Agnes Charlotte Gude
Agnes Charlotte Gude | |
---|---|
Ganwyd | 1 Chwefror 1863 Betws-y-coed |
Bu farw | 11 Gorffennaf 1929 Oslo |
Dinasyddiaeth | Norwy |
Galwedigaeth | drafftsmon |
Tad | Hans Gude |
Mam | Betsy Gude |
Priod | Richard Scholz |
Plant | Betsy Louise Gude Scholz Agnus |
Roedd Agnes Charlotte Gude (1 Chwefror 1863 – 11 Gorffennaf 1929) yn ddarlunydd o Norwy a aned yng Nghymru.[1]
Cefndir
[golygu | golygu cod]Ganwyd Gude ym Mhont y Pant, ger Dolwyddelan [nb 1] yn blentyn i Hans Gude (1825-1903) a Betsy Charlotte Juliane (née Anker 1830-1912) ei wraig. Roedd Hans Gude yn arlunydd ac yn athro yn yr Academi Gelf yn Düsseldorf. Roedd Gude wedi ennill troedle ym marchnad gelf Prydain yn y 1850au ar ôl i'w weithiau gael eu derbyn i orielau Francis Egerton, Iarll 1af Ellesmere ac Ardalydd Lansdowne. Awgrymodd deliwr celf o Loegr a chyn-fyfyriwr Gude - Mr Stiff - gallai Gude gael llwyddiant yn Lloegr (sic) pe bai yn symud i fyw i'r wlad. Yn hydref 1862 symudodd Hans Gude i Gwm Lledr, Dyffryn Conwy.[2] Tra ei fod yn aros yng Nghymru ganwyd Agnes, ei ferch. Symudodd y teulu i Karlsruhe, Baden-Württemberg,yn hwyr ym 1864.[3] Roedd brodyr a chwiorydd Agnes yn cynnwys y diplomydd Ove Gude (1853-1910), yr arlunydd Nils Gude (1859-1908) a’r arlunydd Sigrid Gude.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Derbyniodd Agnes Gude addysg dda iawn mewn paentio. Mae gweithiau ganddi yn cael eu harddangos yn Oriel Genedlaethol Norwy. Fodd bynnag, dim ond ychydig o'i gweithiau sy'n hysbys. Darluniodd y casgliad barddoniaeth Old and New Children's Songs and Rhymes gan Mathilde Wesendonck, a gyhoeddwyd ym Merlin ym 1890. Dangoswyd deuddeg o'i lluniau dyfrlliw ar gyfer y llyfr hwn yn Arddangosfa Fawr Gelf gyntaf Berlin ym 1893. Roedd y darluniau a ddylanwadwyd gan Art Nouveau yn rhan o “argraffiad ysblennydd” y llyfr plant a daethant yn eiddo i’r cleient, Wesendonck.
Teulu
[golygu | golygu cod]Roedd hi'n briod â'r arlunydd Almaenig Richard Scholz (1860–1939) rhwng 1885 a 1903. Bu iddynt dri o blant rhwng 1886 a 1888. Roedd ei merch Betsy Gude Agnus (1887-1979) hefyd yn arlunydd.[4]
Marwolaeth
[golygu | golygu cod]Bu farw yn Oslo yn 66 mlwydd oed, a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Vår Frelsers gravlund yn y ddinas.
Nodiadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Mae nifer o ffynonellau yn rhoi ei man geni fel Betws y Coed, y dref fwyaf adnabyddus yn yr ardal
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Agnes Charlotte Gude" (yn nb), Norsk kunstnerleksikon, 2017-02-20, http://nkl.snl.no/Agnes_Charlotte_Gude, adalwyd 2021-03-14
- ↑ Der aander en tindrende sommerluft varmt over Hardangerfjords vande-- : [Tidemand & Gude], Nasjonalgalleriet 28. september-7. desember 2003. Ann Falahat, Jorån. Heggtveit, Joan Fuglesang, Adolph Tidemand, Hans Fredrik Gude, Nasjonalgalleriet. Oslo: Nasjonalgalleriet. 2003. ISBN 82-90744-87-0. OCLC 54702837.CS1 maint: others (link)
- ↑ "A Mirror of Nature: Nordic Landscape Painting 1840-1910". web.archive.org. 2010-05-16. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-05-16. Cyrchwyd 2021-03-14.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)
- ↑ "Agnes Charlotte Gude f. 01 Feb 1863 Betws-y-Coad, Conwy, Wales d. 11 Jul 1929 Oslo". sveaas.net. Cyrchwyd 2021-03-14.