James Bulger
James Bulger | |
---|---|
Ganwyd | James Patrick Bulger 16 Mawrth 1990, 1990 Lerpwl, Glannau Merswy |
Bu farw | 12 Chwefror 1993 o blunt trauma Lerpwl |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Plentyn dyflwydd oed o Kirkby, ger Lerpwl, a gafodd ei herwgipio, ei arteithio ac yna ei lofruddio oedd James Bulger[nodyn 1] (16 Mawrth 1990 – 12 Chwefror 1993).[nodyn 2] Dau fachgen 10 mlwydd oed, Robert Thompson a Jon Venables, wnaeth ei ladd. Tra oedd Bulger â'i fam Denise mewn canolfan siopa, cafodd ei gymryd gan y ddau fachgen a cherddodd gyda nhw am 2.5 filltir. Gwnaethont ei fwrw, rhoi paent yn ei lygaid, gosod batrïau yn ei geg, a thorri ei benglog mewn 10 man. Gosododd Thompson a Venables corff Bulger ar drac rheilffordd mewn ymdrech i wneud i'w farwolaeth edrych fel damwain. Ar ôl hynny torrodd trên ei gorff yn ddwy rhan. Roedd gan ei gorff cymaint o anafiadau, nid oedd modd i batholegwyr ddweud pa anaf yn union a achosodd ei farwolaeth. Gwelodd nifer o bobl eraill y ddau fachgen yn cerdded â Bulger, ond ni wnaethont eu stopio.
Ar ddechrau'r achos, nid oedd yr heddlu yn disgwyl i'r troseddwyr fod mor ifanc â Thompson a Venables, roeddent yn chwilio am ddrwgdybwyr rhwng 12 a 14 oed. Arddangoswyd llun CCTV o'r bechgyn yn arwain Bulger o'r ganolfan siopa yn y cyfryngau, a llwyddodd rhywun i'w hadnabod a chysylltu â'r heddlu. Arestiwyd Thompson a Venables, a chyhuddodd y ddau fachgen y llall o ladd Bulger. Cawsont eu rhoi ar brawf a'u dedfrydu i 8 mlynedd o garchar. Ceisiodd yr Ysgrifennydd Cartref Michael Howard ymestyn y ddedfryd i 15 mlynedd, ond dyfarnodd y Llys Apêl nad oedd ganddo'r grym i wneud hynnny. Rhyddhawyd y llofruddion yn 2001, gan dderbyn enwau newydd, mewn modd tebyg i ddiogelu tystion. Ym Mawrth 2010 bu rhaid i Jon Venables dychwelyd i'r carchar am dorri amodau ei ryddhad.
Mae mam James Bulger, Denise Fergus, wedi datgan llawer o weithiau ei bod yn dymuno i'r llofruddion aros yn y carchar.
Nodiadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Cyfeiriodd nifer o adroddiadau'r wasg ato fel "Jamie Bulger", er nad oedd ei deulu yn defnyddio'r enw "Jamie".
- ↑ Mae'r ffynonellau cynnar yn dweud mai 12 Chwefror a gafodd ei herwgipio a'i lofruddio,[1] [2] Archifwyd 2011-06-05 yn y Peiriant Wayback [3] Archifwyd 2010-03-11 yn y Peiriant Wayback [4] [5] [6] [7] ond rhai diweddarach yn dweud 13 Chwefror.[8] Archifwyd 2010-03-04 yn y Peiriant Wayback [9] [10] [11] Archifwyd 2010-06-03 yn y Peiriant Wayback [12] [13] [14] [15] [16] Rydym yn cymryd mai'r rhai cynharaf sydd yn gywir, gan eu bod yn agosach at y dyddiad ac felly'n llai tebyg o fod yn anghywir.