Thüringen
Gwedd
(Ailgyfeiriad o Thuringia)
Arwyddair | Hier hat Zukunft Tradition |
---|---|
Math | taleithiau ffederal yr Almaen |
Enwyd ar ôl | Thuringii |
Prifddinas | Erfurt |
Poblogaeth | 2,143,145 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Bodo Ramelow |
Cylchfa amser | UTC+01:00, CET |
Gefeilldref/i | Lesser Poland Voivodeship, Hauts-de-France, Hwngari |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Yr Almaen |
Arwynebedd | 16,171 km² |
Uwch y môr | 266 metr |
Yn ffinio gyda | Niedersachsen, Sachsen-Anhalt, Sacsoni, Bafaria, Hessen, Lower Franconia |
Cyfesurynnau | 51°N 11°E |
DE-TH | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | Landtag of Thuringia |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Minister-President of Thuringia |
Pennaeth y Llywodraeth | Bodo Ramelow |
Mynegai Datblygiad Dynol | 0.9281216 |
Un o daleithiau ffederal (Länder) yr Almaen yw Thüringen. Saif yng nghanolbarth y wlad, ac roedd y boblogaeth yn 2007 yn 2,293,800. Prifddinas y dalaith yw Erfurt. Y ddinas ail fwyad yw Jena, sy'n enwog am ei phrifysgol.
Mae cribau gorllewinol mynyddoedd yr Harz yn gwahanu'r dalaith oddi wrth dalaith Niedersachsen yn y gogledd-orllewin, tra mae cribau dwyreiniol yr Harz yn ei gwahanu oddi wrth Sachsen-Anhalt. Yn y de a'r de-orllewin mae Fforest Thüringen.
Enwyd y dalaith ar ôl llwyth y Thuringii, oedd yn byw yma tua 300 OC. Yn ddiweddarach, daeth i feddiant y Ffranciaid yn y 6g ac yn rhan o'r Ymerodraeth Lân Rufeinig. Ail-grewyd Thüringen fel talaith yn 1990 yn dilyn ad-uno'r Almaen.