Neidio i'r cynnwys

Jeffrey Epstein

Oddi ar Wicipedia
Jeffrey Epstein
GanwydJeffrey Edward Epstein Edit this on Wikidata
20 Ionawr 1953 Edit this on Wikidata
Brooklyn Edit this on Wikidata
Bu farw10 Awst 2019 Edit this on Wikidata
o crogi, strangling Edit this on Wikidata
Metropolitan Correctional Center, New York City, Dinas Efrog Newydd Edit this on Wikidata
Man preswylLittle Saint James, Palm Beach, Herbert N. Straus House Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Sefydliad Cyrsiau'r Gwyddorau Mathemategol
  • Cooper Union
  • Lafayette High School Edit this on Wikidata
Galwedigaethperson busnes, athro, banciwr Edit this on Wikidata
Cyflogwr
TadSeymour G. Epstein Edit this on Wikidata
MamPauline Epstein Edit this on Wikidata
PartnerGhislaine Maxwell Edit this on Wikidata
llofnod

Ariannwr Americanaidd oedd Jeffrey Edward Epstein (20 Ionawr 195310 Awst 2019) a gafwyd yn euog o droseddau rhyw yn erbyn plant.[1][2] Dechreuodd ei yrfa yn y byd ariannol gyda'r banc buddsoddi Bear Stearns, cyn iddo sefydlu cwmni ei hunan, J. Epstein & Co. Cafwyd yn euog o droseddau rhyw yn 2008 am reoli criw o buteiniaid dan oed a gawsant eu gorfodi i gael cyfathrach rywiol â phobl uchel eu statws yng nghylchoedd arianneg, gwleidyddiaeth, a diwylliant.[3]

Dechreuodd ymchwiliad gan heddlu Palm Beach, Fflorida, yn 2005 wedi i Epstein gael ei gyhuddo o gyffwrdd merch 14 oed mewn modd rhywiol. Fe blediodd yn euog ac yn 2008 fe'i dyfarnwyd yn euog gan lys taleithiol yn Fflorida o lithio putain ac o gaffael merch dan 18 oed i buteinio. Yn sgil bargen ei ble, bwriodd 13 mis dan glo gyda chaniatâd i adael y ddalfa i weithio. Cydnabuwyd 36 o ferched, yr ieuangaf ohonynt yn 14 oed, yn ddioddefwyr yn ôl yr awdurdodau ffederal.[4][5] Yn ogystal, mae Epstein wedi ei gyhuddo gan nifer o unigolion o ddal menywod a merched dan oed yn gaethweision rhyw.[6]

Arestiwyd Epstein unwaith eto ar 6 Gorffennaf 2019 ar gyhuddiadau ffederal o fasnachu plant dan oed am ryw yn nhaleithiau Fflorida ac Efrog Newydd.[7][8]

Bu farw ar 10 Awst 2019, wedi crogi ei hunan yn ei gell mewn carchar ym Manhattan, yn ôl y sôn.[9][10][11] Tair wythnos ynghynt, cafwyd hyd i Epstein yn anymwybodol yn y ddalfa gydag anafiadau i'w wddf, a phenderfynwyd ei wylio'n gyson am chwe diwrnod i atal hunanladdiad. Daeth y cyfnod hwnnw o wyliadwriaeth i ben deuddeng niwrnod cyn ei farwolaeth.[12] Wedi awtopsi ar 11 Awst, datganodd swyddfa archwiliwr meddygol Dinas Efrog Newydd bod angen rhagor o wybodaeth cyn pennu achos y farwolaeth, ond hunanladdiad ydy'r rhagdybiaeth.[13] Mynegodd nifer o bobl ddrwgdybiaeth o'r stori honno, a bu ymchwiliad ffederal ar y gweill i farwolaeth Epstein.[14][15]

