sv Y GERDDORFA: Cglr&grabm gltsol :tí tousamií-ijí febboiŵfíj á §arùbmtmriíj fSptmg. Cyr^^DEDIG AR Y CYNTAF O BOB MIS, Rhif86 CYF. VII. AWST, 1S80. Pris 2c. PERTHYNAS CERDDORIAETH A'R IAITH GTMRAEG. ANERCHIAD Y PROFFESWR JOHN R HYS YN ABERTAWE '' Wrth son am gerddoriaeth golygir o leiaf ddau fath, sef eerddoriaeth leisioì a cherddoriaeth offerynol. O'r ddau hyn, fel y sylwais mewn Eisteddfod y llynedd, mae yn debyg mai cerddoriaeth offerynol yw yr hynaf o lawer; ac am y llall mae lle i gasglu mai math o lefaru neu siarad yn tebygu i adroddgan ydoedd y cynyg cyntaf at ganu yn ystyr gerddorol y gair; a cheir yn ieithoedd Ind-Ewropaidd y rhan hon o'r byd eiriau a ffafriant y golygiad. Nid rhaid yn wir myned yn rnhellach na'r Gymraeg ei hun i gael hyd i rai mwys, fel y gelwir hwynt, megya canu a datganu. Golyga y gair canu, er engraipht, gyfansoddi yn yr ystyr farddonol yn gystal a lleisio yn yr ystyr gerddorol, neu ynte chwareu ar offer- eerdd, yr hyn a bair fawr benbleth i'r neb a ewyllysio wybod i sicrwydd pa faint o le a gai barddoniaeth a pha faint a gai cerddoriaeth yn mhlith y Cymry yn yr oesoedd gynt. Ac er cymaint o ddefnydd a wneir gan gerddorion o'r eyfansawdd dadganu, nid ydynt wedi Uwyddo eto i'w gyfyngu i'r ystyr gerddorol, gan nas golygir yn gyffredin wrth son am ddyn yn datgan ei deimladau ei fod yn canu yn llon neu yn lleddf â'r llais neu yn tywallt ei enaid ar dannau y delyn. "Wrth grybwyll amwysedd y geiriau canu a dat- ganu, dylaswn eich hysbysu ei bod yn agos yr un fath gyda'r geiriau perthynaso} yn yr jiaith Wyddelig, yr hyn a'm tuedda i dybied fod Celtiaid yr Ynysoedd Prydeinig wedi dechreu gwahaniaethu rhwng canu lleisiol a llefaru yn y cyfnod cyn iddynt ymwa^anu yn Frythoniaid a GwyddeJ: cyrhaedd hyny yn ol yn mhell, ond nid oes genym hanes am ein henafraid fel cantorion hyd amser Geraílt Gymro, yn y 16fed ganrif. Rhydd efe iddynjt glod mawr fej. cantorion, ond nid yw yn hawdd deall i drwch y bìewyn ystyr y geiriau a ddefnyddia, am fod cerddoriaeth yr oes hono mör wananojl i'r eiddom ni yn yr oes hon. Myn rhai fod ei eiriau ya profi fod y Cymry eisoes y pryd hwnw wedi cael aiìan ddirgelwch y gelfyddyd o gyfuno y gwahanol ìeisiau â'u gilydd i wneyd cyn- ghanedd ; ond y farn gyffredin yw mai peth díwedd- arach yw hyny. Pa fodd bynag, mäe yu amlwgfod y Cymry yn cael eu hystyried yn gantoríon da yn fìl safon gerddorol yr oes hono, y fath ag oedd; a cheir eu bod yn rhagori rhyw saith ganrif yn ddiweddarach—darllen pader i berson fyddai dwyn , ar gof i chwi yma y fuddugoliaeth yn y Palas Grisial yn Llundain. Nid oes ychwaith un lle i gasglu ddarfod i'r genedl ar un adeg yn y cyfnod maith o amser Gerallt i'n dyddiau ni golli ei hysbryd cerddorol a'i hoffder o ganu ; o ran hyny, gwyddis yn dda pa faint o le ac o effaith a g'ai canu ar y werin yn nghyfarfodydd crefyddol Cymrn yn amser y diwygiad. Methodistaidd, ac nis gallaf lai na meddwl mai un o brif ail-achosion y dylanwad mawr a g'ai yr hen bregethwyr ar eu gwrandawyr ydoedd y gyfatebiaetb. gerddorol drwyadl oedd rhyngddynt, gan fod pob rhai ohonynt wedi eu trwytho yn yr un môr o gân a'u gilydd. Digon tebyg fod yr elfen gerddorol yn yr hwyl Gymreig yn disgyn, o ran ei tharddiad, yn uniongyrchol o dôn offeiriaid Eglwys Rhufain yrt myned drwy wasanaeth yr Offeren, ond elai heri bregethwyr Cymru lawer yn mhellach, gan ddangos eu bod nid yn unig yn gallu deffroi a thanio eneidiau eu gwrandawyr, ond hefyd eu bod yn meddu ar y swyn i godi a gostwng llanw a thrai teimladau y lluaws yn eu mynwesau fel y mynent. Mewn gaîr, gellir dywedyd am bregeth Gymreig o' hen arddull ei bod nid yn unig yn bregeth ond hefyd yn fath o ddrama ysgrythyrol ac opera gysegredig. Hwyrach y tueddid rhai weithiau i feddwl gormod o'r hwyl. a'r dawn, ac i dybied mai math o fesmeriaeth ger- ddorol oedd crefydd, ond erbyn hyn y mae yr hwyl yn cyflym fyned alìan o arferiad er nad yw yn rhyw ry amlwg pa beth sydd i gymeryd ei lle—gobeithio mai nid yr hyn a glywir ambell waith, a hyny hycl yn nod o benau dynion heb ddiffyg cynefindra a'r Gyruraeg arnynt, sef rhyw rith athronyddu gwyntog, sychlyd, haner Seisnig, na ddygymydd byth â chlust y Cymro, tra byddo digon o gerddoriaeth yn eí gyfansoddiad i fedru gwahaniaethu rhwng llithrig- rwydd naturioldeb a flyn baglau benthyg nad atebant ddyben yn y byd os nad i wneyd yr hyn a ddes- grifiwyd i'r dirn yn ddiweddar gan wr parchedig sydd wedi astudio y pwnc yn drwyadl, sef darllen y llefarwr i mewn a darllen y lluaws i maes. A gobeithio hefyd mai nid hyawdledd trochionog ambell wr parchedig a fydd yn hoff o son am yr iaith nesaf atom, er iddi fod filldiroedd p'i gyrhae Id hyd yn nod pan fyddo am ei chlytio yn ddarnâu tangochion annghytìiw ar frethyn cartref hen iaith ei fam.