Tosca
Poster | |
Enghraifft o'r canlynol | gwaith drama-gerdd, gwaith neu gyfansodiad cerddorol |
---|---|
Label brodorol | Tosca |
Gwlad | yr Eidal |
Iaith | Eidaleg |
Dyddiad cyhoeddi | 1900 |
Dechrau/Sefydlu | 1898 |
Genre | opera |
Cymeriadau | Floria Tosca, Mario Cavaradossi, Barwn Scarpia, Cesare Angelotti, Spoletta, Sciarrone, Ceidwad carchar, Bugail ifanc, Clochydd, Corws |
Yn cynnwys | Recondita armonia, Vissi d'arte, E lucevan le stelle |
Libretydd | Luigi Illica, Giuseppe Giacosa |
Lleoliad y perff. 1af | Teatro dell'Opera di Roma |
Dyddiad y perff. 1af | 14 Ionawr 1900 |
Statws hawlfraint | parth cyhoeddus |
Enw brodorol | Tosca |
Lleoliad y gwaith | Rhufain |
Hyd | 2 awr |
Cyfansoddwr | Giacomo Puccini |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae Tosca yn opera mewn tair act gan Giacomo Puccini[1] i libreto Eidalaidd gan Luigi Illica a Giuseppe Giacosa. Mae'r gwaith sy'n seiliedig ar ddrama Victorian Sardou, 1887, La Tosca, yn ddarn ddramatig. Mae'n cael ei osod yn Rhufain ym mis Mehefin 1800, pan oedd rheolaeth Deyrnas Napoli o Rufain dan fygythiad gan ymosodiad Napoleon ar yr Eidal.[2] Mae'n cynnwys darluniau o artaith, llofruddiaeth a hunanladdiad,[3] yn ogystal â rhai o ariâu telynegol enwocaf Puccini.
Perfformiad cyntaf
Perfformiwyd Tosca am y tro cyntaf yn Teatro Costanzi, Rhufain ar 14 Ionawr 1900 o dan arweiniad Leopoldo Mugnone.[4] Chwaraewyd rhan Floria Tosca gan Hariclea Darclée, rhan Mario Cavaradossi gan Emilio De Marchi, rhan Scarpia gan Eugenio Giraldoni a rhan Cesare Angelotti, gan Ruggero Galli yn y perfformiad cyntaf. Cafodd Tosca ei berfformio am y tro cyntaf ar adeg o aflonyddwch yn Rhufain, a chafodd ei berfformiad cyntaf ei ohirio am ddiwrnod oherwydd ofn bwydo'r aflonyddwch.[5] Er gwaethaf adolygiadau anfoddhaol gan y beirniaid, roedd yr opera yn llwyddiant mawr ar unwaith gyda'r cyhoedd.
Cymeriadau
Dyma restr o gymeriadau Tosca[6]
Rôl | Llais |
---|---|
Floria Tosca, cantores enwog | soprano |
Mario Cavaradossi, arlunydd | tenor |
Barwn Scarpia, pennaeth yr heddlu | bariton |
Cesare Angelotti, cyn conswl y Weriniaeth Rufeinig | bas |
Clochydd | bariton |
Spoletta, asiant yr heddlu | tenor |
Sciarrone, asiant arall | bass |
Ceidwad carchar | bass |
Bugail | bachgen soprano |
Milwyr, asiantau heddlu, bechgyn allor, dynion a menywod bonheddig, trefwyr, crefftwyr |
Cefndir hanesyddol
Yn ôl y libreto, mae digwyddiadau Tosca yn cael eu lleoli yn Rhufain ym mis Mehefin 1800. Mae Sardou, yn ei ddrama, yn ei nodi'n fwy manwl; Cynhelir La Tosca yn y prynhawn, gyda'r nos, a bore cynnar 17 a 18 Mehefin 1800.
