Capital T (cerddor)
Capital T | |
---|---|
Ffugenw | Capital T |
Ganwyd | 1 Mawrth 1991 Prishtina |
Dinasyddiaeth | Cosofo |
Alma mater | |
Galwedigaeth | canwr, artist recordio |
Arddull | hip hop |
Tad | Agim Ademi |
Capital T yw enw llwyfan Kushtrim Ademi (ganwyd 1 Mawrth 1991 yn Priština, Cosofo). Mae'n gyfansoddwr, rapiwr a chanwr sy'n canu yn yr iaith Albaneg yn arbennig yn tafodiaeth Geg a siaradir yng ngogledd Albania a Kosofo a'i ddinas enedigol, Prishtina (Priština), sef prifddinas Cosofo.
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Mynychodd Kushtrim Ademi ysgol uwchradd (Gymnasium) Sami Frashëri yn Priština lle ddechreuodd ei ddiddordeb mewn cerddoriaeth. Ysbrydolwyd ef i ddechrau rapio gan ei ewythr, brawd ei fam, y rapiwr Besnik Canolli, un hanner o'r ddeuawd rapio Albaneg, 2po2, gydag Arben Mehmeti.
Yn 18 oed, canodd Kushtrim Ademi y gân, Shopping ar Video Festi Muzikor 2009, ac yna, flwyddyn yn hwyrach, cyhoeddwyd Shum Nalt, gwaith ar y cyd gyda Dafina Zeqiri a 2po2. Yn 2010 canodd y gân Diva gydag Eni Koçi yng nghystadleuaeth Kënga Magjike gan gyrraedd y rownd gyn-derfynnol.
Ers hynny, mae Ademi, o dan ei enw llwyfan Capital T wedi perfformio a chyfansoddi. Mae hefyd yn arddel y llys-enw, Trimi. Ymysg ei hits mwyaf mae Një Ëndërr (Breuddwyd) gydag Alban Skenderai; Pse po ma lun lojen (Pam bod hi mor hir) a Pasha Jeten. Ffilmiwyd fideo Pasha Jeten (Gyda bywyd) yn Skopje, prifddinas Gweriniaeth Macedonia. Er bod y pensaerniaeth yn ymdebygu ar yr olwg gyntaf i Paris, Skopje yw'r lleoliad. Mae oddeutu 20% o boblogaeth Macedonia yn Albaneg.
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Bu Capital T yn byw am gyfnod yn yr Unol Daleithiau, ond mae bellach nôl yn ei famwlad. Authentic Entertainment, lapel recordio ei ewythr, 2po2 sy'n cyhoeddi mwyafrif ei gerddoriaeth.
Disgyddiaeth
[golygu | golygu cod]Albymau
[golygu | golygu cod]- 2010: Replay
- 2012: Kapo
- 2015: Slumdog Millionaire
- 2017: Winter Is Here
Senglau
[golygu | golygu cod]- 2008
- Shopping
- 2009
- Shum Nalt
- Supersweet
- 2010
- Ma E Mira
- 2011
- Make a wish
- Ku Jon Paret
- U Bo Von
- 2012
- Veç Asaj
- Karma
- As Gucci As Luis
- 2013
- Zero
- Dit E Re
- 2014
- Hapat E Mi
- Posh (feat. 2po2)
- Ballin (feat. Mc Kresha)
- Kur Fol Zemra
- 2015
- Qka Don Ajo
- Pare Pare
- 2016
- Hitman
- Thirrem n Telefon (feat. Granit Derguti)
- Bongo (feat. Dhurata Dora)
- C'est La guerre
- Koka Kola
- 2017
- UNO
- Hatixhe
- Lule
- Andiamo (feat. Ardian Bujupi)
- Pse Po Ma Lun Lojen
- Pa Cenzur (feat. Vig Poppa & Lyrical Son)
- NUMRA (feat McKresha)
Senglau ar y Cyd
[golygu | golygu cod]- 2013
- Një Ëndërr (Alban Skënderaj feat. Capital T)
- 2014
- Prishtinali (2po2 feat. DJ Blunt, Lumi B, Lyrical Son, Capital T, Real 1, Mixey & DJ Flow)
- Sonte (Flori Mumajesi feat. Capital T)