Gaillimh
Gwedd
(Ailgyfeiriad o Galway)
Math | dinas, dinas weinyddol yng Ngweriniaeth Iwerddon |
---|---|
Poblogaeth | 83,456 |
Sefydlwyd | |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Contae na Gaillimhe |
Gwlad | Gweriniaeth Iwerddon |
Arwynebedd | 53.43 km² |
Uwch y môr | 25 ±1 metr |
Cyfesurynnau | 53.2729°N 9.0418°W |
Cod post | H91 |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | office of the Mayor of Galway |
Corff deddfwriaethol | legislative body of Galway City Council |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Galway |
Prif ddinas Swydd Gaillimh, gorllewin Iwerddon, yw Gaillimh (Saesneg: Galway),[1] sy'n yr unig ddinas yn nhalaith Connachta. Saif ar lan Bae Gaillimh lle rhed Afon Coirib i'r môr ar ddiwedd ei thaith fer o Loch Coirib, i'r gogledd. Dros y bae i'r gorllewin ceir Oileáin Árann a gysylltir â'r ddinas gan wasanaeth fferi rheolaidd.
Mae'r iaith Wyddeleg yn gymharol gryf yma, o'i chymharu â rhannau eraill o'r wlad. Mae rhannau o'r ddinas yn rhan o Gaeltacht Swydd Gaillimh ac mae'r ddinas ei hun â statws 'Tref Wasanaethu'r Gaeltacht' ac felly, yn rhoi cefnogaeth arbennig ar gyfer darpariaeth yn yr iaith i'w thrigolion a thrigolion y Gaeltacht gyfagos.
Adeiladau a chofadeiladau
[golygu | golygu cod]- Amgueddfa'r Ddinas Gaillimh
- Eglwys gadeiriol
- Eglwys Sant Niclas
- Prifddinas Genedlaethol Iwerddon, Gaillimh
- Sgwar Eyre
- Taibhdhearc na Gaillimhe (theatr iaith Wyddeleg genedlaethol Iwerddon)
Enwogion
[golygu | golygu cod]- Frank Harris (1856-1931), awdur
- Pádraic Ó Conaire (1882-1928), llenor Gwyddeleg
- Siobhán McKenna (1923-1986), actores
Chwaraeon
[golygu | golygu cod]Mae'r ddinas yn gartref i dîm rygbi Connacht sy'n chwarae yn y Pro14.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Placenames Database of Ireland", logainm.ie; adalwyd 10 Hydref 2022