Llathen
Mae llathen [1] (llath gyda rhifau heblaw am un; weithiau llathaid; lluosog llathenni, weithiau llathenau; talfyriad a symbol Saesneg yd [2][3]) - yn enw ar uned o fesur Uned Eingl-Sacsonaidd yn ogystal ag ar hen uned Gymreig. Mae'n un o unedau sylfaen systemau mesur y Deyrnas Unedig ac Unol Daleithiau America. Mae'n hafal i dair troedfedd neu 36 modfedd, ac mae ei hyd mewn unedau SI yn amrywio yn dibynnu ar y system. Y llathen a ddefnyddir amlaf yw'r llathen ryngwladol, sy'n mesur 0.9144 metr yn union. Mae 1,760 llath yn hafal i 1 filltir Seisnig.
Yn gyfatebol, defnyddir unedau llathen sgwâr a llathen giwbig hefyd. Weithiau mae'r unedau hyn hefyd yn cael eu cyfeirio atynt fel "llathen" hefyd.
Unedau cyfatebol
[golygu | golygu cod]Mae 1 llathen ryngwladol yn cyfateb i:
Tarddiad y gair Llathen a Yard
[golygu | golygu cod]Llath
[golygu | golygu cod]Cyn Deddfau Uno roedd gan Gymru ei unedau mesur Cymreig a phwyso ei hun, yn seiliedig gan amlaf ar y corff dynol a'r byd amaethyddol.
Daw'r gair llath o'r Celteg tybiedig, *slattā sydd gytras â'r Saesneg Canol latthe o'r Hen Almaeneg Uchel, latia ac yn gyfystyr â'r Gwyddeleg, 'slat'. Ei ystyr yw "ffon, gwialen feinsyth cymharol hir" a ceir y cyfeiriad cofnodedig cynharaf o'r gair o'r 13g ac hynny yng nghyd-destun gwialen a hefyd fel mesuriad. Ceir y cyfeiriad cynharaf cofnodedig ato fel mesur wrth gyfeirio at Gyfraith Hywel Dda; A deunaw troet ued yg gwialen Hywel da; a deunaw llath auyd yn hyt yr erw, a dwylath o let.
"Gwialen neu ffon o amrywiol hyd (yn wreiddiol 18 troedfedd, yn cyfateb i 13.5 o droedfeddi modern) i fesur tir, erwydden .... yn amrywio o 11.5 i 24 o droedfeddi; cufydd, tua 18 modfedd, sef hyd y fraich o'r penelin i'r hirfys yr hyd hwnnw o frethyn &c (yr ystyr gyffredinol bellach) mesur hyd safonol sef 3 troedfedd neu 26 o fodfeddi .."
Yng Nghymru'r Oesoedd Canol roedd y droedfedd yn uned fesur sylfaenol a cheir cyfeiriadau ati yng Nghyfraith Hywel; ond naw modfedd yn hytrach na deuddeg oedd hyd y droedfedd Gymreig.[4] Roedd y llath Gymreig tua 40 modfedd. Cofied bod tri troedfedd Gymreig yn creu cam ("pace") Seisnig.[5]
Yard
[golygu | golygu cod]Mae'r gair yard yn Saesneg, ac yn ei dro y gair iard yn Gymraeg, yn deillio o'r hen air am ffon neu wialen syml. Mae'r enw yn deillio o'r Hen Saesneg, gerd, gyrd ac ati a ddefnyddiwyd ar gyfer canghennau, trosolion a gwiail mesur. Fe'i tystiwyd gyntaf yng nghyfreithiau Ine (hefyd Ina), Brenin Wessex o ddiwedd y 7g, lle mai'r "iard of land" a grybwyllir yw'r "yardland", hen uned asesu treth yn Lloegr sy'n hafal i groen (hide) 1⁄4.
Mae union darddiad yr uned ei hun yn ansicr - mae rhai pobl yn credu ei fod yn dyblu'r cufydd neu'n deillio o uned gyfaint; dywed eraill fod yr iard yn fesur o'ch cam. Dyfaliad arall yw bod yr iard i fod i ddod o gylchedd gwasg y person.
Yn hanesyddol, mae dwy fersiwn o'r uned:
- Seisnig (Imp. Yd) - yn hanesyddol hŷn, yn seiliedig ar batrwm corfforol wedi'i wneud o efydd, wedi'i storio yn Llundain yn adeilad y Senedd; ei werth ym 1934 oedd 0.91440186 m
- Americanaidd (UD yd) - yn seiliedig ar fesurydd, y penderfynwyd ym 1866 i fod yn 0.9144018288 m
Mae'n amhosibl arsylwi ar y gwahaniaeth rhyngddynt heb offer mesur arbenigol, gan mai dim ond 0.0000312 milimetr ydyw (0.0312 micrometr). Ar hyn o bryd, mae'r ddau yn cael eu pennu gan y mesurydd.
