Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur
Ysgol Gymraeg Ystalyfera - Bro Dur | |
---|---|
Arwyddair | Dysgu Gorau Dysgu Byw |
Sefydlwyd | 1969 Ysgol Gyfun Ystalyfera
2017 Ysgol Gymraeg Ystalyfera |
Math | Ysgol pob oed 3-18 |
Cyfrwng iaith | Cymraeg |
Pennaeth | Mrs Laurel Davies |
Cadeirydd | Cyng Alun Llywelyn |
Lleoliad | Glan yr Afon, Ystalyfera, Castell-nedd Port Talbot, Cymru, SA9 2JJ |
AALl | Castell-nedd Port Talbot |
Disgyblion | tua 1300 |
Rhyw | Cyd-addysgol |
Oedrannau | 3–18 |
Llysoedd | Gwenllian, Hywel, Llywelyn |
Lliwiau | Glas a du (du ar gyfer y chweched ddosbarth) |
Gwefan | www.ysgolystalyferabrodur.cymru |
Ysgol uwchradd gyfun cyfrwng Cymraeg yw Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur. Mae'r ysgol wedi ei leoli ar dri campws yn Ystalyfera a Phort Talbot. Mae'r ysgol yn adnabyddus am ei llwyddiannau ym meysydd y celfyddydau, chwaraeon, yn ogystal â'r academaidd.
Yn Medi 2017 trawsnewidiodd yr ysgol yn ysgol pob oed drwy ymuno ag Ysgol Gynradd Gymraeg Y Wern, ac o Fehefin 2018 bydd y ddwy adran ar yr un campws ym mhentref Ystalyfera. Yn Medi 2018, bydd safle yn ne'r sir yn agor gyda disgyblion o ysgolion cynradd Cymraeg Rhosafan, Tyle'r Ynn a Chastell-nedd yn mynychu, Ysgol Gymraeg Bro Dur.
Hanes
[golygu | golygu cod]Sefydlwyd yr ysgol ym 1969, tra'n rhannu safle a staff ag Ysgol Sir Ystalyfera, a sefydlwyd yn 1896, yn ystod ei blynyddoedd cynnar. Roedd dalgylch yr ysgol yn ymestyn o Faesteg yn y de-ddwyrain i Benrhyn Gŵyr yn y de cyn i ysgolion Llanhari ac Ysgol Gyfun Gŵyr agor. Tan ddiwedd y 1990au, bu Ysgolion Ystalyfera a Gŵyr yn rhannu chweched dosbarth ar safle Ystalyfera. Enw'r chweched dosbarth yw 'Canolfan Gwenallt', er clod i'r prifardd D. Gwenallt Jones (1899-1968), a fynychodd yr Ysgol Sir yno.
Mae dalgylch presennol yr ysgol yn rhannu ffiniau â bwrdeistref sirol Castell-nedd Port Talbot, gyda nifer o ddisbylion o Aber-crâf ac Ystradgynlais yn ne-orllewin sir Powys hefyd yn mynychu'r ysgol.
Fel ysgol benodedig Gymraeg, drwy gyfrwng y Gymraeg y mae'r mwyafrif o'r gwersi'n cael eu cynnal, er bod modd dilyn rhai pynciau drwy gyfrwng y Saesneg.
Cyn-ddisgyblion o nôd
[golygu | golygu cod]- Gweler hefyd y categori Pobl addysgwyd yn Ysgol Gyfun Ystalyfera
- Richard Ithamar Aaron (1901 – 1987) Athronydd
- Alun Cairns AC - gwleidydd Ceidwadol
- Huw Chiswell - cerddor, cantor, ac actor
- Jeremy Miles AC - Cwnsler Cyffredinol LlC a AC Castell-nedd
- D. J. 'Gwenallt' Jones - prifardd a darlithydd (Ysgol Sir Ystalyfera)
- Derwyn Jones - cyn-chwaraewr rygbi rhyngwladol
- Lyn Jones - cyn-chwaraewr rygbi rhyngwladol a chyn-hyfforddwr y Gweilch
- Euros Lyn - cyfarwyddwr teledu
- Siân Lloyd - darlledwraig
- Y Parchedicusaf Barry Morgan - Archesgob Cymru (Ysgol Sir Ystalyfera)
- Garry Owen - darlledwr
- Rhodri Owen - darlledwr
- Steffan Rhodri - actor
- Ben Davies - chwaraewr pêl-droed
- Gareth Bale - actor
- Fflur Wyn - cantores glasurol
- Rubin Colwill - chwaraewr pêl-droed
- Elin Maher - Ymgynghorydd addysg Gymraeg