Neidio i'r cynnwys

Peter Greenaway

Oddi ar Wicipedia
Dyma ddiwygiad cyfredol y dudalen Peter Greenaway a ddiwygiwyd gan Craigysgafn (sgwrs | cyfraniadau) am 20:28, 8 Medi 2024. Mae'r URL yn y Bar Lleoliad uwchben yn ddolen barhaol i'r fersiwn hwn o'r dudalen hon.
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Peter Greenaway
Ganwyd5 Ebrill 1942 Edit this on Wikidata
Casnewydd Edit this on Wikidata
Man preswylSir Fynwy Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Forest School
  • Walthamstow College of Art Edit this on Wikidata
Galwedigaethcyfarwyddwr theatr, cyfarwyddwr ffilm, llenor, experimental artist, sgriptiwr, arlunydd, golygydd ffilm, actor, sinematograffydd, cyfarwyddwr teledu, cyfarwyddwr, artist, libretydd Edit this on Wikidata
PriodSaskia Boddeke Edit this on Wikidata
Gwobr/auCBE, Golden Calf for Best Script, Gwobr Sutherland, BAFTA Outstanding British Contribution to Cinema Award, Sitges Film Festival Best Director award, Time Machine Award Edit this on Wikidata

Cyfarwyddwr ffilm o Gymru yw Peter Greenaway (ganwyd 5 Ebrill 1942), ac fe'i gyfrir yn un o'r cyfarwyddwyr cyfoes mwyaf uchelgeisiol a dadleuol. Fe'i hyfforddwyd yn wreiddiol i fod yn beintiwr, ac mae'n enwog am ei ffilmiau a'i arddangosfeydd.

Bywyd a dylanwadau cynnar

[golygu | golygu cod]

Ganwyd Peter Greenaway ar 5 Ebrill 1942 yng Nghasnewydd. Roedd ei fam yn Gymraes a threuliodd Peter flynyddoedd cyntaf ei fywyd yng Nghymru, ond symudodd ei deulu i Essex pan oedd y bachgen yn dair blwydd oed. Datblygodd Peter ddiddordeb mewn sinema Ewropeaidd, yn cynnwys cyfarwyddwyr megis Antonioni, Bergman, Godard, Pasolini a Resnais (sef detholiad bychan o'r unigolion y mae eu dylanwad i'w weld ar ei ffilmiau). Serch hynny, peintio oedd ei yrfa ddewis ers iddo fod yn ifanc, a gellir gweld adlewyrchiad o hyn yn y cyfansoddiad gofalus sydd mor nodweddiadol o bob agwedd o'i ffilmiau. Ymysg dylanwadau eraill arno mae llenyddiaeth Joyce a Borges.

Ym 1962 ymrestrodd Greenaway yng Ngholeg Celfyddydau Walthamstow, ar yr un pryd ag Ian Dury, a ymddengys yn y ffilm The Cook, the Thief, His Wife and Her Lover. Treuliodd dair blynedd yno yn cael ei hyfforddu i beintio murluniau, ac yno y gwnaeth ei ffilm gyntaf Death of Sentiment, a ffilmiwyd mewn pedair mynwent fawr yn Llundain ac sydd yn ymdrin â thema dodrefn mynwentydd. O 1965 tan ddiwedd yr 80au gweithiodd yn y Swyddfa Wybodaeth Ganolog (Central Office of Information neu COI) fel golygydd ffilmiau a chyfarwyddwr, ac mae'n debyg y gwnaeth biwrocratiaeth swyddfa lywodraethol argraff arno y gellir gweld ei hôl ar ei waith. Yno creodd Greenaway sawl ffilm arbrofol yn cychwyn â Train ym 1966, a dry ddyfodiad trên ager olaf Gorsaf Waterloo yn fale mecanaidd, a Tree yn yr un flwyddyn, a dâl wrogaeth i goeden a ymlafniodd i fyw tu allan i'r Royal Festival Hall yn Llundain. Ei ffilm gyntaf i gael dosbarthiad eang oedd Seven-Minute Intervals ym 1969. Yn y 70au, wrth iddo ddod yn fwy hyderus ac uchelgeisiol, cyfarwyddodd Greenaway Vertical Features Remake ac A Walk Through H, ac yn yr 80au y cynhyrchiwyd ei ffilmiau enwocaf: The Draughtsman's Contract ym 1982 (a gafodd gryn lwyddiant), A Zed & Two Noughts ym 1985, The Belly of an Architect ym 1987, Drowning by Numbers ym 1988, ac ym 1989 ei ffilm fwyaf llwyddiannus yn fasnachol, The Cook, The Thief, His Wife & Her Lover. Hefyd ym 1989 gweithiodd Greenaway efo'r artist Tom Phillips i greu cyfres deledu fer A TV Dante yn dramateiddio Inferno Dante. Gwelodd y 90au ffilmiau megis Prospero's Books ym 1991, The Baby of Mâcon (a gynhyrchodd gryn ddadl) ym 1993, The Pillow Book ym 1996, ac 8½ Women ym 1999.

