Mae'r band pop chwyldroadol DIY Cymraeg Ffa Coffi Pawb wedi cyhoeddi ailgyhoeddiadau finyl, CD a digidol o ddau o'u halbymau trwy label Ara Deg.
Daw Dalec Pelion allan ar 21 Chwefror 2025. Disgwylir i Clymhalio gael ei ryddhau yn ddiweddarach yn 2025.
Roedd Ffa Coffi Pawb yn un o fandiau mwyaf lliwgar ag eithafol Cymru yn eu cyfnod. Er eu bod a chynulleidfa frwd, roedd yn ymddangos bod eu cerddoriaeth wedi llithro rhwng y craciau oherwydd dulliau dosbarthu elfennol, a thranc y caset yn gyfffedinol! Nawr, rwan-hyn - yng ngwres gwynias yr unfed ganrif ar hugain ac yn dilyn ail-ryddhad clodwiw 2023 o’u trydydd albwm, a’r olaf, Hei Vidal!, mae Ffa Coffi Pawb wedi tynnu llwch o’u twpiau ac wedi glanhau eu dau albwm arall - Dalec Pelion (eu halbwm cyntaf, a ryddhawyd yn wreiddiol yn 1988) a Chlymhalio (eu hail LP o 1991).
Wedi'i recordio gan y cynhyrchydd electronig arbrofol Gorwel Owen mewn fflat uwchben Swyddfa Bost yn Rhosneigr a'i ryddhau yn wreiddiol ar gasét gan label Bangor Casetiau Huw, bydd Dalec Pelion yn cael ei ryddhau o'r diwedd ar feinyl (yn ogystal â CD a llwyfannau digidol) am y tro cyntaf ar 21ain Chwefror 2025. Mae'r albwm wedi'i ol-gynhyrchu gan archifydd y Super Furry Animals, Kliph Scurlock, ac mae'n cynnwys gwaith celf newydd sbon gan H Hawkline. Clywch Valium o Dalec Pelion yma.
O’r cyfnod hwnnw, dywed y canwr a’r gitarydd Gruff Rhys: “yn 86 roedden ni wedi rhyddhau 50 copi o gasét cartref o ganeuon, jamiau a collages sain wedi’u torri i fyny a gafodd eu recordio ar ficroffon peiriant casét a’i werthu mewn ffeiriau recordiau a thafarndai o fag siopa Kwik Save, yna cafodd y band gynnwys y trac 'Octapws' ar EP finyl - casgliad gan y mudiad Pop Positif, a ddilynwyd gan gyfarfod gyda'r cynhyrchydd electronig arbrofol Gorwel Owen. Yn 1987 gwahoddwyd Ffa Coffi Pawb i recordio yn ei stiwdio gartref ger Ynys Môn. Gwnaethpwyd y recordiadau yma ac acw dros rai misoedd mewn fflat uwchben Swyddfa Bost rhieni Gorwel yn Rhosneigr a datblygodd mewn i’w albwm stiwdio cyntaf, Dalec Peilon - a ryddhawyd ar label casét o Fangor, Casetiau Huw yn 1988.”
Ffurfiwyd Ffa Coffi Pawb ym Methesda ym 1986 gan ffrindiau un ar bymtheg oed, Gruff Rhys a Rhodri Puw a’r flwyddyn ganlynol ymunodd Dafydd Ieuan a Dewi Emlyn. Dros saith mlynedd, chwaraeodd y band gigs arbrofol a rhyddhau cerddoriaeth bop seicedelig ogoneddus cyn chwalu ym 1993 gyda gig olaf yn Neuadd Goffa Llanfair-ym-Muallt (gyda chefnogaeth Gorky’s Zygotic Mynci ifanc).
credits
released February 21, 2025
Produced by Gorwel Owen and Ffa Coffi Pawb
1988 Ara Deg
I’ve been a massive Super Furry Animals fans since their first album and I’ve seen them many times in the UK and North America. Das Koolies are awesome. I heard this for the first time today and it’s completely different to the Furries. A little like Black Devil Disco Club with little hints of the furries now and again. Brilliant. Peter Easton
album is SOO FUCKIN GOOD! absolutely HOOKED on collide what a gorgeous tune. the whole album is perfect.. i had a very specific sized hole in my heart that’s been there since the last time i saw sfa play in la about a decade ago and this more than makes up for the loss! Kyle Zufolo