Castell Eilean Donan
Math | castell |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Cyngor yr Ucheldir |
Gwlad | Yr Alban |
Cyfesurynnau | 57.273894°N 5.516051°W |
Cod OS | NG8812725836 |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig categori A |
Manylion | |
Mae Castell Eilean Donan ar ynys o'r un enw ym man cyfarfod 3 llyn, Loch Duich, Loch Long a Loch Alsh, yn Ucheldir yr Alban. Ystyr 'Eilean' yw 'Ynys', ac mae'n debyg daeth yr enw 'Donan' o Sant Donan; daeth o i'r ardal tua 580ac.
Roedd yno caer yr Oes Haearn, ac adeiladwyd castell mawr, tua 3.000 medr sgwâr, gan Kenneth Mackenzie ar y safle yn gynnar yn y 13g, yn amddiffynfa yn erbyn y Llychlynwyr.
Llehawyd maint y castell i 528 medr sgwâr tua 1400, ond adeiladwyd estyniad yn 16g.
Ym 1719, amddiffynnodd y castell gan 46 o Sbaenwyr, oedd yn cefnogi'r Jacobitiaid yn erbyn y Saeson, rhan o gynllun i anfon ail armada, a rwystrodd gan dywydd gwael. Cipwyd a dinistriodd y castell gan y Saeson.
Prynwyd yr ynys gan John Macrae-Gilstrap ym 1911, ac ailadeiladwyd y castell rhwng 1913 a 1932.. Erbyn hyn, mae canolfan ymwelwyr dros y bont ar y tir mawr, a rheolir y castell gan elusen, Ymddiriodolaeth Conchra.[1]