Y Berwyn
Edrych i gyfeiriad Cadair Berwyn o ben Cadair Bronwen yn y Berwyn | |
Math | cadwyn o fynyddoedd |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.9211°N 3.4239°W, 52.838821°N 3.606825°W, 52.8667°N 3.4°W |
Statws treftadaeth | Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig |
Manylion | |
Cadwyn hir o fryniau sy'n rhedeg rhwng Bwlch y Groes, ger Aran Benllyn, i gyffiniau Corwen a Llangollen yw'r Berwyn. Mae'n ffurfio ffin naturiol rhwng Edeirnion, neu Penllyn (dwyrain Meirionnydd, Gwynedd) a Maldwyn, Powys. Ei bwynt uchaf yw Moel Sych (2,713').
Geirdarddiad
[golygu | golygu cod]Mae'n bosibl fod yr enw yn golygu "Bryn(iau) Gwyn (ap Nudd)" (Cymraeg Cynnar bre 'hill' yn troi'n ber + Gwyn), yn ôl T. Gwynn Jones ac eraill, ac felly'n dwyn enw Gwyn ap Nudd, brenin Y Tylwyth Teg.[1]
Disgrifiad
[golygu | golygu cod]Yn y gorllewin mae'r Berwyn yn dechrau ger Bwlch y Groes, hanner ffordd rhwng pentrefi Mallwyd a Dinas Mawddwy a phentref Llanuwchllyn ar lan Llyn Tegid. Mae'r gadwyn yn ymestyn i gyfeiriad y gogledd-ddwyrain am o gwmpas pymtheg milltir. Y copa cyntaf yw Foel y Geifr, sy'n edrych i lawr ar gronfa dŵr Llyn Efyrnwy a bryniau Powys Fadog. Mae dwy lôn fynydd yn croesi'r ucheldir undonog rhwng y copa hwnnw a Chadair Berwyn (2230'), y gyntaf yn cysylltu Abertridwr ar lan Efyrnwy â'r Bala a'r llall yn mynd o'r Bala i Langynog ac ymlaen i'r Trallwng.
Gorwedd y rhan uchaf o'r Berwyn rhwng Bwlch y Filltir Gerrig ar y lôn olaf honno a Glyndyfrdwy. Mae'r copaon, sydd ddim yn greigiog, yn cynnwys Cadair Berwyn a'i gymydog Moel Sych (2713'), Cadair Fronwen (2572'), Pen-plaenau (1775') a Moel Fferna (2071'). Daw'r Berwyn ei hun i ben uwchlaw Nantyr yng Nglyndyfrdwy, rhwng Corwen a Llangollen.
Nid yw'n gadwyn greigiog, er bod ambell glogwyn, ond yn hytrach mae'n gyfres o foelau agored, grugog iawn, sy'n lle da i adar y mynydd, fel y Cwtiad Aur. Y gadwyn debygach iddi yng Nghymru yw'r Carneddau yng ngogledd Eryri, ond bod y Berwyn yn is a llai syrth.
Ar odrau dwyreiniol y Berwyn ceir sawl llecyn braf diarffordd, fel Llyn Efyrnwy, Pennant Melangell a'i eglwys hynafol, Llanrhaeadr-ym-Mochnant, Pistyll Rhaeadr a Dyffryn Ceiriog. I'r gogledd mae llethrau coediog Coedwig Penllyn, y Bala a Llyn Tegid, Dyffryn Edeirnion a Chorwen.
Bywyd gwyllt
[golygu | golygu cod]Mae'r ardal yn gartref i sawl rhywogaeth o adar yr ucheldir, gan gynnwys adar ysglyfaeth fel y Boda tinwyn (Circus cyaneus), y Llamsydyn (Falco columbarius), a'r Hebog tramor (Falco peregrinus) (tua 14-18 o bariau bridiau yn achos pob un o'r rhywogaethau hyn, 1-2% o'r cyfanswm poblogaeth yng ngwledydd Prydain), ac felly'n Ardal Warchod Arbennig. Mae bywyd gwyllt arall yn cynnwys tylluanod clustiog, cigfrain, bodaon, ffwlbartiaid a'r plufynnau aur.
