André Malraux
André Malraux | |
---|---|
Ganwyd | Georges André Malraux 3 Tachwedd 1901 Paris, 18fed arrondissement Paris |
Bu farw | 23 Tachwedd 1976 o canser Créteil |
Man preswyl | Paris |
Dinasyddiaeth | Ffrainc |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, cyfarwyddwr ffilm, sgriptiwr, golygydd ffilm, hanesydd celf, nofelydd, llenor, newyddiadurwr, beirniad celf, rhyddieithwr, dramodydd, archeolegydd, gwrthryfelwr milwrol |
Swydd | Gweinidog y Wladwriaeth, Minister of Culture (France), Minister of Culture (France), Minister of Culture (France), Minister of Culture (France), Minister of Culture (France), Minister of Culture (France) |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Man's Fate |
Prif ddylanwad | Maurice Barrès, André Gide, Friedrich Nietzsche |
Plaid Wleidyddol | RPF |
Priod | Clara Malraux, Madeleine Malraux |
Partner | Josette Clotis, Louise Lévêque de Vilmorin |
Plant | Florence Malraux |
Gwobr/au | Officier de la Légion d'honneur, Croix de guerre 1939–1945, Gwobr Jawaharlal Nehru am Ddeallusrwydd Rhyngwladol, Cymrawd y 'Liberation', Urdd Gwasanaeth Nodedig, Médaille de la Résistance, Urdd Seren y Gogledd - Cadlywydd y Groes Uwch, Croes Uwch Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, Prix Interallié, Uwch Ruban Urdd Cenedlaethol y Cedrwydd, Uwch Groes Urdd y Goron, Uwch Groes Urdd y Goron Dderw, Marchog Croes Uwch Urdd Sant Olav, Uwch swyddog Urdd Teilyngdod Gweriniaeth yr Eidal, Uwch Groes Urdd Cleddyf Sant'Iago, Urdd Llew y Ffindir, Uwch Groes Dannebrog, Uwch Groes Urdd Wissam El Alaouite, Uwch Groes Urdd Sior I, Prif Ruban Urdd y Wawr, Grand officier de l'ordre national de la Croix du Sud, Urdd Seren y Cyhydedd, Gwobr Goncourt, Gwobr Louis Delluc, Order of the Republic, Urdd y Dannebrog, Alfonso Reyes International Prize, Q3114795 |
llofnod | |
Llenor a gwleidydd o Ffrainc oedd André Malraux, enw llawn Georges André Malraux (3 Tachwedd 1901 - 23 Tachwedd 1976).
Ganwyd ef yn ninas Paris. Gwahanodd ei rieni pan oedd yn bedair oed, ac ni chafodd addysg uwch. Roedd i raddau helaeth yn hunan-addysgedig. Aeth i drefedigaethau Ffrainc yn Indo-Tsieina, lle sefydlodd gylchgrawn gwrth-imperialaidd. Carcharwyd ef yn 1923-1924 am ddelio mewn hynafiaethau yn Phnom Penh; defnyddiodd y profiad yn ei waith diweddarach La Voie royale (1930). Ymladdodd yn Rhyfel Cartref Sbaen dros y Gweriniaethwyrm ac yn erbyn yr Almaenwyr yn yr Ail Ryfel Byd fel aelod o'r Résistance Ffrengig. Wedi'r rhyfel, daeth yn un o gefnogwyr Charles de Gaulle, a bu'n Weinidog Diwylliant rhwng 1959 a 1969, er ei fod yn parhau i gael ei ystyried yn rhan o'r adain chwith. Claddwyd ef yn y Panthéon ym Mharis.
Gweithiau
[golygu | golygu cod]- La Tentation de l'Occident (1926)
- Les Conquérants (1928)
- Royaume-Farfelu (1928)
- La Voie royale (1930) – Prix Interallié
- La Condition humaine (1933) – Prix Goncourt
- Le Temps du mépris (1935)
- L'Espoir (1937)
- Espoir, sierra de Teruel (1938)
- Le Démon de l'Absolu (1946)
- Esquisse d'une psychologie du cinéma (1946)
- Psychologie de l'Art (tair cyfrol: 1947, 1948, 1950)
- Les Voix du silence (1951)
- L'Homme précaire et la littérature (1977) – cyhoeddwyd wedi ei farwolaeth
Llenyddiaeth
[golygu | golygu cod]- Paul Birt, Malraux, Y Meddwl Modern (Gwasg Gee, 1980)