Baner Hawai'i
Enghraifft o'r canlynol | baner endid gweinyddol o fewn un wlad |
---|---|
Lliw/iau | gwyn, coch, glas |
Dechrau/Sefydlu | 29 Rhagfyr 1845, 6 Mehefin 2005 |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae Baner Hawai'i yn faner genedlaethol teyrnas bu'n annibynnol hyd yr 1890au a sydd nawr yn un o daleithiau Unol Daleithiau America. Yr enw ar y faner yn Hawaieg yw Ka Hae Hawai'i.[1] Fe'i mabwysiadwyd yn 1816 ac mae'n un o'r baneri hynaf yn y byd sydd heb ei newid[angen ffynhonnell], gan ei bod hefyd yn symbol swyddogol o'r ynysoedd yng nghyfnod Teyrnas Hawai'i (tan 1893), yn ystod y llywodraeth anghyfreithiol dros dro (1893-1894), yn ogystal â'r gweriniaeth a ffurfiwyd wedi coup d'état (1894–1898) ac fel tiriogaeth yr Unol Daleithiau (1898–1959). Hi hefyd yw'r unig un o faneri'r Unol Daleithiau sy'n cynnwys Jac yr Undeb fel rhan ohoni.
Ers 1990, mae 31 Gorffennaf wedi cael ei ddathlu fel Diwrnod y Faner (Ka Hae Hawaii) yn Hawai'i.
Disgrifiad
[golygu | golygu cod]Mae'r faner yn cynnwys wyth streipen lorweddol bob yn ail o'r brig yn y lliwiau gwyn, coch a glas. Maent yn symbol o wyth prif ynys yr archipelago: Hawaii, Oahu, Kaua'i, Kahoolawe, Lana'i, Maui, Moloka'i a Niʻihau. Jac yr Undeb sydd yn y canton.
Hanes
[golygu | golygu cod]Mae yna sawl damcaniaeth am darddiad y faner. Mae'r rhan fwyaf o haneswyr yn priodoli'r cynllun i un o swyddogion y llynges Brydeinig a'i modelodd ar ôl baner y Deyrnas Unedig. Fodd bynnag, yn ôl hanesyn poblogaidd, mae'n hybrid o faneri'r Unol Daleithiau a Phrydain Fawr, a ddefnyddiwyd gan y Brenin Kamehameha I i ennill ffafr yr archbwerau imperialaidd (Prydain, Ffrainc, Rwsia a'r UDA) oedd yn cystadlu â'i gilydd ar y pryd,[2] er dywedir hefyd fod y faner yn coffáu perthynas hanesyddol y Llynges Frenhinol Brydeinig â Theyrnas Hawaii, ac yn arbennig agwedd gadarnhaol ei rheolwr cyntaf, y Brenin Kamehameha I, tuag at Prydain.[3][4]
Dyddiad | Baner | Delwedd |
---|---|---|
1793–1794 | Red Ensign | |
1794–1816 | Jac yr Undeb (tybiedig hyd 1801) | |
1816–1843 | Fersiwn cynnar o'r faner gyfredol | |
Juli 1843–Februar 1893 | Baner gyfredol wedi i'r Deyrnas Unedig ymadael | |
Februar 1893–April 1893 | Baner Unol Daleithiau America | |
1894–1898 | 'Gweriniaeth' Hawai'i | |
1898–1959 | Tiriogaeth UDA Hawai'i | |
1959–heddiw | Baner swyddogol y Dalaith a'r Genedl |
Baneri hanesyddol
[golygu | golygu cod]Baneri cenedlaetholgar
[golygu | golygu cod]Baner Maoli Kānaka
[golygu | golygu cod]Mae rhai yn honni mai'r cynllun Kānaka Maoli ('gwir bobl' yn yr iaith Hawaieg) yw baner wreiddiol Teyrnas Hawai'i, er nad yw'r honiad hwn wedi'i wirio a'i ddadlau'n eang.[5][6] Fe'i cyflwynwyd i'r cyhoedd gan Gene Simeona yn 2001.[7] Mae ganddo naw streipen bob yn ail o wyrdd, coch, a melyn wedi'u difwyno â tharian werdd gyda puela (hwyl o rhisgl kapa fyddai'n hedfan ar ben canŵ dwbl y pennaeth) wedi'i groesi gan ddau rwyf.