Ar 19 Tachwedd 2019 cyhuddwyd y gwarchodwyr carchar Michael Thomas a Tova Noel, gan erlynwyr ffederal yn Efrog Newydd, o ffugio cofnodion a chynllwynio. Roedd recordiad fideo o'r carchar yn datgelu fod Epstein wedi bod yn ei gell am wyth awr heb neb yn ei wylio, yn groes i reolau, cyn cael ei ganfod yn farw.[16][17][18]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Jeffrey Epstein Charged in Manhattan Federal Court With Sex Trafficking of Minors" (Press release). U.S. Attorney's Office for the Southern District of New York. July 8, 2019. https://www.justice.gov/usao-sdny/pr/jeffrey-epstein-charged-manhattan-federal-court-sex-trafficking-minors. Adalwyd July 8, 2019.
  2. Lewis, Paul (Ionawr 4, 2015). "Jeffrey Epstein: The rise and fall of teacher turned tycoon". The Guardian. Archifwyd o'r gwreiddiol ar Tachwedd 26, 2016. Cyrchwyd Tachwedd 7, 2016. Unknown parameter |dead-url= ignored (help)
  3. "Who Was Jeffrey Epstein Calling? A close study of his circle—social, professional, transactional—reveals a damning portrait of elite New York". New York. July 22, 2019. Cyrchwyd July 25, 2019.
  4. Brown, Julie (Tachwedd 28, 2018). "How a future Trump Cabinet member gave a serial sex abuser the deal of a lifetime". Miami Herald. Archifwyd o'r gwreiddiol ar Tachwedd 28, 2018. Cyrchwyd Tachwedd 28, 2018. Unknown parameter |dead-url= ignored (help)
  5. Buncombe, Andrew (Ionawr 2, 2015). "Jeffrey Epstein: the billionaire paedophile with links to Bill Clinton, Kevin Spacey, Robert Maxwell – and Prince Andrew". The Independent. London, England. Archifwyd o'r gwreiddiol ar Medi 25, 2015. Cyrchwyd Tachwedd 7, 2016. Unknown parameter |dead-url= ignored (help)
  6. Saul, Emily; Denney, Andrew; Eustachewich, Lia (2019-08-09). "Jeffrey Epstein's alleged 'sex slave' reveals the men she claims she was forced to sleep with". New York Post (yn Saesneg). Cyrchwyd 2019-08-10.
  7. Shallwani, Pervaiz; Briquelet, Kate; Siegel, Harry (Gorffennaf 6, 2019). "Jeffrey Epstein Arrested for Sex Trafficking of Minors". The Daily Beast. Archifwyd o'r gwreiddiol ar Gorffennaf 7, 2019. Cyrchwyd Gorffennaf 7, 2019. Unknown parameter |dead-url= ignored (help)
  8. Chaitin, Daniel (Gorffennaf 7, 2019). "Jeffrey Epstein arrested for sex trafficking of minors in Florida and New York". Washington Examiner. Archifwyd o'r gwreiddiol ar Gorffennaf 7, 2019. Cyrchwyd Gorffennaf 7, 2019. Unknown parameter |dead-url= ignored (help)
  9. "Canfod y miliwnydd Jeffrey Epstein yn farw yn ei gell yn Efrog Newydd", Golwg360 (10 Awst 2019). Adalwyd ar 12 Awst 2019.
  10. Rashbaum, William K.; Weiser, Benjamin; Gold, Michael (August 10, 2019). "Jeffrey Epstein Dead in Suicide at Jail, Spurring Inquiries". The New York Times. Cyrchwyd August 10, 2019.
  11. Zapotosky, Matt; Barrett, Devlin; Merle, Renae; Leonnig, Carol D. (August 10, 2019). "Jeffrey Epstein dead after apparent suicide in New York jail". The Washington Post. Cyrchwyd August 10, 2019.
  12. Watkins, Ali (2019-08-10). "Why Wasn't Jeffrey Epstein on Suicide Watch When He Died?". The New York Times. Cyrchwyd 2019-08-10.
  13. Johnson, Alex; Madani, Doha; Winter, Tom (August 11, 2019). "After autopsy, cause of Jeffrey Epstein's death awaits 'further information'". NBC News.
  14. "Ymchwiliad ffederal i farwolaeth Jeffrey Epstein", Golwg360 (11 Awst 2019). Adalwyd ar 12 Awst 2019.
  15. "Carchar lle bu farw Jeffrey Epstein yn “brin o staff”", Golwg360 (12 Awst 2019). Adalwyd ar 12 Awst 2019.
  16. "Jeffrey Epstein's Prison Guards Are Indicted On Federal Charges". NPR.org (yn Saesneg). Cyrchwyd 2019-11-19.
  17. "Epstein guards charged with falsifying records" (yn Saesneg). 2019-11-19. Cyrchwyd 2019-11-19.
  18. https://www.justice.gov/usao-sdny/press-release/file/1218466/download