Titania (lloeren)
Enghraifft o'r canlynol | lleuad o'r blaned Wranws, lleuad arferol |
---|---|
Màs | 3,527,000,000,000,000,000,000 +9.3e+19 -8.7e+19 cilogram |
Dyddiad darganfod | 11 Ionawr 1787 |
Echreiddiad orbital | 0.0011 |
Radiws | 788.4 ±0.6 cilometr |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Titania yw'r bedwaredd ar ddeg a'r fwyaf o loerennau Wranws a wyddys:
Cylchdro: 436,270 km oddi wrth Wranws
Tryfesur: 1578 km
Cynhwysedd: 3.49e21 kg
Brenhines y Tylwyth Teg a gwraig Oberon yw Titania yn y ddrama Midsummer Night's Dream gan Shakespeare.
Cafodd y lloeren ei darganfod gan Herschel ym 1787.
Mae Titania ac Ariel yn ymddangos yn debyg i'w gilydd er bod Ariel yn 25% yn llai. Fel lloerennau eraill Wranws, mae Titania yn 40-50% iâ dŵr a 50-60% deunydd creigiog.
Mae arwyneb Titania'n gymysgedd o graterau a dyffrynnoedd rhyng-gysylltiedig sy'n gannoedd o gilomedrau o hyd. Mae arwyneb Titania'n gymharol ifanc; yn amlwg mae rhyw broses o adnewyddu'r arwyneb ar waith. Ymddengys rhai o'r craterau i fod wedi hanner eu tansuddo.
Yn ôl un theori ar hanes Titania roedd y lloeren yn ddigon boeth i fod yn hylif. Wrth iddi oeri fe wnaeth hi ehangu gan achosi i'r arwyneb gracio.