Mae Gene Simeona yn honni iddo ddatguddio baner Kānaka Maoli ym 1999. Dywedodd Simeona iddo ddod ar draws disgynnydd i'r Arglwydd George Paulet a ddywedodd wrtho am faner gynharach. Honnodd Simeona iddo ddod o hyd i dystiolaeth o faner Kanaka Maoli yn archifau'r wladwriaeth, er nad yw unrhyw ffynonellau y gallai fod wedi'u defnyddio wedi'u nodi.[8] Mae ymdrechion dilynol i ddilysu honiad Simeona wedi bod yn aflwyddiannus.[8] Mae beirniaid yr honiad wedi tynnu sylw at dystiolaeth bod y faner Hawäi a dderbynnir yn eang yn bodoli cyn baner Kanaka Maoli.[9]
Baner Louis Agard
[golygu | golygu cod]Baner gyda naw streipen bob yn ail yn ddu, melyn, a choch, gyda maes melyn yn y canton wedi'i ddifwyno gyda kahili wedi'i groesi gan ddau rwyf. Cynlluniwyd y faner gan Louis Agard ym 1993, wyth mlynedd cyn i faner Kanaka Maoli ymddangos ar gofnod cyhoeddus.
Cynigiodd Louis "Buzzy" Agard gynllun baner Hawäi ym 1993 a oedd yn cynnwys naw streipen bob yn ail a'r un tâl ag ar faner Kanaka Maoli,[10] gan arwain llawer i gredu mai dyma lle y tynnodd Simeona ei ysbrydoliaeth.[9]
Er gwaethaf y diffyg gwirio am ei ddefnydd hanesyddol, mae'r dyluniad yn boblogaidd ymhlith y rhai y mae'n well ganddynt symbol sydd ddim yn cynnwys baner Prydain.[5]
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- The Hawaii State Flag gwybodaeth swyddogol
- Constitutional Provisions for the Display of Ka Hae Hawaii
- Hawaii yn Flags of the World
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "flag". Hawaiian Dictionaries. D2206.
- ↑ "Flag of Hawaii | United States state flag". Britannica (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-05-26.
- ↑ Marshall, Tim (2017). A Flag Worth Dying For: The Power and Politics of National Symbols. Simon and Schuster. tt. 52–53. ISBN 9781501168338.
- ↑ Bloss, Janet Adele (1983). State Flags. Willowisp Press. t. 66. ISBN 9780874061833.
- ↑ 5.0 5.1 "What's the Story Behind Hawaii's Flag?". Hawaii Magazine (yn Saesneg). 2008-10-21. Cyrchwyd 2022-09-21.
- ↑ Pulse, Big Island (2019-08-20). "Kanaka Maoli Flag – Hawaii's Original Flag or Clever Marketing?". Big Island Pulse (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-09-21.
- ↑ "What's the Story Behind Hawaii's Flag?". Hawaii Magazine (yn Saesneg). 2008-10-21. Cyrchwyd 2023-06-15.
- ↑ 8.0 8.1 Anwar, Yasmin (2001-02-12). "'Original' flag raises debate". Honolulu Advertiser. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-06-04. Cyrchwyd 2022-09-22.
- ↑ 9.0 9.1 Kingdom, Hawaiian (2014-12-13). "Origin of the Hawaiian Kingdom Flag". Hawaiian Kingdom Blog (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-09-22.
- ↑ Agard, Louis "Buzz" (1993). He Alo a He Alo – Hawaiian Voices on Sovereignty. Honolulu: American Friends Service Committee. tt. 108–110. ISBN 9780910082259.