Alexei Shirov
Alexei Shirov | |
---|---|
Ganwyd | 4 Gorffennaf 1972 Riga |
Dinasyddiaeth | Sbaen, Latfia |
Galwedigaeth | chwaraewr gwyddbwyll, awdur ffeithiol |
Priod | Viktorija Čmilytė-Nielsen |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Hamburger SK |
Gwlad chwaraeon | Yr Undeb Sofietaidd, Sbaen, Latfia, Rwsia, Sbaen |
Mae Alexei Shirov (Rwseg: Алексе́й Дми́триевич Ши́ров â aned ar 4 Gorffennaf 1972) yn chwaraewr gwyddbwyll o Latfia a Sbaen. Yn 1994 roedd Shirov yr ail chwaraewr gorau yn y byd.[1]
Enillodd ornest yn erbyn Vladimir Kramnik ym 1998 i gymhwyso i chwarae am bencampwriaeth y byd yn erbyn Garry Kasparov, ond ni chwaraewyd y gêm oherwydd diffyg nawdd.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Daeth Shirov yn brencampwr dan-16 y byd yn ym 1988 a daeth yn ail ym Mhencampwriaeth Iau y Byd ym 1990 (yn ail ar ol gemau ail-gyfle cyfartal gyda Ilya Gurevich). Yn yr un flwyddyn, enillodd y teitl Uwchfeistr. Mae Shirov wedi ennill nifer o dwrnameintiau rhyngwladol: Biel 1991, Madrid 1997 (rhannu'r lle cyntaf gyda Veselin Topolov), Ter Apel 1997, Monte Carlo 1998, Merida 2000,Twrnamaint Cyflym Er Cof am Paul Keres yn Tallinn (2004, 2005, 2011, [2] 2012, [3] 2013), [4]Pencampwriaeth Agored Canada 2005.
Cyrhaeddodd yr ail safle ar restr graddio FIDE ym mis Ionawr a mis Gorffennaf 1994, y tu ôl i Anotoly Karpov, er fod Garry Kasparov wedi'i eithrio o'r rhestrau hynny ac 'roedd ganddo ef radd uwch. Ym 1998, cododd safle Shirov eto, i rif pedwar yn rhestr graddio y PCA. Ar sail y raddfa hon, fe'i gwahoddwyd i chwarae gornest deg gêm yn erbyn Vladimir Kramnik i ddewis heriwr ar gyfer Pencampwr y Byd y PCA Garry Kasparov. Enilloddd Shirov yr ornest gyda dwy fuddugoliaeth, dim colled a saith gêm gyfartal.[5] Fodd bynnag, ni chynhaliwyd yr ornest hon am na ellid dod o hyd i ddigon o noddwyr ariannol.. Pan chwaraeodd Kaparov Kramnik am Bencampwriaeth y Byd yn 2000, haerodd Shirov fod y gêm yn annilys gan mai ef oedd yr heriwr cywir.[6]
Yn 2000, cyrhaeddodd Shirov rownd derfynol Pencampwriaeth Gwyddbwyll y Byd FIDE, pan gollodd 3½–½ i Viswanathan Anand.
Yn 2002, chwaraeodd yn Nhwrnamaint yr Ymgeiswyr i ddewis heriwr ar gyfer Pencampwr y Byd Kramnik. Enillodd ei grŵp o bedwar, ond collodd ei rownd gyn derfynol 2½–½ i’r enillydd terfynol Peter Leko.
Rhwng Mai-Mehefin 2007 chwaraeodd yn Nhwrnamaint Ymgeiswyr Pencampwriaeth Gwyddbwyll y Byd 2007. Enillodd ei gêm rownd gyntaf yn erbyn Michael Adams (+1−1=4, pan enillodd yn y gemau ail gyfle), ond cafodd ei drechu pan gollodd ei gêm ail rownd i Levon Aronian (+0−1=5). Hyd at 2021 dyma ymddangosiad olaf Shirov mewn Twrnamaint Ymgeiswyr.
Yn ystod Tachwedd a Rhagfyr 2007 chwaraeodd Shirov yng Nghwpan Gwyddbwyll y Byd 2007, oedd yn ornest rhagbrofol ar gyfer Pencampwriaeth Gwyddbwyll y Byd 2010. Cyrhaeddodd y rownd derfynol, ond collodd y rownd honno 2½–1½ i Gata Kamsky.
Ym Mai 2009, enillodd Alexei Shirov yr M-Tel 2009, Twrnamaint Categori 21 y a gynhaliwyd yn Sofio, Bwlgaria .
