Dobunni
Gwedd
Llywyth Celtaidd yn byw yng ngorllewin Lloegr oedd y Dobunni. Roedd eu tiriogaethau'n cynnwys yr hyn sy'n awr yn Avon, Swydd Gaerloyw a gogledd Gwlad yr Haf. Eu prifddinas yn y cyfnod Rhufeinig oedd Corinium Dobunnorum, heddiw Cirencester.
Roeddynt yn bathu darnau arian, a gellir casglu oddi wrth y rhain fod eu tiriogaeth wedi ei rhannu yn rhan ogleddol a rhan ddeheuol, weithiau wedi eu huno fan un brenin. Ymddengys nad oedd y Dobunni yn bobl ryfelgar, ac ymostyngasant i'r Rhufeiniaid heb ymladd.