Cyfleusterau Cynhyrchu BBC Cymru Wales

walesopsenquiries@bbc.co.uk

Ydych chi’n chwilio am stiwdio i'w llogi, cyfleusterau Darlledu Allanol (OB), ôl-gynhyrchu, dylunio neu dalent? Mae gan BBC Cymru Wales le stiwdio, cyfleusterau cynhyrchu a staff profiadol ar gael i ddiwallu anghenion y diwydiant, boed hynny ar gyfer gwaith mewnol y BBC neu’r sector annibynnol. 

Mae gan BBC Cymru Wales enw da heb ei ail am gynhyrchu a chreu rhaglenni ar gyfer y BBC a’r sector annibynnol yng Nghymru ac ymhellach. O Crimewatch a Newsnight i bêl-droed rhyngwladol, Doctor Who, a The Undeclared War ar Channel 4, mae ein cyfleusterau a’n gwasanaethau wedi’u defnyddio gan raglenni amlwg ar gyfer sianeli amrywiol y tu hwnt i’r BBC gan gynnwys Sky Arts, Sky History, Channel 4, S4C a Channel 5.

Mae Sgwâr Canolog y BBC yn gyfleuster diogel o’r radd flaenaf yng nghanol dinas Caerdydd, gyferbyn yn uniongyrchol â Gorsaf Drenau Caerdydd Canolog a Chyfnewidfa Drafnidiaeth Caerdydd. Mae’n cynnig cyfleusterau darlledu, mannau swyddfa a pharcio, gyda dewisiadau llogi gwlyb a sych ar gael.

Am bob ymholiad, e-bostiwch: walesopsenquiries@bbc.co.uk

Cysylltwch â ni

I holi am ddefnyddio Stiwdios Teledu BBC Cymru, Cyfleusterau Darlledu Allanol, Radio, Ôl-gynhyrchu neu gyfleusterau Dylunio Graffeg ar draws pob genre o gynhyrchu teledu a sain, anfonwch ymholiadau a cheisiadau am ddyfynbris i: walesopsenquiries@bbc.co.uk

Newid iaith:

Rebuild Page

The page will automatically reload. You may need to reload again if the build takes longer than expected.

Useful links

Demo mode

Hides preview environment warning banner on preview pages.

Theme toggler

Select a theme and theme mode and click "Load theme" to load in your theme combination.

Theme:
Theme Mode: