Neidio i'r cynnwys

Morwyn dywyll

Oddi ar Wicipedia
Morwyn dywyll
Gwryw C. virgo
Benyw C. virgo
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Odonata
Teulu: Calopterygidae
Genws: Calopteryx
Rhywogaeth: C. virgo
Enw deuenwol
Calopteryx virgo
(Linnaeus, 10fed rhifyn o Systema Naturae; 1758)

Gwas y neidr ewropeaidd ydy Morwyn dywyll (lluosog: morwynion tywyll) (Lladin: Calopteryx virgo; Saesneg: Beautiful demoiselle), sy'n bryfyn sy'n perthyn i Urdd y Odonata (sef Urdd y Gweision neidr). Fe'i canfyddir ger nentydd byrlymus, sydyn eu llif, sydd yn aml ger coedwig neu glwstwr o goed. Mae i'w ganfod ar hyd a lled Ewrop a mannau eraill ac mae ar gael yng Nghymru. n o ddwy rywogaeth o fursennod hynod ddeniadol, y llall yw'r forwyn wych (C. splendens). De Lloegr a Chymru yw cadarnleoedd C. virgo, sy'n hoff o afonydd glan ac eitha chwim gyda phorfa drwchus gerllaw.

Cynefin

[golygu | golygu cod]

Yn ystod y dydd cynefin yr oedolyn yw glannau afonydd tawel . Mae'r gwryw yn eitha tiriogaethol, gan sefyll ar frigau a dail ger yr afon neu'r nant ac yn hedfan ar ôl pryfaid sy'n pasio; yn aml, dont yn ôl i'r un hen le. Mae'r fenyw, fodd bynnag, yn treulio'i hamser i ffwrdd o'r dŵr, oni bai ei bod am ddodwy neu chwilio am gymar.

Ymddygiad

[golygu | golygu cod]

Mae lluniau gwych Alun Williams [1] yn dangos y blew ar y coesau - fel ymhob rhywogaeth yn urdd yr Odonata (mursennod a gweision neidr) mae'r blew yma yn ddefnyddiol gan fod y creaduriaid yma yn ffurfio 'basged' gyda'u coesau wrth hela pryfed man ar yr aden. Mae C. virgo yn hedfan rhwng Mai a Medi.

Wyau a'r cynrhonyn

[golygu | golygu cod]

Mae'r fenyw yn dodwy hyd at 300 o wyau ar y tro ar blanhigion ar wyneb y dŵr e.e. crafnc y dŵr a gallant fynd o dan wyneb y dŵr i wneud hynny gan ddodwy ar ddail o dan yr wyneb. Mae'r wyau'n deor ymhen tua 14 diwrnod. Wedi deor, mae gan y cynrhonyn (neu'r 'larfa') goesau hirion fel priciau mân a chymerant ddwy flynedd i ddatblygu'n llawn, fel arfer o dan y dŵr mewn planhigion sy'n pydru, hen wreiddiau - ac yn yr haf treuliant lawer o amser o dan y mwd a'r slyfan.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: