Cholesterol
Enghraifft o'r canlynol | math o endid cemegol |
---|---|
Math | sterol |
Màs | 386.354866092 uned Dalton |
Fformiwla gemegol | C₂₇h₄₆o |
Clefydau i'w trin | Anhwylder maeth |
Rhan o | cholesterol binding, cholesterol biosynthetic process, cholesterol catabolic process, response to cholesterol, cellular response to cholesterol, intestinal cholesterol absorption, cholesterol transport, lysosome to ER cholesterol transport, cholesterol transfer activity, triglyceride-rich plasma lipoprotein particle, cholesterol efflux, cholesterol import, cholesterol metabolic process, cholesterol biosynthetic process via 24,25-dihydrolanosterol, cholesterol biosynthetic process via desmosterol, cholesterol biosynthetic process via lathosterol, cholesterol homeostasis, cholesterol O-acyltransferase activity, cholesterol 25-hydroxylase activity, cholesterol 7-alpha-monooxygenase activity, cholesterol oxidase activity, cholesterol 24-hydroxylase activity, 7-dehydrocholesterol reductase activity, steryl-beta-glucosidase activity, cholesterol alpha-glucosyltransferase activity, steroid hydroxylase activity, cholesterol monooxygenase (side-chain-cleaving) activity, sterol transporter activity, cholesterol sulfotransferase activity |
Yn cynnwys | carbon, ocsigen, hydrogen |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Lipis (braster) yw cholesterol. Caiff ei gynhyrchu yn yr afu o’r bwydydd bras a fwyteir gan yr unigolyn. Mae'n fraster pwysig ar gyfer gweithrediad normal y corff. Mae'n inswleiddio ffibrau’r nerfau. Mae'n floc adeiladu ar gyfer hormonau ac yn galluogi'r corff i gynhyrchu halwynau'r bustl. Mae lefelau uchel o lipidau yn y gwaed, hyperlipidemia, yn cael effaith difrifol ar iechyd unigolyn - mae'n cynyddu'r risg o drawiad ar y galon neu strôc..[1]
Mae'r swm o golesterol yn y gwaed yn gallu amrywio rhwng 3.6 a 7.8 mmol/litr. Os yw'r swm yn fwy na 6 mmol/litr ystyrir bod y lefel yn uchel ac yn ffactor risg ar gyfer clefyd rhydwelïol. Mae cyngor iechyd y llywodraeth yn argymell cyfanswm targed o ran lefel cholesterol yn y gwaed o lai na 5. Yn y DU, mae gan ddau o bob tri oedolyn gyfanswm lefel cholesterol o 5 neu uwch. Mae gan ddynion yn Lloegr, ar gyfartaledd, lefel o 5.5, ac mae gan fenywod lefel o 5.6. Gall lefelau cholesterol uchel achosi culhau'r rhydwelïau (atherosglerosis), trawiadau ar y galon a strociau. Mae'r risg o glefyd coronaidd y galon yn cynyddu wrth i lefel y cholesterol gynyddu. Os oes gan unigolyn bwysedd gwaed uchel, ac mae'n ysmygu bydd hyn yn cynyddu'r risg yn fwy fyth.
Mathau o lipoproteinau
[golygu | golygu cod]Caiff cholesterol ei gario yn llif y gwaed gan foleciwlau a elwir yn lipoproteinau. Ceir tri phrif fath o lipoproteinau:
- Lipoprotein dwysedd isel (LDL). Gelwir hwn yn golesterol ‘drwg’. Credir ei fod yn cynyddu clefyd rhydwelïol. Mae LDL yn cario cholesterol o'r afu i'r celloedd. Os oes gormod i'r celloedd ei ddefnyddio gall achosi cronni niweidiol yn y rhydwelïau. Fel rheol mae'r gwaed yn cynnwys tua 70% o LDL: bydd y lefel hon yn amrywio o un unigolyn i'r llall.
- Lipoprotein dwysedd uchel (HDL). Gelwir hwn yn golesterol 'da'. Credir ei fod yn atal clefyd rhydwelïol. Mae'n mynd â cholesterol i ffwrdd oddi wrth y celloedd ac yn ôl i'r afu. Yna naill ai caiff ei ddadelfennu neu ei basio o'r corff fel cynnyrch gwastraff.
