Owain Meirion
Owain Meirion | |
---|---|
Ganwyd | 1803 y Bala |
Bu farw | 24 Mehefin 1868 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd, llenor, canwr |
Baledwr oedd Owain Meirion neu Owen Gruffydd (1803 – 22 Mehefin 1868), a anwyd yn Y Bala.
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Ni wyddom lawer am ei gefndir na'i flynyddoedd cynnar ond mae'n amlwg wrth ei waith ei fod wedi dysgu darllen ac ysgrifennu yn y Gymraeg. Yn wahanol i nifer o faledwyr y 19g roedd Owain yn canu ar y mesurau caeth yn ogystal â'r mesurau rhydd pbologaidd. Roedd hefyd yn canu gyda'r tannau.
Bywyd digon llwm a gafodd, serch hynny. Treuliodd ddeugain mlynedd yn crwydro'r ffeiriau o Fôn i Fynwy ond pan aeth yn rhy hen bu rhaid iddo fyw 'ar y plwy' mewn tŷ bychan yn Llanbrynmair:
- 'Byw ar dri swllt, bron d'rysu, - am wythnos
- A methu trafaelu;
- Drudaniaeth yn dirdynu
- I'm herbyn er dychryn du.'
Canai ar y pynciau poblogaidd oedd yn rhan o stoc y baledwyr, fel 'Suddo'r Royal Charter'. Byddai'n sefyll mewn ffair yn pwyso ar ei bastwn tra'n datgan ei gerddi a chynnig copïau i'w prynu.
Bu farw ar 22 Mehefin, 1868, yn 65 mlwydd oed. Er ei fod yn ddyn tlawd cafodd cofeb weddus iddo yn Llanbrynmair, diolch i ymdrechion ffrindiau a beirdd fel Mynyddog, a gyfansoddodd yr englyn coffa sydd ar y gofeb:
- 'Baledwr heb waelodion - i'w ddoniau
- Oedd hwn - mae'i wlad dirion
- Yn weddw'n awr am y ddawn hon,
- Yn marw Owain Meirion.'
Ffynhonnell
[golygu | golygu cod]- Robert Griffith, traethawd ar y bardd yn, Deuddeg o Feirdd y Berwyn (Lerpwl, 1910).