Roedd yr Eidal wedi ei rannu, ers peth amser, i mewn i nifer o wladwriaethau bychain. Roedd y Pab yn llywodraethu'r taleithiau Pabyddol yng nghanolbarth yr Eidal gan gynnwys Rhufain. Ym 1796 ymosododd byddin Ffrengig o dan arweiniad Napoleon ar yr Eidal. Gorchfygodd y Ffrancod Rhufain ar 11 Chwefror 1798 gan ffurfio gweriniaeth yno. Roedd y weriniaeth newydd yn cael ei lywodraethu gan saith conswl. Yn yr opera mae'r cymeriad Angelloti yn un o'r consyliaid. Ym mis Medi 1799 mae byddin Ffrainc, a fu'n amddiffyn y weriniaeth yn ymadael a Rhufain. Wrth i'r Ffrancod ymadael mae lluoedd Deyrnas Napoli yn meddiannu’r ddinas.
Ym Mai 1800 dychwelodd Napoleon a'i lluoedd i'r Eidal. Ar 14 Mehefin bu frwydr rhwng lluoedd Ffrainc a lluoedd Awstria, brwydr Marengo.[7] Roedd yr Awstriaid yn gynghreiriaid i Ddinas Napoli. Erbyn canol bore roedd yr Awstriaid yn rheoli maes y gad, ac roedd yn ymddangos eu bod yn fuddugoliaethus. Danfonodd Michael von Melas cadlywydd yr Awstriaid negeswyr i Rufain gyda newyddion am y fuddugoliaeth. Yn y prynhawn cyrhaeddodd lluoedd Ffrengig newydd a threchwyd yr Awstriaid, danfonwyd negeswyr eraill i Rufain i ddiweddaru'r newyddion. Gadawodd lluoedd Napoli Rhufain, a threuliodd y ddinas y pedair blynedd ar ddeg nesaf o dan oruchwyliaeth Ffrainc. Mae'r opera Tosca yn adrodd hanes digwyddiadau yn Rhufain rhwng derbyn y newyddion cychwynnol bod Napoleon wedi colli a derbyn y newyddion diweddarach ei fod yn fuddugol.
Plot
Act un
Golygfa: Eglwys Sant Andrea della Valle. Hanner dydd.[8] Mae Angelotti, carcharor gwleidyddol ar ffo, yn ceisio lloches tu mewn i eglwys Sant Andrea della Valle. Wrth iddo ddod o hyd i le i guddio, mae Clochydd ac yna'r arlunydd, Mario Cavaradossi. Mae Cavardossi yn gweithio ar lun o Fair Magdalen, wedi'i ysbrydoli gan chwaer Angelotti, Marchesa Attavanti.[9] Wedi i'r clochydd ymadael, mae Angelotti yn dod allan o'i guddfan. Mae Cavaradossi, yn cydnabod ef ac yn addo ei helpu, ond yn dweud wrtho am guddio pan fydd ei gariad, y canwr opera Floria Tosca, yn cyrraedd. Mae hi'n gandryll bod peintiad Cavaradossi o'r Madona wedi ei selio ar fenyw arall. Unwaith y bydd Tosca wedi mynd, mae Angelotti yn ail-ymddangos. Clywir canon yn ergydio fel arwydd bod yr heddlu wedi darganfod bod Angelotti wedi dianc o'r carchar, ac mae ef a Cavaradossi yn ffoi i dŷ'r arlunydd.[10]
Mae'r clochydd yn dychwelyd, gyda chlerigwyr a chôr o fechgyn allor i ddathlu'r newyddion bod Napoleon wedi ei drechu ym Mrwydr Marengo. Mae'r cyffro cyffredinol yn cael ei dorri'n fyr gan fynedfa Scarpia, Prif Swyddog yr Heddlu, ar lwybr Angelotti. Mae Tosca yn cyrraedd yn chwilio am Cavardossi, mae Scarpia yn chwarae ar ei eiddigedd. Gyda'i eiddigedd wedi tanio, mae Tosca yn gadael yn gynddeiriog ac mae Scarpia yn gorchymyn ei ddynion i'w dilyn yn y gobaith y bydd hi'n ei arwain i'r ffoadur. Mae Te Deum o ddiolchgarwch yn dechrau ac mae Scarpia yn datgan y bydd yn plygu Tosca i'w ewyllys.[11]
Act Dau
Golygfa: Fflat Scarpia yn y Palazzo Farnese. Min nos.[12]
Yn ei fflat uwchben y Palazzo Farnese, mae Scarpia yn edrych ymlaen at y pleser o gael Tosca o dan ei rym. Ar ôl methu â dod o hyd i Angelotti, mae asiant Scarpia, Spoletta, yn cyrraedd gyda newyddion ei fod wedi dod o hyd i Cavardossi ac wedi ei arestio er mwyn ei holi.[13]
Wedi'i holi gan Scarpia, mae Cavaradossi yn gwadu unrhyw wybodaeth am Angelotti ac mae'n cael ei ddedfrydu i gael ei arteithio hyd ildio gwybodaeth. Pan gyrhaedda Tosca, mae Scarpia yn dechrau holi hi, gan ddefnyddio sgrechiadau Cavaradossi i'w phoenydio hi; O dan y gwasgedd hwn, mae Tosca yn datgelu lle cuddio Angelotti.
