Gianni Agnelli
Gianni Agnelli | |
---|---|
Ganwyd | 12 Mawrth 1921 Torino |
Bu farw | 24 Ionawr 2003 Torino |
Dinasyddiaeth | yr Eidal, Teyrnas yr Eidal |
Alma mater | |
Galwedigaeth | entrepreneur, peiriannydd, gwleidydd, person busnes, entrepreneur busnes |
Swydd | seneddwr am oes, llywydd corfforaeth, llywydd corfforaeth |
Cyflogwr |
|
Plaid Wleidyddol | Christian Democracy |
Tad | Edoardo Agnelli |
Mam | Virginia Bourbon del Monte |
Priod | Marella Agnelli |
Partner | Dalila Di Lazzaro |
Plant | Margherita Agnelli, Edoardo Agnelli |
Perthnasau | Carlo Caracciolo, Filippo Caracciolo, Giovanni Alberto Agnelli, Andrea Agnelli, Alain Elkann, John Elkann |
Llinach | Agnelli family |
Gwobr/au | Marchog Uwch-Groes Urdd Teilyngdod Gweriniaeth yr Eidal, Order of Merit for Labour, War Cross for Military Valour, War Merit Cross (Italy), Commemorative medal of the war period 1940-43 |
Gwefan | http://www.giovanniagnelli.it |
Chwaraeon |
Dyn busnes Eidalaidd oedd Giovanni "Gianni" Agnelli (12 Mawrth 1921 – 24 Ionawr 2003).[1] Gwasanaethodd yn bennaeth ar gwmni ceir Fiat am ddeng mlynedd ar hugain, o 1966 i 1996.
Bywyd cynar
[golygu | golygu cod]Ganwyd yn Torino i deulu cyfoethog. Sefydlwyd cwmni Fiat gan ei dad-cu, Giovanni, ym 1899. Mynychodd ysgol gafalri. Enillodd radd yn y gyfraith o Brifysgol Torino ym 1943, sydd yn esbonio ei lysenw l'Avvocato (y cyfreithiwr).
Gwasanaethodd mewn catrawd danciau yn yr Ail Ryfel Byd, yn Rwsia ac yn Libia. Wedi i'r Eidal ymuno â'r Cynghreiriaid ym 1943, ymunodd Agnelli â'r gwrthsafiad.
Gyrfa fusnes
[golygu | golygu cod]Ar ddiwedd y rhyfel, cafodd ei benodi yn is-gadeirydd Fiat (1945–63). Gwasanaethodd yn rheolwr-gyfarwyddwr o 1963 i 1966, yn gadeirydd Fiat o 1966 i 1996, a chadeirydd anrhydeddus o 1996 hyd ei farwolaeth.[2]
Adeg ei farwolaeth, amcangyfrifir roedd ganddo ffortiwn bersonol o $2 biliwn[3] a chyfoeth teuluol o $5 biliwn.[4]
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Roedd ganddo enw fel dyn arabus a ffasiynol, ac yn medru pedair iaith.
Yn ystod y 1940au a'r 1950au, roedd yn aelod o'r jet-set a chafodd berthnasau â Pamela Digby Churchill Harriman, Rita Hayworth, ac Anita Ekberg.
Priododd y Dywysoges Marella Caracciolo di Castagneto ym 1953. Cawsant ferch a mab, Edoardo, a fu farw yn 46 oed drwy hunanladdiad.[5]
Bu farw o ganser y prostad yn 81 oed. Gorweddai ei gorff yn gyhoeddus ym mhencadlys Fiat, a safodd rhyw 100,000 o ymwelwyr mewn ciw i dalu deyrnged iddo. Cafodd yr angladd yn Eglwys Gadeiriol Torino ei fynychu gan arlywydd a phrif weinidog yr Eidal.[6]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) Wolfgang Achtner, Obituary: Giovanni Agnelli Archifwyd 2017-12-24 yn y Peiriant Wayback, The Independent (25 Ionawr 2003). Adalwyd ar 8 Medi 2017.
- ↑ (Saesneg) Jon Glover, Giovanni Agnelli obituary, The Guardian (24 Ionawr 2003). Adalwyd ar 8 Medi 2017.
- ↑ (Saesneg) John Tagliabue, Giovanni Agnelli, Fiat Patriarch And a Force in Italy, Dies at 81, The New York Times (25 Ionawr 2003). Adalwyd ar 8 Medi 2017.
- ↑ (Saesneg) Obituary: Giovanni Agnelli, The Daily Telegraph (25 Ionawr 2003). Adalwyd ar 8 Medi 2017.
- ↑ (Saesneg) Philip Willan, Suicide suspected after Fiat heir found dead, The Guardian (16 Tachwedd 2000). Adalwyd ar 8 Medi 2017.
- ↑ (Saesneg) The party's over, The Economist (30 Ionawr 2003). Adalwyd ar 8 Medi 2017.