Ym Medi 2010, cymerodd Shirov ran yn nhwrnamaint rhagarweiniol y Gamp Lawn y Meistri Gwyddbwyll yn Shanghai, lle bu'n erbyn y pedwerydd yn netholion y byd Levon Aronian, y pymed Vladimir Kramnik, a Wang Hao, lle'r oedd y ddau uchaf yn cymhwyso ar gyfer yr uwch dwrnamaint terfynol i'r Gamp Lawn o 9fed i'r 15fed o Hydref yn Bilbao yn erbyn Rhif 1 y byd Magnus Carlsen a Phencampwr y Byd Viswanathan Anand.[7] Ar ôl gemau cyfartal yn ei ddwy gêm gyntaf, enillodd Shirov dair gêm yn olynol, gan gynnwys ei fuddugoliaeth gyntaf dros Kramnik ers 2003.[8] Gan orffen gyda 4½/6 phwynt, enillodd Shirov y twrnamaint, gan gymhwyso ynghyd â Kramnik ar gyfer rownd derfynol y Gamp Lawn.[9]
Ym mis Mai 2011, enillodd Shirov dwrnamaint cryf yn Lublin, Gwlad Pwyl, 3ydd Cofeb Undeb Lubin 2011 gyda sgôr o 5/7. Ym mis Rhagfyr 2011, newidiodd ffederasiynau yn ôl o Sbaen i Latfia.[10]
Ym mis Chwefror 2012, enillodd Shirov Dwrnamaint Gofeb Vivars Giplis yn Riga gydag 8 pwynt allan o 9.[11] Ym mis Mehefin 2012 enillodd Shirov Dwrnamaint Meistri Buenos Aires (categori 13) gyda 5½/7.
Ym mis Awst 2013, chwaraeodd yng Nghwpan y Byd Gwyddbwyll. Enillodd ei gêm rownd gyntaf yn erbyn Hou Yifan, [12] ond collodd ei gêm ail rownd i Wei Yi. Ym mis Awst 2015, enillodd Shirov y 5ed Twrnamaint Agored Prifysgol Dechregol Riga gan orffen ar y blaen i Robert Hovhannisyan er i'r ddau chwaraewr orffen ar 7½/9.[13] Ym mis Mawrth 2017, enillodd Shirov dwrnamaint blitz Er Cof am Mikhail Tal yn Jurmala gan sgorio 9½/11 pwynt.[14]
Ym 2018 a 2019, enillodd y 5ed a'r 6ed Twrnamaint Agored yn Arica.[15]
Ym mis Medi 2020, yn ystod Olympiad Ar-lein 2000 FIDE, enillodd Shirov Wobr Gem Nodedig Gazprom am ei fuddugoliaeth fel Du yn erbyn Danyyil Dvirnyy yn yr Amddiffyniad Slafaidd, gan aberthu'i frenhines mewn ymosodiad ar ochr y frenhines, a gorffennodd gyda sgôr o 13/15 ( +12−1=2) wrth chwarae i dîm Sbaen.[16]
Ym mis Chwefror 2021, enillodd Shirov 3ydd Gŵyl Gwyddbwyll Salamanca gyda sgôr o 6/7.[17]
Rhwng Chwefror a Mawrth 2022, chwaraeodd Shirov yng Ngrand Prix FIDE 2022. Yn y cymal cyntaf, gorffennodd yn bedwerydd ym Mhwll D gan orffen efo 1.5/6. Yn yr ail gymal, 'roeddd yn gyfartal drydydd gyda Vladimir Fedoseev gan orffen efo 2.5/6, a gorffen yn olaf.
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Mae Shirov o dras Rwsiaidd. Ym 1994 priododd ag Archentwraig, Verónica Alvarez, symudodd i Tarragona, a daeth yn ddinesydd Sbaen. Roedd yn briod â Viktorija Čmilytė o Lithiwania, sydd hefyd yn Uwchfeistr gwyddbwyll, o 2001 i 2007.[18] Ychydig cyn twrnamaint Shanghai yn 2010, priododd Shirov am y trydydd tro gyda Olga Dolgova.[19] Ar y pryd roedd yn dal i chwarae i Sbaen, ond roedd ganddo ef a'i wraig fflat yn Riga, Latfia.
Arddull chwarae
[golygu | golygu cod]Mae Shirov yn nodedig am ei arddull ymosodol, sydd wedi arwain at gymariaethau â chyn bencampwr y byd, Mikhail Tal oedd hefyd o Latfia. Bu'n astudio gyda Tal pan oedd yn ifanc.