Mae Cavaradossi yn cael ei lusgo yn ôl i'r ystafell, wedi ei anafu'n arw a bron yn anymwybodol. Mae'n flin o ddarganfod bod Tosca wedi datgelu cuddfan Angelotti i Scarpia, ond ar y pryd mae newyddion yn cyrraedd bod adroddiad am fuddugoliaeth frenhinol yn Marengo yn anghywir a bod Napoleon wedi ennill dydd. O glywed y newyddion mae Cavaradossi yn rhoi bloedd o herfeiddiad ac mae Scarpia yn gorchymyn ei ddienyddio.
Wedi ei adael ar ei phen ei hun gyda Scarpia, mae Tosca yn erfyn am fywyd ei chariad. Mae Scarpia yn cytuno i arbed Cavaradossi os yw Tosca yn ildio yn rhywiol iddo. Gan weld dim dewis amgen mae Tosca yn cytuno. Mae Scarpia yn dweud wrth Spoletta i berfformio ffug dienyddiad. Wedi derbyn addewid o lwybr diogel iddi hi a Cavaradossi i ffoi Rhufain wae Tosca yn trywanu Scarpia i farwolaeth wrth iddo geisio derbyn ei wobr am wneud y fargen.
Act Tri
Golygfa : Waliau Castell Sant Angelo. Awr cyn codi'r wawr.[14]
Clywir bachgen o fugail yn canu yn y pellter. Mae Cavaradossi yn aros ei ddienyddiad. Mae'n ceisio ysgrifennu llythyr o ffarwel i Tosca ac mae'n adlewyrchu ar y llawenydd y mae hi wedi'i rhoi iddo. Mae Tosca'n cyrraedd ac yn datgelu ei chynllun ar gyfer eu dianc. Mae'r sgwad tanio yn perfformio'r hyn y mae Tosca yn credu ei fod yn ffug dienyddiad. Mae'n sylweddoli'n rhy hwyr bod Scarpia wedi twyllo hi: roedd y dienyddiad yn un go iawn ac mae Cavaradossi wedi marw. Mae newyddion am lofruddiaeth Scarpia wedi torri. Wrth i Spoletta a'i ddynion rhuthro i mewn i arestio Tosca, mae hi'n neidio oddi ar wal y castell i'w marwolaeth.[15]
Detholiad
-
"Recondita armonia", Enrico Caruso, 1908
-
Act 1 finale, Pasquale Amato, fel Scarpia, yn perfformio finale act un gyda chorws y Metropolitan Opera
-
"Vissi d'arte" Emmy Destinn, 1914
-
description4 = Leo Slezak ym 1913 i Edison Records
Cyfeiriadau
- ↑ Opera Cenedlaethol Cymru -Tosca adalwyd 27 Hydref 2018
- ↑ The History of Tosca - Opera Providence adalwyd 27 Hydref 2018
- ↑ About Tosca adalwyd 27 Hydref 2018
- ↑ "Tosca: Performance history". Stanford University. Cyrchwyd 27 Hydref 2018.