- Mae triglyseridau yn fath arall ar sylwedd bras yn y gwaed. Fe'u ceir mewn cynhyrchion llaeth, cig ac olewau coginio. Caiff triglyseridau hefyd eu cynhyrchu gan yr afu. Mae unigolion sydd dros bwysau ac yn bwyta deiet sy'n uchel mewn braster neu fwydydd siwgraidd neu sy'n yfed meintiau mawr o alcohol, yn cynyddu eu risg o lefel driglyserid uchel.
Diagnosio cholesterol uchel
[golygu | golygu cod]Mae angen prawf gwaed ar unigolyn i bennu eu lefel cholesterol. Cynhelir hwn ar ôl i'r unigolyn ymprydio am 12 awr fel y bydd yr holl fwyd wedi'i dreulio'n llwyr. Caiff y sampl gwaed ei archwilio yn y labordy patholeg i bennu faint o LDL, HDL a thriglyseridau sydd yn y gwaed. Mesurir cholesterol gwaed mewn unedau a elwir y milimolau i bob litr o waed (mmol/litr) Cyngor iechyd llywodraeth y DU yw y dylai unigolyn gael cyfanswm lefel cholesterol yn y gwaed o lai na 5 mmol/litr a lefel colestrol LDL o dan 3 mmol/litr. Gall unrhyw unigolyn gael prawf ar eu lefel cholesterol. Mae'n bwysig bod unigolion yn cael gwirio eu lefel cholesterol os:
- yw'r unigolyn dros 40 oed,
- mae gan unigolyn hanes teuluol o glefyd cardiofasgwlar e.e. os yw eu tad neu eu brawd wedi datblygu clefyd y galon, neu drawiad ar y galon, neu strôc cyn 55 oed neu fod eu mam neu eu chwaer wedi cael y cyflyrau hyn cyn 65 oed,
- mae gan aelod agos o'r teulu gyflwr cysylltiedig â cholesterol,
- mae’r unigolyn dros bwysau neu'n ordew,
- mae gan unigolyn bwysedd gwaed uchel (gorbwysedd),
- mae gan unigolyn gyflwr meddygol, fel cyflwr aren, neu chwarren thyroid danweithredol, neu lid y pancreas llym. Mae hyn oherwydd gall y cyflyrau hyn achosi lefel gynyddol o golesterol.
Trin lefelau cholesterol uchel
[golygu | golygu cod]Y driniaeth gychwynnol ar gyfer pobl sydd â lefelau uchel o golesterol yw newidiadau ffordd o fyw. Gall bwyta diet iach a chytbwys sy'n isel mewn braster dirlawn ac ymarfer corff leihau lefelau "cholesterol drwg" (LDL). Gall rhoi'r gorau i ysmygu hefyd helpu i atal cholesterol uchel rhag datblygu.
Os na fydd newidiadau ffordd o fyw yn lleihau'r lefelau cholesterol yn ddigonol gall meddyg ragnodi sawl math gwahanol o feddyginiaeth sy'n lleihau cholesterol ac sy'n gweithio mewn gwahanol ffyrdd.
Y meddyginiaethau a ragnodir fwyaf cyffredin yw[2]:
- Statinau. Mae statinau'n rhwystro'r ensym yn yr iau sy'n helpu i wneud cholesterol. Mae hyn yn arwain at ostyngiad yn lefelau cholesterol yn y gwaed.
- Aspirin. Mewn rhai achosion, gellir rhagnodi dogn dyddiol isel o aspirin, yn dibynnu ar oedran (fel arfer dros 40 oed) a ffactorau risg eraill. Gall dos isel o aspirin helpu i atal clotiau gwaed rhag ffurfio, yn enwedig ar gyfer rhywun sydd wedi cael trawiad ar y galon, neu sydd â risg uchel o ddatblygu clefyd cardio fasgwlar (CCF).
- Ezetimibe. Mae Ezetimibe yn feddyginiaeth sy'n blocio cholesterol o fwydydd ac asidau bustlog yn y coluddyn rhag cael ei amsugno i mewn i'r gwaed. Yn gyffredinol nid yw mor effeithiol â statinau, ond mae'n llai tebygol o achosi sgil effeithiau.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Iechyd a GofalCymdeithasol". CBAC. 2011. Cyrchwyd 2017. Check date values in:
|accessdate=
(help) - ↑ NHS High cholesterol, treatment adalwyd 13 Ionawr 2018