Neidio i'r cynnwys

Moel Goedog

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Henebion Moel Goedog)
Moel Goedog
Mathbryngaer sy'n rhannol ddilyn tirffurf y graig Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.8721°N 4.0612°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH61373250 Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethheneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr CadwME059 Edit this on Wikidata

Bryn a safle archaeolegol yn ne Gwynedd yw Moel Goedog (370 metr). Fe'i lleolir tua 2.5 milltir i'r gogledd-ddwyrain o Harlech yn ardal Ardudwy, Meirionnydd: cyfeiriad grid SH609323.

Cofrestrwyd y fryngaer hon gan Cadw a chaiff ei hadnabod gyda'r rhif SAM unigryw: ME059.[1] Ceir tua 300 o fryngaerau ar restr CADW o henebion, er bod archaeolegwyr yn nodi bod oddeutu 570 ohonyn nhw i gyd yng Nghymru.

Caer Moel Goedog

[golygu | golygu cod]

Mae'r bryngaer ar gopa Moel Goedog yn dyddio o Oes yr Haearn.[2]

Amddiffynir y gaer gron hon gan ddau glawdd pridd a cherrig. Gan fod olion y cloddiau hyn mor ansylweddol, mae archaeolegwyr yn credu mae sylfeini dau balisâd pren oeddynt. Ceir caer gyffelyb yn Llŷn, sef Castell Odo, lle gellir dyddio'r palisadau pren a godwyd yno i'r 3edd neu'r 4g CC. Tybir y codwyd caer Moel Goedog gan ffermwyr y bryniau hyn fel noddfa iddyn nhw a'u hanifeiliaid adeg argyfwng. Ceir cytiau cynhanesyddol ar lethrau Moel Goedog ond does dim modd profi eu bod yn perthyn i'r un cyfnod â'r gaer ei hun, er bod hynny'n debygol. Mae bwlch syml yn y cloddiau yn dynodi'r fynedfa, a thybir mai amddiffynwaith o bren oedd hynny hefyd.[2]

Carneddau

[golygu | golygu cod]

Ceir dwy garnedd gylchog ar lethrau'r bryn (cyfeiriad grid SH609323 a cyfeiriad grid SH635121).

Copa Moel Goedog gyda rhan o'r fryngaer.

Math o garnedd gynhanesyddol a godwyd gan y Celtiaid ydy “carnedd gylchog”. (Saesneg: ring cairn); fe'i codwyd i nodi mangre arbennig, ar gyfer defodau neu i goffau'r meirw, a hynny yn Oes yr Efydd, mae'n debyg. Caiff ei nodi ar fapiau'r Ordanance gyda'r gair 'Cairn'. Sylwer, hefyd, mai “carnedd gylchog” ydy'r term sy'n cael ei ddefnyddio yng ngeiriadur yr Academi, yn hytrach na "charnedd gylch". Cofrestrwyd yr heneb gyntaf gan Cadw gyda'r rhif SAM: ME058.[3] Cofrestrwyd yr ail gyda'r rhif SAM: ME100.[3]

Mynediad

[golygu | golygu cod]

Gellir cyrraedd Moel Goedog o'r lôn fynydd sy'n cysylltu Harlech a Llandecwyn. Ceir sawl heneb ar hyd y ffordd hon, sy'n cyrraedd o fewn chwarter milltir o ben y bryn, sy'n awgrymu fod cysylltiad rhwng y gaer a'r llwybr cynhanesyddol hwn hefyd.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Cofrestr Cadw.
  2. 2.0 2.1 Christopher Houlder, Wales: an archaeological guide (Faber & Faber, 1978), tud. 102.
  3. 3.0 3.1 Data Cymru Gyfan, CADW

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]