Berf
Enghraifft o'r canlynol | part of speech |
---|---|
Math | gair, content word |
Rhan o | word order |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Rhan ymadrodd sy'n mynegi gweithred, digwyddiad neu gyflwr o fod yw berf.[1] Diffiniad naïf fyddai mai gair gwneud (rhywbeth) yw berf. Daw'r gair Cymraeg ei hun o'r gair Lladin verbum ‘gair’.[2]
Rhediad berfau
[golygu | golygu cod]Gall ffurf berf newid i ddangos person, rhif, amser a modd yn y Gymraeg. Mewn ieithoedd eraill, gall ddangos priodweddau eraill megis cenedl. Er enghraifft, dyma pob ffurf gryno posib y berf caru yn y Cymraeg llenyddol:
Modd mynegol
[golygu | golygu cod]Unigol Lluosog Presennol Person 1af caraf carwn 2il berson ceri cerwch 3ydd person câr carant Amhersonol cerir Amherffaith Person 1af carwn carem 2il berson carit carech 3ydd person carai carent Amhersonol cerid Gorffennol Person 1af cerais carasom 2il berson ceraist carasoch 3ydd person carodd carasant Amhersonol carwyd Gorberffaith Person 1af caraswn carasem 2il berson carasit carasech 3ydd person carasai carasent Amhersonol caresid
Modd dibynnol
[golygu | golygu cod]Unigol Lluosog Presennol Person 1af carwyf carom 2il berson cerych caroch 3ydd person caro caront Amhersonol carer Amherffaith Person 1af carwn carem 2il berson carit carech 3ydd person carai carent Amhersonol cerid
Modd gorchmynnol
[golygu | golygu cod]Unigol Lluosog Presennol Person 1af carwn 2il berson câr cerwch 3ydd person cared carant Amhersonol carer
Berfenwau
[golygu | golygu cod]Fel rheol, nid yw berfenwau fel bwyta yn cael eu cyfri fel berfau yn y Gymraeg, ond mae'u swyddogaeth yn debyg i ferfau anghyfyngedig a geir mewn llawer o ieithoedd.
Berfau cryno a berfau cwmpasog
[golygu | golygu cod]Mae berf gryno (hefyd berf seml neu rediadol) fel un o'r ffurfiau o canu uchod, yn dangos person, amser ac ati yn ffurf y prif ferf. Ond gellir defnyddio berf arall fel bod i wneud y gwaith yma, gan adael y prif ferf fel berfenw yn unig. Gelwir hyn yn ferf gwmpasog, gan ei fod yn effeithio ar rannau arall o'r frawddeg. E.e. yn lle o Caraf ferch (ffurf gryno), gallwn ddweud Bydda i'n caru merch neu Dw i'n caru merch ac ati (ffurfiau cwmpasog).
Falens
[golygu | golygu cod]Un ffordd o wahaniaethu rhwng ferfau yw falens; cyfanswm goddrychau a gwrthrychau'r ferf.
Falens 0
[golygu | golygu cod]Mae'r math yma o ferf yn disgrifio rhywbeth sy'n digwydd (heb nodi pwy sy'n ei wneud nag i bwy). Enghraifft yw berf amhersonol fel canwyd cân yn y Gymraeg.
Falens 1
[golygu | golygu cod]Gelwir berf sydd â goddrych, ond heb wrthrych yn ferf gyflawn. Er enghraifft, cysgodd Dafydd.
Falens 2
[golygu | golygu cod]Mae gan ferf anghyflawn wrthrych yn ogystal â goddrych, er enghraifft, Bwytodd ef fwyd.
Falens 3
[golygu | golygu cod]Goddrych a dau wrthrych sydd gan ferf o'r fath fel arfer, e.e. Rhoddod Siôn yr anrheg i Siân.
Cyfeiriadau a nodiadau
[golygu | golygu cod]- ↑ D. A. Thorne, Gramadeg yr Iaith Gymraeg (1996), par. 259
- ↑ Evan J. Jones, Dysgu Lladin (Gwasg Prifysgol Cymru, 1933), tud. 2.