- ↑ History Today: First Performance of Puccini's Tosca adalwyd 27 Hydref 2018
- ↑ Tosca, Giacomo Puccini Archifwyd 2020-09-29 yn y Peiriant Wayback adalwyd 27 Hydref 2018
- ↑ Encyclopædia Britannica, inc. Battle of Marengo adalwyd 27 Hydref 2018
- ↑ Thought Co Tosca Synopsis: The Story of Puccini's Famous Opera adalwyd 27 Hydref 2018
- ↑ Opera'r Metropoi=litan Synopsis o Tosca adalwyd 27 Hydref 2018
- ↑ Opera Cenedlaethol Lloegr: Tosca adalwyd 27 Hydref 2018
- ↑ Opera San Fransisco, Tosca Synopsis Archifwyd 2020-07-12 yn y Peiriant Wayback adalwyd 27 Hydref 2018
- ↑ Act 2 - Synopsis – OperaFolio adalwyd 27 Hydref 2018
- ↑ Classic FM Puccini's Tosca: a beginner's guide adalwyd 27 Hydref 2018
- ↑ Tosca - Giacomo Puccini - Act 3 - Synopsis – OperaFolio adalwyd 27 Hydref 2018
- ↑ Summary of “Tosca” in 3 Minutes - Opera Synopsis adalwyd 27 Hydref 2018
Ffynonellau
- Ashbrook, William (1985). The Operas of Puccini. Ithaca, New York: Cornell University Press. ISBN 978-0-8014-9309-6.
- Budden, Julian (2002). Puccini: His Life and Works (arg. paperback). Oxford: Oxford University Press. ISBN 978-0-226-57971-9.
- Burton, Deborah; Nicassio, Susan Vandiver; Züno, Agostino, gol. (2004). Tosca's Prism: Three Moments of Western Cultural History. Boston: Northeastern University Press. ISBN 978-1-55553-616-9.
- Fisher, Burton D., gol. (2005). Opera Classics Library Presents Tosca (arg. revised). Boca Raton, Florida: Opera Journeys Publishing. ISBN 978-1-930841-41-3.
- Girardi, Michele (2000). Puccini: His International Art. Chicago: Chicago University Press. ISBN 978-0-226-29757-6.
- Greenfeld, Howard (1980). Puccini. London: Robert Hale. ISBN 978-0-7091-9368-5.
- Greenfield, Edward (1958). Puccini: Keeper of the Seal. London: Arrow Books.
- Greenfield, Edward; March, Ivan; Layton, Robert, gol. (1993). The Penguin Guide to Opera on Compact Discs. London: Penguin Books. ISBN 978-0-14-046957-8.
- Kerman, Joseph (2005). Opera as Drama. Berkeley and Los Angeles: University of California Press. ISBN 978-0-520-24692-8.CS1 maint: ref=harv (link) (Note: this book was first published by Alfred A. Knopf in 1956)
- Neef, Sigrid, gol. (2000). Opera: Composers, Works, Performers (arg. English). Cologne: Könemann. ISBN 978-3-8290-3571-2.
- Newman, Ernest (1954). More Opera Nights. London: Putnam.
- Nicassio, Susan Vandiver (2002). Tosca's Rome: The Play and the Opera in Historical Context (arg. paperback). Oxford: University of Chicago Press. ISBN 978-0-19-517974-3.
- Osborne, Charles (1990). The Complete Operas of Puccini. London: Victor Gollancz. ISBN 978-0-575-04868-3.
- Petsalēs-Diomēdēs, N. (2001). The Unknown Callas: The Greek Years. Cleckheaton (UK): Amadeus Press. ISBN 978-1-57467-059-2.
- Phillips-Matz, Mary Jane (2002). Puccini: A Biography. Boston: Northeastern University Press. ISBN 978-1-55553-530-8.
- Roberts, David, gol. (2005). The Classic Good CD & DVD Guide 2006. London: Haymarket. ISBN 978-0-86024-972-6.