Crai Perm
Math | krai of Russia |
---|---|
Prifddinas | Perm |
Poblogaeth | 2,495,266 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Dmitry Makhonin |
Cylchfa amser | Yekaterinburg Time |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Rwseg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Dosbarth Ffederal Volga |
Sir | Rwsia |
Gwlad | Rwsia |
Arwynebedd | 160,236 km² |
Yn ffinio gyda | Komi Republic, Oblast Kirov, Udmurtia, Bashkortostan, Oblast Sverdlovsk |
Cyfesurynnau | 59.23°N 56.13°E |
RU-PER | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | Legislative Assembly of Perm Krai |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Governor of Perm Krai |
Pennaeth y Llywodraeth | Dmitry Makhonin |
Un o ddeiliaid ffederal Rwsia yw Crai Perm (Rwseg: Пе́рмский край, Permsky kray; 'Perm Krai'). Canolfan weinyddol y crai (krai) yw dinas Perm. Poblogaeth: 2,635,276 (Cyfrifiad 2010).
Lleolir y crai yn rhanbarth gweinyddol Dosbarth Ffederal Volga, yn ne Rwsia, ar lethrau gorllewinol canol Mynyddoedd yr Wral. Mae'n ffinio gyda Gweriniaeth Komi yn y gogledd, Oblast Kirov yn y gogledd-orllewin, Gweriniaeth Udmurt yn y de-orllewin, Gweriniaeth Bashkortostan yn y de, ac Oblast Sverdlovsk yn y dwyrain.
Llifa Afon Kama, un o lednentydd Afon Volga, drwy'r crai. Mae afonydd mawr eraill yn cynnwys Afon Chusovaya ac Afon Sylva. Mae'n ardal sy'n gyfoethog ei hadnoddau naturiol, yn cynnwys olew, nwy, halen potasiwm ac aur.
Sefydlwyd Crai Perm ar 1 Rhagfyr, 2005 fel canlyniad i refferendwm 2004 ar uno Oblast Perm ac Ocrwg Ymreolaethol Komi-Permyak.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Rwseg) Gwefan swyddogol y crai Archifwyd 2005-05-30 yn y Peiriant Wayback