Neidio i'r cynnwys

Blade Runner

Oddi ar Wicipedia
Blade Runner
Enghraifft o'r canlynolffilm Edit this on Wikidata
Lliw/iaulliw Edit this on Wikidata
GwladUnol Daleithiau America, Hong Cong Edit this on Wikidata
Rhan oCofrestr Cenedlaethol Ffimiau Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi25 Mehefin 1982, 10 Medi 1982, 24 Medi 1982, 14 Hydref 1982, 1982 Edit this on Wikidata
Genretech noir, agerstalwm, ffilm gyffro, neo-noir, ffilm ddistopaidd, film noir, ffilm wyddonias, ffilm ddrama, ffilm llawn cyffro, arthouse science fiction film, ffilm a seiliwyd ar nofel Edit this on Wikidata
Olynwyd ganBlade Runner 2049 Edit this on Wikidata
Prif bwncandroid, deallusrwydd artiffisial Edit this on Wikidata
Lleoliad y gwaithLos Angeles Edit this on Wikidata
Hyd112 munud, 116 munud Edit this on Wikidata
CyfarwyddwrRidley Scott Edit this on Wikidata
Cynhyrchydd/wyrMichael Deeley, Bud Yorkin, Jerry Perenchio, Ivor Powell Edit this on Wikidata
Cwmni cynhyrchuThe Ladd Company, Tandem Productions, Warner Bros. Edit this on Wikidata
CyfansoddwrVangelis Edit this on Wikidata
DosbarthyddWarner Bros., InterCom, MOKÉP Edit this on Wikidata
Iaith wreiddiolSaesneg Edit this on Wikidata
SinematograffyddJordan Cronenweth Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.warnerbros.com/blade-runner Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Blade Runner

Ffilm ffuglen wyddonol Americanaidd o 1982 a gyfarwyddwyd gan Ridley Scott yw Blade Runner. Harrison Ford sy'n serennu yn y ffilm ochr yn ochr â Rutger Hauer. Seiliwyd y sgript gan Hampton Fancher a David Peoples ar y nofel Do Androids Dream of Electric Sheep gan Philip K. Dick. Cyfansoddwyd y gerddoriaeth i'r ffilm gan Vangelis a gyhoeddwyd yn 1968. Lleolwyd stori'r ffilm mewn Los Angeles dystopaidd yn y flwyddyn 2019, lle mae bodau wedi eu creu drwy beirianneg genetig a elwir replicants, caethweision sy'n edrych yr un ffunud â bodau dynol go iawn, yn cael eu cynhyrchu gan gorfforaeth rymus y teulu Tyrell. Yn sgil gwrthryfel treisgar gan y replicantod, gwaharddwyd eu defnydd ar y Ddaear, a chyfyngir eu defnydd i wladychfeydd yn y gofod ac o gwmpas Cysawd yr Haul. Caiff replicantod sy'n dod i'r Ddaear eu hel a'u lladd gan adran arbennig o'r heddlu, lleiddiaid-ditectwyr a elwir blade runners. Mae'r stori yn canolbwyntio ar un grŵp o replicantod peryglus sydd newydd ddianc i Los Angeles, a blade runner wedi hanner ymddeol o'r enw Rick Deckard, sy'n cael y dasg o'u hela nhw.