Ar ôl cyflwyno'r system SI, cafodd ei disodli gan y metr, ond mewn gwledydd Saesneg eu hiaith mae'n dal i gael ei ddefnyddio ym mywyd beunyddiol ac mewn llenyddiaeth.
Defnydd cyfredol
[golygu | golygu cod]Er i'r rhan fwyaf o wledydd y Gymanwlad Brydeinig ddiosg y System Imperial a mabwysiadu'r System fetrig mae'r hen drefn yn dal i gael ei harddel, os nad yn gyfredol, yna fel sail ar gyfer sawl camp chwaraeon.
Defnyddir yr iard fel yr uned safonol o fesur hyd cae mewn Pêl-droed Americanaidd[6], Pêl-droed Canadaidd[7], pêl-droed,[8] dimensiynau cae criced,[9] ac mewn rhai gwledydd, mesuriadau llwybr rhodrio ('fairway') golff.
Amrywiaethau ar y Llath
[golygu | golygu cod]Roedd mesur gwrthrych neu arwynebedd yn ôl gwialen neu ffon yn gyffredin hyd at ac wedi'r Oesoedd Canol. Defnyddiwyd amrywiaeth ar y llath mewn sawl gwlad arall, ac yn aml wrth gair gynhenid am 'gwialen' neu ffon' (Ffrangeg verge, Sbaeneg vara). Er na arddelir y mesuriadau yma bellach yn swyddogol yn Sbaen na Gwlad Belg, roedd y termau a'r mesuriadau yn cyfateb yn fras i'r llath neu'r yard Seisnig.
Llath neu vara Sbaenaidd
[golygu | golygu cod]Mae'r wialen neu'r vara Sbaenaidd yn mesur 0.835905 metr.
Y "vara de Burgos", a ardystiwyd er 1348, oedd prif fesur Teyrnas Castilla i ddechrau. Ym 1568, dan deyrnasiad Felipe II, brenin Sbaen o Sbaen, mab Siarl V, daeth yn wialen a mesur swyddogol Sbaen gyfan.[10]
Llath Gwlad Belg
[golygu | golygu cod]Mae llath Gwlad Belg yn hen uned gyfatebol o arwynebedd, yn y rhan Ffrangeg ei hiaith o'r wlad ar 436 m2 (neu oddeutu 23 llath yr hectar). Yn y rhan o'r wlad sy'n siarad Iseldireg, mae'n cyfateb i union 500 m2 (neu 20 llath yr hectar). Mae 20 "llathen Ffrangeg" yn cyfateb, yng Ngwlad Belg, i 'bonnier'.
Idiom ac iaith
[golygu | golygu cod]Defnyddir yr idiom "ddim llawn llathen" i gyfeirio at berson â nam meddyliol neu heb fod yn ei iawn bwyll.[11]
Ceir y gair hudlath (hud + llath) i olygu 'wand' yn y Gymraeg, sef ffon hud.[12] Defnyddir y gair 'llath' mewn sawl cyd-destun wrth gyfeirio at wialen neu ffon yn hytrach nag fel mesuriad.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Modfedd
- Troedfedd
- Unedau mesur Cymreig
- System fetrig
- Unedau imperial
- Unedau ychwanegol at yr Unedau SI
Dolenni
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ https://en.wiktionary.org/wiki/llath
- ↑ "Recommended Unit Symbols, SI Prefixes, and Abbreviations" (PDF). Institute of Electrical and Electronics Engineers (IEEE). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2003-03-18. Cyrchwyd 7 April 2021.
- ↑ BS350:Part 1:1974 Conversion factors and tables Part 1. Basis of tables. Conversion factors. British Standards Institution. 1974. tt. 5, 100.
- ↑ Aled Rhys Wiliam (gol.), Llyfr Iorwerth (Gwasg Prifysgol Cymru, 1960), t.119
- ↑ https://books.google.co.uk/books?id=zYZCAAAAcAAJ&pg=PA90#v=onepage&q&f=false
- ↑ "American Football pitch dimensions". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-12-26. Cyrchwyd 2021-08-31.
- ↑ "Canadian Football Pitch dimensions". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-08-29. Cyrchwyd 2021-08-31.
- ↑ Association Football pitch dimensions,
- ↑ Cricket pitch dimensions
- ↑ Suzanne Débarbat, Antonio E. Ten, Mètre et système métrique, Universitad de València, 1993.
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-08-31. Cyrchwyd 2021-08-31.
- ↑ https://en.wiktionary.org/wiki/hudlath#Welsh