Copaon
[golygu | golygu cod]Enw | Cyfesurynnau OS | Cyfesurynnau Daearyddol | |
---|---|---|---|
Allt y Gader: | SJ149176 | map | 52.749°N, 3.262°W |
Allt y Main: | SJ162151 | map | 52.727°N, 3.242°W |
Bryn Du (Y Fawnen): | SJ145360 | map | 52.914°N, 3.272°W |
Bryn Gwyn (mynydd): | SJ042295 | map | 52.854°N, 3.424°W |
Bryn-llus: | SJ085408 | map | 52.956°N, 3.363°W |
Cadair Berwyn: | SJ071323 | map | 52.88°N, 3.381°W |
Cadair Berwyn (copa gogleddol): | SJ072327 | map | 52.883°N, 3.38°W |
Cadair Bronwen: | SJ077346 | map | 52.9°N, 3.373°W |
Cadair Bronwen (copa gogledd-ddwyrain): | SJ087352 | map | 52.906°N, 3.358°W |
Carnedd Das Eithin: | SJ051238 | map | 52.803°N, 3.409°W |
Cefn Coch: | SH923266 | map | 52.826°N, 3.599°W |
Cefn Gwyntog: | SH976265 | map | 52.826°N, 3.521°W |
Cefn Gwyntog (copa gogleddol): | SH975274 | map | 52.834°N, 3.522°W |
Cerrig Coediog: | SJ113386 | map | 52.937°N, 3.321°W |
Craig Berwyn: | SJ077335 | map | 52.891°N, 3.373°W |
Craig Rhiwarth: | SJ054271 | map | 52.833°N, 3.405°W |
Croes y Forwyn: | SJ029210 | map | 52.777°N, 3.44°W |
Cyrniau: | SJ062251 | map | 52.815°N, 3.393°W |
Cyrniau Nod: | SH988279 | map | 52.839°N, 3.503°W |
Cyrniau y Llyn: | SJ000244 | map | 52.807°N, 3.484°W |
Ffordd Gefn (Bryn Gwyn): | SJ033240 | map | 52.804°N, 3.435°W |
Foel Cwm Sian Llwyd: | SH995313 | map | 52.869°N, 3.494°W |
Foel Dugoed, | SH893131 | map | 52.704°N, 3.639°W |
Foel Figenau: | SH916284 | map | 52.842°N, 3.61°W |
Foel Goch (Berwyn): | SH943290 | map | 52.848°N, 3.57°W |
Foel Tyn-y-fron: | SH918257 | map | 52.817°N, 3.606°W |
Foel Wen: | SJ099333 | map | 52.889°N, 3.34°W |
Foel Wen (copa deheuol): | SJ102330 | map | 52.886°N, 3.336°W |
Foel y Geifr: | SH937275 | map | 52.834°N, 3.579°W |
Gallt y Goedhwch: | SJ137159 | map | 52.733°N, 3.279°W |
Glan Hafon: | SJ080272 | map | 52.834°N, 3.367°W |
Godor: | SJ094307 | map | 52.866°N, 3.347°W |
Godor (copa gogleddol): | SJ089311 | map | 52.869°N, 3.354°W |
Gyrn Moelfre: | SJ184293 | map | 52.854°N, 3.213°W |
Jericho Hill: | SJ162202 | map | 52.772°N, 3.243°W |
Mynydd Llanymynech: | SJ263221 | map | 52.791°N, 3.094°W |
Lledwyn Mawr: | SH905287 | map | 52.844°N, 3.627°W |
Moel Bentyrch, | SJ055095 | map | 52.674°N, 3.399°W |
Moel Cae-howel: | SH978330 | map | 52.884°N, 3.52°W |
Moel Fferna: | SJ116397 | map | 52.947°N, 3.317°W |
Moel Hen-fache: | SJ109281 | map | 52.843°N, 3.324°W |
Moel Poethion: | SJ082306 | map | 52.865°N, 3.365°W |
Moel Sych: | SJ066318 | map | 52.875°N, 3.389°W |
Moel y Fronllwyd: | SJ121176 | map | 52.748°N, 3.303°W |