Themâu

[golygu | golygu cod]

Nodweddir ffilmiau Greenaway gan fanylder obsesiynol ynglŷn â phob agwedd o'u gwneuthuriad; tueddant hefyd i gynnwys golygfeydd a sefyllfaoedd swrrealaidd, â gwythiennau o hiwmor du yn rhedeg trwyddynt. Nid oes, o angenrheidrwydd, adroddiant eglur iawn i'w ganfod ynddynt. O ran thema, ymdrinant yn anad dim â gwrthgyferbyniadau megis gwisg a noethni, natur ac adeiladau dynol, dodrefn a phobl, pleser rhywiol a marwolaeth boenus, trefn ac anhrefn, creu a dadfeilio, yn ogystal â themâu gwyddonol megis geometreg ac anatomeg; chwery rhestri a gwyddoniaduron rhan bwysig mewn llawer o'i waith. Gwneir cyfeiriadau yn aml i ffurfiau eraill ar gelf, megis pensaernïaeth, llenyddiaeth, coginio ac arlunio ac mae dylanwad trwm syniadau'r Dadeni a pheintwyr Ffleminaidd i'w weld arno. Yn ogystal â hyn, chwery cerddoriaeth ran drawiadol yng ngwaith Greenaway. Gweithia'r cyfansoddwr Michael Nyman efo Greenaway er 1991, yn ogystal â Wim Mertens, a gyfranodd i Belly of an Architect.

Y presennol a'r dyfodol

[golygu | golygu cod]

Ar hyn o bryd mae Greenaway yn gweitho ar brosiect amlgyfryngol uchelgeisiol, The Tulse Luper Suitcases y bwriedir iddi gynnwys tair ffilm, cyfres deledu, a 92 DVD, yn ogystal â gwefannau, llyfrau a deunydd ar CD-ROM, i gyd yn ymwneud â bywyd Tulse Luper a'i gesys a'u cynnwys dirgel.

Yn ogystal â'i waith cynhyrchu, mae Greenway yn gweithio yn yr Ysgol Uwchraddedig Ewropeaidd yn Saas-Fee, y Swistir, yn dysgu astudiaethau sinema. Yn 2002 derbyniodd ddoethuriaeth er anrhydedd gan yr Adran Gyfryngau a Chyfathrebu yno. Cyfrannodd hefyd i Visions of Europe, casgliad o ffilmiau byrion gan wahanol gyfarwyddwyr yn yr Undeb Ewropeaidd. The European Showerbath yw enw'r gwaith a gyfrannodd Greenaway ar ran Prydain.

Ar 2 Mehefin 2006, mewn oriel yn y Rijksmusem yn Amsterdam, agorodd darn theatr newydd gan Greenaway o'r enw Nightwatching, yn ymdrin â'r peintiwr o'r Iseldiroedd Rembrandt van Rijn. Daw'r enw o un o baentiadau enwocaf Rembrandt: De compagnie van Frans Banning Cocq ('Cwmni Frans Banning Cocq'), a adweinir yn well wrth yr enw De Nachtwacht (sef 'The Nightwatch' yn Saesneg).

Ffilmiau

[golygu | golygu cod]

Teledu

[golygu | golygu cod]
  • Act of God (1980) imdb
  • Death in the Seine (Teledu Ffrengig, 1988) imdb
  • A TV Dante (cyfres mini, 1989) imdb
  • M Is for Man, Music, Mozart (1991) imdb
  • A Walk Through Prospero's Library (1992) imdb
  • Darwin (Teledu Ffrengig, 1993) imdb

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]