Trombôn
Trombonydd yn canu'r gyfres harmonig ar ei offeryn. | |
Enghraifft o'r canlynol | math o offeryn cerdd |
---|---|
Math | labrosones with slides |
Yn cynnwys | slide |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Offeryn cerdd pres ac iddo lithren yw trombôn.[1] Gelwir yr un sydd yn ei ganu yn drombonydd. Cynhyrchir ei sain, yn debyg i bob offeryn pres arall, pan fydd gwefusau dirgrynol y canwr yn achosi i'r golofn o aer y tu mewn i'r offeryn ddirgrynu. Fel rheol, defnyddir mecanwaith llithrig telesgopig i newid y traw, yn hytrach na falfiau fel y defnyddir gan offerynnau pres eraill. Eithriadau ydy'r trombôn falf, a chanddo dair falf yn debyg i drwmped, a'r "uwchbôn" (superbone), a chanddo falfiau a llithren.
Mae gan y trombôn dyllfedd hanner silindrog, ac yn debycach felly i'r trwmped nac i offerynnau pres conigol megis y corned a'r corn Ffrengig. Tair prif ran sydd i'r trombôn: y darn ceg, y llithren, a'r gloch. Yn debyg i offerynnau pres eraill, rhoddir gwefusau'r canwr ar y darn ceg cwpan i gynhyrchu'r sŵn cychwynnol. Y llithren, tiwben ar ffurf U y gellir ei hymestyn a'i byrhau, ydy nodwedd unigryw y trombôn. Mae'r trombonydd yn cydio yn y llithren ac yn newid hyd y dyllfedd gyda'i fraich, gan newid felly traw'r nodyn a genir. Mae'r dyllfedd yn lledu allan i gloch gymhedrol ei maint, yn debyg i drwmped, ac oddi honno teflir sain yr offeryn.
Offeryn nad yw'n trawsnodi ydy'r trombôn. Mae ganddo raddfa eang, ac yn medru canu nodau isel yn ddwfn a chryf a nodau uchel yn siriol a threiddgar. Ansawdd tôn llyfn a glywir o'r trombôn, a fe'i cysylltir yn aml â sain fwynaidd yn llawn mynegiant. Yn unrhyw un o'r saith safle llithren cydnabyddedig, gellir cynhyrchu saith nodyn sylfaenol y gyfres harmonig hanner tôn ar wahân. Gellir cynhyrchu rhai nodau pedal hefyd, sef tonau cyntaf y gyfres harmonig mewn gwahanol safleoedd.[2]
Hanes
[golygu | golygu cod]Gellir olrhain hanes y trombôn yn ôl i'r sacbwt a thrympedau llithr tebyg yr Oesoedd Canol Diweddar. Bu gan y sacbwt fecanwaith llithrig yn debyg i'r trombôn modern, ond cloch lai o faint a thyllfedd gulach. Defnyddiwyd y sacbwt yn Lloegr o ddiwedd y 15g ymlaen, yn ystod y Dadeni Seisnig. Daeth yn boblogaidd ar draws Ewrop yn yr 16g a'r 17g, cyfnod y Dadeni Diweddar, a daw enw'r offeryn yn y bôn o'r gair Eidaleg trombone, sef "trwmped mawr".. Fe'i defnyddid mewn cerddoriaeth siambr ac eglwysig, a châi ei berfformio gan gonsortiau ac ensembles, ac ar y cyd â'r corneto a'r chwythgorn.
Yn yr oes faróc, o'r 17g i ganol y 18g, dyrchafwyd y trombôn yn aelod rheolaidd o'r gerddorfa, a daeth yn offeryn cyffredin mewn gweithiau'r cyfansoddwyr enwocaf, gan gynnwys Johann Sebastian Bach a George Frideric Handel. Nodir Bach yn enwedig am rannau'r trombôn yn ei gantodau, oratorïau, a cherddoriaeth grefyddol. Defnyddiwyd y trombôn hefyd gan gyfansoddwyr yr oes glasurol megis Wolfgang Amadeus Mozart a Ludwig van Beethoven yn eu symffonïau a chyfansoddiadau mawr eraill, a chan gyfansoddwr Rhamantaidd megis Richard Wagner yn ei gylch opera Der Ring des Nibelungen a Gustav Mahler yn ei symffonïau.
Yn yr 20g, bu'r trombôn yn offeryn poblogaidd mewn sawl math o gerddoriaeth, gan gynnwys jazz, big band, a cherddoriaeth boblogaidd. Mae hefyd yn un o offerynnau safonol y band milwrol a'r band pres.
Mathau
[golygu | golygu cod]Y prif fathau o drombôn ydy'r trombôn tenor a'r trombôn bas (neu is-drombôn),[3] ac yna'r trombôn alto a'r trombôn bas-dwbl (neu gontrabas). Ceir hefyd y trombôn trebl a'r trombôn tenor-bas, yn ogystal â'r trombôn falf.[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ trombôn. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 27 Mai 2023.
- ↑ 2.0 2.1 Michael Kennedy, Geiriadur Cerddoriaeth Rhydychen (Caernarfon: Curiad, 1998), t. 851. Cyfieithwyd gan Delyth Prys.
- ↑ Geiriadur yr Academi, "trombone > bass trombone".