Moel y Gwelltyn: | SJ170277 | map | 52.84°N, 3.233°W |
Moel yr Ewig: | SJ080317 | map | 52.874°N, 3.368°W |
Moel yr Henfaes: | SJ077385 | map | 52.935°N, 3.374°W |
Moel yr Henfaes (Copa Pen Bwlch Llandrillo): | SJ089369 | map | 52.921°N, 3.356°W |
Moel yr Henfaes (copa gorllewinol): | SJ099374 | map | 52.926°N, 3.341°W |
Mynydd Mawr: | SJ132286 | map | 52.847°N, 3.29°W |
Mynydd Mynyllod: | SJ002395 | map | 52.943°N, 3.486°W |
Mynydd Tarw: | SJ112324 | map | 52.881°N, 3.321°W |
Mynydd y Bryn: | SJ217268 | map | 52.833°N, 3.163°W |
Mynydd y Glyn: | SJ153222 | map | 52.79°N, 3.257°W |
Mynydd-y-briw: | SJ174260 | map | 52.825°N, 3.227°W |
Pen y Berth, | SJ081127 | map | 52.704°N, 3.361°W |
Pen y Boncyn Trefeilw: | SH962283 | map | 52.842°N, 3.542°W |
Pen y Cerrig Duon: | SH953281 | map | 52.84°N, 3.555°W |
Pen-y-coed: | SJ226414 | map | 52.964°N, 3.153°W |
Post Gwyn: | SJ048293 | map | 52.852°N, 3.415°W |
Rhialgwm: | SJ055211 | map | 52.779°N, 3.402°W |
Rhiwaedog-uwch-afon: | SH938313 | map | 52.868°N, 3.579°W |
Rhos (Llanarmon Dyffryn Ceiriog): | SJ125323 | map | 52.881°N, 3.301°W |
Rhwng y Ddwynant: | SH978248 | map | 52.811°N, 3.517°W |
Stac Rhos: | SH969279 | map | 52.838°N, 3.532°W |
Tir Rhiwiog: | SH929162 | map | 52.732°N, 3.587°W |
Tomle: | SJ085335 | map | 52.891°N, 3.361°W |
Trum y Gwragedd: | SH941284 | map | 52.842°N, 3.573°W |
Mynydd Feifod: | SJ169400 | map | 52.95°N, 3.238°W |
Y Golfa: | SJ182070 | map | 52.654°N, 3.21°W |
Y Groes Fagl: | SH988290 | map | 52.848°N, 3.504°W |
Yr Allt: | SJ242102 | map | 52.684°N, 3.122°W |
Bryn yr Orsedd | SJ142485 | map | 53.026°N, 3.28°W |
Cyrn-y-Brain | SJ208488 | map | 53.03°N, 3.182°W |
Mynydd Eglwyseg | SJ231464 | map | 53.009°N, 3.147°W |
Fron Fawr | SJ208450 | map | 52.996°N, 3.181°W |
Moel Morfydd (Mynydd Llantysilio) | SJ159457 | map | 53.001°N, 3.254°W |
Moel Tan y Coed | SJ200439 | map | 52.986°N, 3.193°W |
Moel y Faen (Mynydd Llantysilio) | SJ185475 | map | 53.018°N, 3.216°W |
Moel y Gaer, Llandysilio | SJ166463 | map | 53.007°N, 3.244°W |
Moel y Gamelin | SJ176465 | map | 53.009°N, 3.229°W |
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ T. Gwynn Jones, Welsh Folklore and Folk-Custom (1930; arg. new. 1979). Ceir sawl enw lle arall sy'n cynnwys yr elfen 'Gwyn' yn yr ardal.
Darllen pellach
[golygu | golygu cod]- T.I. Ellis, Crwydro Meirionnydd (Llandybie, 1954)
- F. Wynn Jones, Godre'r Berwyn (Caerdydd: Hughes a'i Fab, d.d. = c.1952). Atgofion brodor o Ddyffryn Edeirnion.
- Ioan Bowen Rees, Dringo Mynyddoedd Cymru (Llandybie, 1965). Pennod ar y Berwyn.