Un Gêm gan Shirov
[golygu | golygu cod]Nodyn:Chess diagram smallYn ystod Twrnamaint Linares 1998 chwaraeoddd Shirov gyda du yn erbyn Veselin Topolov (â ddaeth yn Bencampwr Fide y Byd yn ddiweddarach) a bu'n fuddugol wrth aberthu ei esgob mewn diweddglo gyda esgob a gwerin:
- 1.d4 Mf6 2.c4 g6 3.Mc3 d5 4.cxd5 Mxd5 5.e4 Mxc3 6.bxc3 Eg7 7.Eb5+ c6 8.Ea4 0-0 9.Me2 Md7 10.0-0 e5 11.f3 Be7. 12 Ee3 Cd8 13.Bc2 Mb6 14.Eb3 Ee6 15.Cad1 Mc4 16.Ec1 b5 17.f4 exd4 18.Mxd4 Eg4 19.Cde1 Bc5 20.Th1 a5 21.h3 Ed7 22.a4 bxa4 23.Ea2 Ee8 24 e5 Mb6 25 f5 Md5 26 Ed2 Mb4 27.Bxa4 Mxa2 28.Bxa2 Exe5 29.fxg6 hxg6 30.Eg5 Cd5 31.Ce3 Bd6 32.Be2 Ed7 33.c4 Exd4 34 cxd5 Exe3 35.Bxe3 Ce8 36. Bc3 Bxd5 37.Eh6 Ce5 38.Cf3 Bc5 39.Ba1 Ef5 40.Ce3 f6 41.Cxe5 Bxe5 42.Ba2+ Bd5 43.Bxd5+ cxd5 44.Ed2 a4 45.Ec3 Tf7 46.h4 Te6 47 Tg1 Eh3 !! 48.gxh3 Tf5 49.Tf2 Te4 50.Exf6 d4 51.Ee7 Td3 52 Ec5 Tc4 53.Ee7 Tb3 0–1 [20]
Mae aberth esgob Shirov (47. . . Eh3!!) yn cael ei ystyried yn un o'r symudiadau gwyddbwyll gorau erioed.[21]
Llyfrau
[golygu | golygu cod]- Shirov, Alexei (1995). Fire on Board: Shirov's Best Games. Everyman Chess. ISBN 1-85744-150-8.
- Shirov, Alexei (2005). Fire on Board, Part 2: 1997–2004. Everyman Chess. ISBN 1-85744-382-9.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ FIDE Rating List: Ionawr 1994. OlimpBase.
- ↑ "Alexei Shirov wins Keres Memorial in Tallinn". ChessBase. 2011-01-10. Cyrchwyd 8 Ionawr 2016.
- ↑ "Alexei Shirov Wins Paul Keres Memorial". Chessdom. 2012-01-08. Cyrchwyd 8 Ionawr 2016.
- ↑ Doggers, Peter (2013-01-16). "Shirov again first at Paul Keres Memorial Rapid". ChessVibes. Cyrchwyd 8 Ionawr 2016.
- ↑ 1998–99 World Chess Council, Mark Week's Chess pages
- ↑ Interview by Hartmut Metz, May 2000, translation by Harald Fietz
- ↑ "Final Chess Masters 2010 in Shanghai and Bilbao". Chessbase.com. 2 Awst 2010. Cyrchwyd 2012-03-19.
- ↑ "Shanghai Masters: Shirov beats Kramnik to take the lead". Chessbase.com. 6 Medi 2010. Cyrchwyd 2012-03-19.
- ↑ Mark Crowther – Wednesday 8th Medi 2010 (2010-09-08). "Shanghai Masters 2010". Chess.co.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-03-05. Cyrchwyd 2012-03-19.
- ↑ Player transfers in 2011. FIDE.
- ↑ "Aivars Gipslis Memorial – Alexei Shirov clear first". Chessdom. 2012-02-12. Cyrchwyd 19 February 2012.
- ↑ "An interview with Alexei Shirov at the FIDE World Cup 2013". ChessVibes. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-03-27. Cyrchwyd 2014-01-25.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)
- ↑ "GM Alexei Shirov clinches the title in 5th Riga Technical University Open". Chessdom. 2015-08-19. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-08-22. Cyrchwyd 10 October 2015.
- ↑ "The Week in Chess 1165". theweekinchess.com. Cyrchwyd 2018-01-03.
- ↑ "The Week in Chess 1311". theweekinchess.com. Cyrchwyd 2020-07-09.
- ↑ "Alexei Shirov wins Gazprom Brilliancy Prize". ChessBase. 2020-09-05. Cyrchwyd 2020-09-08.
- ↑ "The Week in Chess 1370". theweekinchess.com. Cyrchwyd 2021-02-19.
- ↑ ChessBase interview with Ruslan Ponomariov (see last paragraph), November 12, 2008
- ↑ l'Ami, Alina (2011-03-10). "Interview with Olga Dolgova, the woman behind a top GM!". Official website of Alina l'Ami. Cyrchwyd 9 October 2015.
- ↑ "Topalov vs. Shirov, Linares 1998". Chessgames.com.
- ↑ Content (ColinStapczynski), Director of Written. "The 10 Best Chess Moves Of All Time". Chess.com.