Neidio i'r cynnwys

Gorsedd y Beirdd

Oddi ar Wicipedia
Gorsedd y Beirdd
Yr Orsedd sy'n gyfrifol am drefniadau'r Cadeirio a'r Coroni. Yn y llun hwn: Ceri Wyn Jones yn cael ei goroni yn 2009.
Enghraifft o'r canlynolgorsedd Edit this on Wikidata
PencadlysCymru Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.gorsedd.cymru Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cymdeithas o feirdd, llenorion, cerddorion a phobl nodedig eraill y byd diwylliannol Cymraeg yw Gorsedd Cymru neu Yr Orsedd. Fe'i sefydlwyd fel Gorsedd Beirdd Ynys Prydain gan Iolo Morganwg yn Llundain yn 1792 ac mae'r enw llawn yn parhau fel enw seremonïol.[1] Yn Awst 2019 penderfynwyd arddel yr enw Gorsedd Cymru yn hytrach na Gorsedd y Beirdd.

Mae tair carfan o aelodau yn perthyn i'r orsedd ac mae gan bob grŵp ei liw. Daw'r Archdderwydd bob amser o blith y rhai sy'n gwisgo gwyn. Gellir dod yn aelod drwy lwyddo mewn arholiad, cael eich dewis i ddod yn aelod neu drwy ennill y gadair, y goron neu'r Fedal Ryddiaith mewn Eisteddfod Genedlaethol. Yn ogystal ag ar lwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol mae'r Orsedd yn cyfarfod yng Nghylch yr Orsedd. Unwaith, cynhaliwyd cyfarfod o'r orsedd yn Llydaw.

Fe anrhydeddir bob blwyddyn Gymry amlwg sydd wedi gwneud cyfraniad i Gymru drwy eu gwahodd i ddod yn aelod o'r orsedd.

Baner yr Orsedd
Brenhines y Fro yn dal y Corn Hirlas, Eisteddfod 1955

Cynhaliwyd Eisteddfod Caerfyrddin 1819 yng ngwesty'r Llwyn Iorwg (neu'r Ivy Bush) yng Nghaerfyrddin, a phenderfynwyd cynnwys yr Orsedd fel rhan o'r defodau. Ers hynny mae'r Orsedd wedi dod yn fwyfwy cyfystyr â seremonïau'r Eisteddfod Genedlaethol, yn arbennig seremonïau'r Cadeirio, y Coroni a'r Fedal Ryddiaith. Mae ambell i Archdderwydd wedi defnyddio ei safle i wneud datganiadau gwleidyddol.

Gwaith dychymyg Iolo Morganwg yw'r Orsedd. Bathodyn yr Orsedd yw'r Nod Cyfrin sydd ar holl regalia'r Orsedd. Ymhlith y rhai sy'n cael eu gwisgo gan yr Archdderwydd mae coron, dwyfronneg a theyrnwialen. Yn perthyn i'r orsedd hefyd mae Baner yr Orsedd, Cleddyf yr Orsedd a'r Hanner Cleddyf. Bydd cleddyf yr orsedd yn cael ei ddefnyddio i agor a chau'r Orsedd ac yn ystod seremonïau'r Eisteddfod. Cleddyf heddwch yw hi a dyna pam na fydd byth yn cael ei thynnu'r holl ffordd o'r wain.

Cyflwynir y Corn Hirlas i'r Archdderwydd gan un o famau'r fro i estyn croeso'r ardal i'r eisteddfod. Yn hanesyddol roedd yr hen gorn yfed yn llys y tywysogion yn estyn croeso i'r gwahoddedigion i'r llys. Bydd un o forynion yr ardal yn rhoi Aberthged i'r Archdderwydd sef ysgub o ŷd, gwair a blodau'r maes yn arwydd o roddion Duw i'r ardal.

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]