Cyfieithu'r Beibl i'r Gymraeg
Cafodd rhannau o'r Beibl eu cyfieithu i'r Gymraeg yn y 15fed ganrif, ond y cyfieithiad a deyrnasodd am bedair canrif oedd cyfieithiad William Morgan (esgob), Y Beibl cyssegr-lan sef Yr Hen Destament, a'r Newydd a gyhoeddwyd yn 1588[1] ac a ddiwygiwyd gan Dr John Davies, Mallwyd, yn bennaf, yn 1620.
Cyhoeddwyd Y Beibl Cymraeg Newydd yn 1988 a'i adolygu yn 2004.
Mae beibl.net, a gyhoeddwyd yn 2015, yn gyfieithiad newydd i Gymraeg mwy llafar ei naws.
Yn 1551 roedd William Salesbury yn gyfrifol am gyhoeddi'r gyfran sylweddol gyntaf o'r Ysgrythurau i ymddangos yn Gymraeg, Kynniver llith a ban,[2] ac ef a oedd yn gyfrifol, yn bennaf, am y cyfieithiad Cymraeg o'r Testament Newydd a'r Salmau a gyhoeddwyd yn 1567, ac a ddiwygiwyd gan William Morgan ar gyfer ei gyfieithiad ef o'r Beibl cyfan yn 1588, Felly, mewn un ystyr byddai'n gywirach galw 'Beibl William Morgan' yn 'Feibl William Morgan a William Salesbury'.
Hanes y Fersiynau
[golygu | golygu cod]Fersiynau'r 15eg ganrif
[golygu | golygu cod]Mae sawl ffynhonnell o'r 19eg ganrif yn dyfynnu'r stori bod cyfieithiad o'r Lladin Vulgate yn bodoli ym 1470. Fodd bynnag, mae’r Athro Glanmor Williams wedi wfftio’r syniad bod y Beibl cyfan wedi’i gyfieithu i’r Gymraeg cyn i Feibl William Morgan ymddangos ym 1588.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Isaac Thomas, William Morgan a'i Feibl (Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1988)
- ↑ D. Densil Morgan (15 Ebrill 2018). Theologia Cambrensis: Protestant Religion and Theology in Wales, Volume 1: From Reformation to Revival 1588-1760. Gwasg Prifysgol Cymru. t. 8. ISBN 978-1-78683-239-9. (Saesneg)