Pwdu Yn Y Pentre

from Llanast Yn Y Llofft by Lo-fi Jones

/
  • Streaming + Download

    Includes unlimited streaming via the free Bandcamp app, plus high-quality download in MP3, FLAC and more.
    Purchasable with gift card
    Download available in 16-bit/44.1kHz.

      £1 GBP  or more

     

lyrics

Pwdu yn y pentre’ bach
Lle mae'r plant wedi diflasi'n llwyr
Mae 'na ddigonedd o awyr iach
Ond mae’r bysus yn brin

Delwedd brydferth, Ti yw'r penbleth
A mae meddwl i'n mynd i rywle pell o fan hyn
Lle mae'r golau fel cusan yn teimlo fel trydan

Ffigyrau yn dawnsio yng nghanol y chwildro
Rwy mond yn breuddwydio, ond dwi methu gwylio mwy
Yr un hen bethau sydd fan hyn

Dwi'm isio dysgu gyrru car
Llosgi olew pan mae'r byd ar dan
Isio safio pob un geiniog sbâr
A beicio dros y bryn

Pennau petrol, syth o’r ysgol
Yng nghanol y nos
Cadw fi o fy nghwsg
Maen nhw'n galw fo'n rhyddid
Ond i fi mae'n jyst swnllyd

A mae rhai o' ni'n dianc a rhai o ni'n styc
My careers advisor smiled and shrugged is it time you gave up?
Yr un hen bethau sydd fan hyn

Gad i mi drosgynnu
Cynnau fy mywyd i
Tydi realiti
Dim yn cyflawni
Mae bywyd mor fyr
A'i gychwyn yn cymryd rhy hir

Pwdu yn y pentre’ bach
A dwi’n cuddio yn fy ngwely, tu ôl i’r llenni llwyd
Gola' ola’r haf
Yn suddo dros y bryn

Adar mudol, eto’n gadael
Mi fynnai fynd hefyd, rywle bell o fan hyn
Ceisio codi ond rwy'n dal i ddisgyn

Awyrennau yn yr awyr las
Rhyddid a llygredd y benbleth atgas

Yr Yn hen bethau sydd fan hyn

credits

from Llanast Yn Y Llofft, track released November 22, 2022
Cyfansoddwyd gan/composed by Liam a Siôn Rickard, 2021
Cynhyrchwyd gan/produced by Naughty Magic Simon

Siôn Rickard - llais, synths
Liam Rickard - llais, gitar, synths

license

all rights reserved

tags

about

Lo-fi Jones Wales, UK

Bilingual band from Cymru
*
Winners in Traditional Singing category, Pan-Celtic Festival 2024
*
Enillwyr brwydr y bandiau gwerin 2023 yn yr Eisteddfod Cenedlaethol
*
Finalists on Cân i Gymru 2023
*
Shortlisted for Best Original English Language Song at the Welsh Folk Awards 2023
*
Supported by the Horizons/Gorwelion Launchpad Fund 2024
*
"Like an excellent home brew" - Adam Walton, BBC Radio Wales
... more

contact / help

Contact Lo-fi Jones

Streaming and
Download help

Report this track or account

Lo-fi Jones recommends:

If you like Lo-fi Jones, you may also like: