Cyhoeddedig dan nawdd prif Gerddorion, Corau, ac Undebau Cerddorol y Genedl. Riiif. 31.—Cyf. II. MEDI 1, 1863. Pris 2g.—gyädr post, 3e. ©nnnumstaìr. CERDDORT.AETH TN T RHrFTîí EWÎÎ, Canig Ddirwestol.—" DATOD MAE EHWYMATJ CAETHIWED." Gan "Mhodri," sef Mk. John Thomas, Blaenanerch. Tü DAI,- Caniadaeth...... Geiriadur y Cerddor Beirniadaeth Bwrdd y Golygydd... Cronicl Cerddorol Hysbysiadau ...... Caníaîiacẅ Wrth ystyried fod cerddoriaeth yn gelfyddyd ag sydd i wasanaethu i holl amrywiol deiraladau naturiol y ddjntioliaeth, yr ydym yn gweled ar un- waithfod amrywiaeth diderfynbron,mewn nertha naws llais, mewn amser, acen, mydr, ac arddull, yn anhebgorol angenrheidiol. Ac yn hyn y mae difìýg mawr iawn yn aros yn ngbaniadaeth cenedl y Cymry. Ar oî dy'sgu lleisio yn glir, croyw, esmwyth a chyson, a dysgu seiniau gwahanol nodau y Raddfa, ac ymarfer â gwahanol restrau neu an- soddau ei lais, y gorchwyl mawr nesaf sydd yn syrthio i ddwylaw y cantor neu y gantores ydyw, dysgu graddoli ei lais ar bob nôd, yn gwbl yn ol ei ewyllys a'i feddwl. Y mae y graddoliadau hyn bron yn ddiderfyn; ond y mae y cwbl yn dyfod i mewn rhwng pump o raddau arbenig :— 1. Gwan iawn (Pianissimo). 2. Gwan (Tiano). 3. Cyinedrol gryf (Mezzo-forte). 4. Cryf (Forte). 5. Cryf iawn (Fortissimo). Arferir talfyriad am bob un o'r geiriau hyn; megys— Am y cyntaf—pp. „ yr ail—p. „ y trydydd—»tf neu mp. „ y pedẁerydd-/. „ y pumed—ff. I ddechreu, arfered y canor seinio pob nôd yn mhob un o'r graddau hyn. "Wedi meistroli yr ymarferiad bono, arfered raddoli pob un o'r seiniau o'r Gwan iawn (pp) i'r Cryf iawn (ff); a gofaled fod y graddoliad yn gwbl gyson. Y mae cantorion cyífredin yn ddiffygiol iawn yn hyn. Gallant seinio nodau yn wan, a gallant eu seinio yn gryf; ond y maent yn methu mewn graddoliad cyson a hollol lyfn o'r naill i'r llall. Ar ol ymberffeithio yn yr ymarferiad o fyned yn raddol o'r Gwan iawn i'r Cryf iawn ar bob nôd, ymarferer yn nesaf a myneä yn raddol o'r Cryf iawn i'r Grwan iawn. Gwneler hyny eto ar bob nôd. Yna, ymarferer a chyfuno y ddwy ymar- I feriad ar yr un sain, trwy fyned o'r Gwan iawn j i'r Cryf iawn, ac yn ol drachefn ; ac wedi hyny, trwy íyned o'r Cryf iawn i'r Gwan iawn, ac yn ol drachefn. Od oes neb yn chwenych dyfod yn ganwr da, y mae ymarferiad ac ymberffeithiad yn y pethau hyn yn anhebgorol. Ar ol ymarfer â'r graddoliadau uchod ar yr un sain, ac ar bob sain o fewn y cylch mwyaf effeithiol o'i lais, dechreued yn yr un modd gydag adranau bychain cyfansoddedig o amryw nodau. Y mae y graddoliadau hyn yn cael eu dynodi mewn cerddoriaeth trwy eiriau a thrwy arwydd- luniau, fel y canlyn :— 1. Graddoliad cyson o Wan i Qry?=Cres- cendo; neu yn fyr=Cres. Yr arwyddlun a ddefnydJir i ddynodi hyn ydyw: —=m; neu yn fyr: < 2. Graddoliad o Gryf i Wan=Diminuendo; yn îyr=Dim. Ýr arwyddlun a arferir ydyw : r==>— ; J^ fyr :_ ddynodi hyn 3. Graddoliad o "Wan i Gryf, ac yn ol drachefn. Dangosir hyny fel hyn: —^-----zz z==—; yn fyr: < > 4. Graddoliad o Gryf i Wan, ac yn ol dra- cbefn. Yr arwyddlun a ddyuoda hynyydyw: Pan welir yr arwyddluniau uchod wedi eu gosod uwchlaw rhyw nodau, y mae y canwr, ueu \y chwareuwr i gydymffuríîo â hwynt o ran graddoliad cryfder y seiniau. Pan fyàâo'Gwan, Piano,pia, r>eup, uwchben nôd, y mae hwnw, ynghyd a'r nodau fyddo oddi- yno ymlaen byd ìies cyfarfyddir â rhyw air neu arwyddlun arall, i'w canu yn wan. Y mae Gwan iawn, Pianissimo, neu pp, yr un modd, yn dynodi fod y nôd fyddo dano, yn gys- tal a'r noòm oddiyno yn mlaen hyd nes ceir rhyw arwydá gwahanol, i'w canu yn wan ìawn.