Dinarzh
Math | cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 10,219 |
Pennaeth llywodraeth | Arnaud Salmon |
Gefeilldref/i | Starnberg, Tewynblustri |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Llydaw |
Arwynebedd | 7.84 km² |
Uwch y môr | 28 metr, 0 metr, 56 metr |
Yn ffinio gyda | Pleurestud, Kerricharzh-an-Arvor, Sant-Luner |
Cyfesurynnau | 48.6325°N 2.0617°W |
Cod post | 35800 |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Dinarzh |
Pennaeth y Llywodraeth | Arnaud Salmon |
Mae Dinarzh (Ffrangeg: Dinard) yn gymuned yn department Il-ha-Gwilen (Ffrangeg: d'Ille-et-Vilaine), Llydaw. Mae'n ffinio gyda Pleurtuit, Kerricharzh-an-Arvor, Saint-Lunaire ac mae ganddi boblogaeth o tua 10,219 (1 Ionawr 2021).
Yn yr erthygl hon, cyfieithir y termau brodorol kumunioù (Llydaweg) a communes (Ffrangeg) i "gymuned" yn Gymraeg. Mae'n rhan o hen fro Bro Sant-Maloù.
Poblogaeth
[golygu | golygu cod]Cysylltiadau rhyngwladol
[golygu | golygu cod]Defnyddiodd Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru Novotel Thalassa, Dinarzh fel eu cartref yn ystod Pencampwriaeth UEFA Euro 2016.[1]
Gefeillio
[golygu | golygu cod]Mae Dinarzh wedi'i gefeillio â:
Pellteroedd
[golygu | golygu cod]O'r gymuned i: | Roazhon
Préfecture |
Paris
Prifddinas Ffrainc |
Calais
Prif Porthladd o Brydain |
Caerdydd
Prifddinas Cymru |
Llundain |
Fel hed yr aderyn (km) | 64.317 | 324.955 | 382.367 | 327.228 | 348.105 |
Ar y ffordd (km) | 72.076 | 420.725 | 518.516 | 619.898 | 686.890 |
Pobl Dinarzh
[golygu | golygu cod]Genedigaethau
[golygu | golygu cod]- Victor Colas de la Baronnais (1764 - 1825), swyddog milwrol a Brenhinwr.
- Malo Colas de la Baronnais (1770 - 1795) swyddog milwrol a Brenhinwr, brawd yr uchod.
- Pierre Guillaume Gicquel des Touches (1770 - 1824), morwr Ffrengig.
- Philippe Barot (g 1949), pêl-droediwr Ffrengig.
- John Paul Cohuet (g 1954), pêl-droediwr Ffrengig.
- Yves Colleu (g, 1961), pêl-droediwr Ffrengig a hyfforddwr.
Marwolaethau
[golygu | golygu cod]- Jean Abel Gruvel (1870 - 1941), Ffrangeg biolegydd morol.
- Camille Le Mercier d'Erm (1888 - 1978), bardd a chenedlaetholwr Llydewig.
- Michel Roux-Spitz (1888 - 1957), pensaer Ffrengig.
- Clara Tambour (1891 - 1982), actores Ffrengig.
Ymwelwyr
[golygu | golygu cod]Bu llawer o enwogion rhyngwladol yn ymweld a Dinard fel cyrchfan gwyliau, gan gynnwys:
- Albert I, Brenin yr Belgiaid
- Jacques Chirac, cyn Lywydd y Weriniaeth Ffrengig (1995-2007) a sefydlodd yno arddangosfa Pinault yn yr haf 200,939
- Agatha Christie, awdur Prydeinig
- Winston Churchill, Prif Weinidog Prydain
- Kirk Douglas, actor Americanaidd
- Edward VII, Tywysog Cymru a Brenin y Deyrnas Unedig ac Iwerddon
- Siôr V, Dug Efrog a Brenin y Deyrnas Unedig ac Gogledd yr Iwerddon, mab y blaenorol
- Hugh Grant, actor Prydeinig
- teulu Hennessy, o dras Wyddelig, perchenogion y cwmni cognac enwog
- Victor Hugo, awdur Ffrengig
- Albert Lacroix, cyhoeddwr o Wlad Belg
- Lawrence o Arabia, anturiaethwr Prydeinig oedd yn byw yn Dinard ei blentyndod cynnar 1891-1894, wedi symud yno o Dremadog.
- Pablo Picasso, arlunydd Sbaeneg
- Dominique de Villepin, cyn-brif weinidog Ffrainc (2005-2007)
-
Albert I, Brenin yr Belgiaid
-
Jacques Chirac
-
Agatha Christie
-
Winston Churchill
-
Edward VII
-
Kirk Douglas
-
Lawrence o Arabia
-
Pablo Picaso
Traethau
[golygu | golygu cod]Mae gan y dref nifer o draethau, pob un yn tywodlyd, yn lân ac agos i ganol y dref. Y brif traeth yw Plage de l'Écluse yr ail fwyaf yw Saint Enogat mae thraethau Prieuré hefyd yn nodedig.
Adeiladau Hanesyddol
[golygu | golygu cod]- Harbwr yr Ynys
- Tŷ'r Tywysog Du
- Manoir de la Baronnais
- Cyn Priordy Dinarzh
- Villa "Les Roches Brunes"
-
Harbwr yr ynys a'i gaer amddiffynnol
-
Tŷ'r Tywysog Du
-
Manoir de la Baronnais
-
Yr hen briordy
-
Villa "Les Roches Brunes