Gabriela Zapolska
Gabriela Zapolska | |
---|---|
Ganwyd | Maria Gabriela Korwin-Piotrowska 30 Mawrth 1857 Pidhaitsi |
Bu farw | 21 Rhagfyr 1921, 17 Rhagfyr 1921 Lviv |
Dinasyddiaeth | Gwlad Pwyl |
Galwedigaeth | cyfieithydd, dramodydd, newyddiadurwr, actor llwyfan, llenor, gohebydd gyda'i farn annibynnol |
Adnabyddus am | The Morality of Mrs. Dulska |
Prif ddylanwad | Émile Zola |
Priod | Stanisław Janowski |
Partner | Marian Gawalewicz |
Llinach | Q63531766 |
llofnod | |
Nofelydd a dramodydd Pwylaidd oedd Gabriela Zapolska (Maria Gabriela Korwin-Piotrowska; 30 Mawrth 1857 – 21 Rhagfyr 1921) sydd yn nodedig fel un o'r to naturiolaidd.[1]
Ganed yn Podhajce yn rhanbarth Galisia, Ymerodraeth Awstria (bellach Pidhaitsi, yr Wcráin). Wedi iddi ffaelu fod yn actores ym Mharis, dechreuodd ysgrifennu nofelau cyffrous yn llawn agweddau chwerw at werthoedd moesol ac ymddygiad y dosbarth canol. Y ddwy nofel sydd wedi parhau'n ddarllenadwy ydy Zaszumi las (1899), roman à clef am chwyldroadwyr Pwylaidd ym Mharis, a Sezonowa miłość (1905), sy'n ymwneud â bywyd dosbarth-canol yn nhref Zakopane yn ne Gwlad Pwyl. Esiamplau o genre'r felodrama yw'r mwyafrif o'i gweithiau i'r theatr, ond y ddrama enwocaf ganddi yw'r ffars Moralność pani Dulskiej (1906). Bu farw yn Lwów, Gwlad Pwyl (bellach Lviv, yr Wcráin), yn 64 oed.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) Gabriela Zapolska. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 18 Rhagfyr 2020.
- Genedigaethau 1857
- Marwolaethau 1921
- Dramodwyr y 19eg ganrif o Wlad Pwyl
- Dramodwyr yr 20fed ganrif o Wlad Pwyl
- Dramodwyr Pwyleg o Wlad Pwyl
- Llenorion benywaidd y 19eg ganrif o Wlad Pwyl
- Llenorion benywaidd yr 20fed ganrif o Wlad Pwyl
- Nofelwyr y 19eg ganrif o Wlad Pwyl
- Nofelwyr yr 20fed ganrif o Wlad Pwyl
- Nofelwyr Pwyleg o Wlad Pwyl
- Pobl o Ymerodraeth Awstria