golygu | golygu cod]- Prif: Gwerddon (cylchgrawn)
Cyfnodolyn academaidd Cymraeg yw Gwerddon, sy'n cyhoeddi ymchwil ysgolheigaidd o'r Celfyddydau, y Dyniaethau a’r Gwyddorau ddwywaith y flwyddyn yn gydnaws â gofynion ‘Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil’. Dau brif amcan sydd i Gwerddon, sef symbylu a chynnal trafodaeth academaidd ar draws ystod mor eang â phosibl o feysydd, a chreu cronfa o waith ysgolheigaidd at ddefnydd myfyrwyr ymchwil ac academyddion cyfrwng Cymraeg. Y ffisegydd Dr Eleri Pryse yw Cadeirydd newydd Bwrdd Golygyddol Gwerddon.[7]
Yn ystod y 2010au gwelwyd cynnydd sylweddol ym maes ymchwil cyfrwng Cymraeg ar draws y gymuned academaidd. Fel rhan o'r ymdrech i hyrwyddo statws yr iaith o fewn addysg uwch, ystyriwyd ei bod yn hanfodol i hybu’r defnydd o’r Gymraeg fel cyfrwng ymchwil. I’r perwyl hwnnw, penderfynwyd sefydlu cyfnodolyn academaidd gyda chyfundrefn arfarnu annibynnol a fyddai'n fforwm ar gyfer cyhoeddi gwaith ysgolheigaidd cyfrwng Cymraeg ar draws y Celfyddydau, y Dyniaethau a’r Gwyddorau. Cyhoeddwyd y rhifyn cyntaf o Gwerddon ym mis Ebrill 2007.
Cymrodyr er Anrhydedd
[golygu | golygu cod]- Dr Alison Allan
- Yr Athro Brynley F. Roberts
- Catrin Stevens
- Dr Cen Williams
- Cennard Davies
- Yr Athro Elan Closs Stephens
- Geraint Talfan Davies
- Yr Athro Gwyn Thomas
- Yr Athro Hazel Walford Davies
- Heini Gruffudd
- Yr Athro Ioan Williams: Bu’n weithredol yn genedlaethol mewn fforymau a fu’n ymwneud ag addysg prifysgol drwy’r Gymraeg ac yn lladmerydd dros y Gymraeg o fewn Prifysgol Aberystwyth fel Cyfarwyddwr yr Ysgol Astudiaethau Drwy’r Gymraeg.
- Dr John Davies: un o brif haneswyr ei genhedlaeth ac awdur Hanes Cymru a llu o gyhoeddiadau eraill.
- Dr Meredydd Evans: casglwr, golygydd, hanesydd a chanwr gwerin Cymraeg.
- Yr Athro Merfyn R. Jones
- Ned Thomas
- Yr Athro Robin Williams: Pan ymrwymodd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn 2007 i sefydlu Coleg Cymraeg gwahoddwyd yr Athro Robin Williams i gadeirio Bwrdd Cynllunio ar gyfer troi’r cysyniad yn gynllun y gellid ei weithredu. O fewn llai na blwyddyn llwyddodd i sicrhau consensws ymhlith aelodau’r Bwrdd hwnnw o blaid model a ddaeth yn weithredol gyda sefydlu’r Coleg yn 2011.
- Rhian Huws Williams
- Dr Siân Wyn Siencyn
- Yr Athro M. Wynn Thomas
2018 [8]
[golygu | golygu cod]- Andrew Green
- Catrin Dafydd
- Yr Athro Deri Tomos
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Cyfri Trydar y Coleg Cymraeg; adalwyd 10 Tachwedd, 2015
- ↑ "Newyddion", Coleg Cymraeg: Pum swydd ddarlithio (BBC Cymru), http://www.bbc.co.uk/newyddion/21451614, adalwyd 30 Tachwedd 2010
- ↑ Cyfri Trydar y Coleg Cymraeg; adalwyd 10 Tachwedd, 2015
- ↑ "Adroddiad yr Athro Robin Williams ar gyfer model Coleg Ffederal", Addysg a Sgiliau (Llywodraeth Cymru), http://wales.gov.uk/topics/educationandskills/publications/reports/colegffederal/?lang=cy, adalwyd 30 Tachwedd 2010
- ↑ "Y Porth", Llwyfan e-ddysgu y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yw'r Porth, sy'n galluogi prifysgolion Cymru i rannu adnoddau cyfrwng Cymraeg yn genedlaethol (y Coleg Cymraeg Cenedlaethol), http://www.porth.ac.uk/cy/, adalwyd 30 Tachwedd 2010
- ↑ "Prosbectws 2014", Ysgoloriaethau (Y Coleg Cymraeg), http://www.colegcymraeg.ac.uk/prosbectws/pdf/ccc_prosbectws2014_cy.pdf, adalwyd 30 Gorffennaf 2013[dolen farw]
- ↑ "Gwerddon", Hafan (Y Coleg Cymraeg), http://www.gwerddon.org/cy/hafan/, adalwyd 30 Gorffennaf 2013
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-09-23. Cyrchwyd 2019-10-22.