Griffith Evans
Griffith Evans | |
---|---|
Ganwyd | 7 Awst 1835 Tywyn |
Bu farw | 7 Rhagfyr 1935 Bangor |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bacteriolegydd |
Milfeddyg a bacteriolegydd o Dywyn, Meirionnydd, oedd Griffith Evans (7 Awst 1835 – 7 Rhagfyr 1935). Bu'n gweithio fel milfeddyg ar gychwyn ei yrfa, a hynny gyda Magnelwyr y Brenin (Royal Artillery). Cafodd ei ddanfon gan y fyddin i India lle profodd, yn 1880, mai milionod yn y gwaed oedd yn achosi'r clefyd 'swrra' mewn ceffylau. Y term ers hynny ar y meicrobau hyn yw Trypanosoma evansi. Caiff ei gydnabod drwy'r byd fel un o brif feddylwyr y theori germau (er ychydig iawn o gydnabyddiaeth a dderbyniodd yn ei wlad ei hun, nag yn Lloegr[1]).
Bywyd Cynnar[1]
[golygu | golygu cod]Ganwyd Griffith Evans ar Awst 7 1835 yn fferm Tŷ Mawr, ger Tywyn, Meirionnydd, yn fab i Evan (marw 1882) a Mary (marw 1877) Evans. Bu iddo ddwy chwaer hŷn, Maria (1833-1874) ac Eliza. Daeth y teulu i'r ardal o Dde Cymru tua 1730 pryd adeiladwyd Tŷ Mawr gan Evan ap Jenkin, cyndaid i Griffith. Roedd y teulu yn un cefnog (Evan Evans oedd ffarmwr cyfoethoga’r ardal). Ar ôl addysg gartref, addysgwyd Griffith yn y British School[2] newydd ym Mryn Crug (o 1846) ac yna ym Mhennal (o thua 1849 i 1852). Anfonwyd y merched i ysgol breswyl yn Henffordd. Er yn Gristnogol, roedd awyrgylch Tŷ Mawr y un rhyddfrydol iawn. Bu daliadau crefyddol a moesol pendant (yn enwedig lle bo'r ddiod gadarn yn y cwestiwn) yn rhan bwysig o fywyd Griffith Evans hyd ei ddiwedd. Daeth yn gyfeillion a Dr.John Pugh, doctor yn Aberdyfi, ac mae debyg mai Dr Pugh a'i hymddiddorodd mewn meddygaeth pobol ac anifeiliaid. Tua 1853 daeth tro mawr ar fyd y teulu. Roedd Evan (tad Griffith) wedi sefyll yn feichiau dros ei frawd, John. Oherwydd ymddygiad ariannol ofer John nid yn unig collodd y teulu ei gyfoeth, ond bu Evan mewn dyled am weddill ei oes. Nid oedd, bellach, modd i Griffith hyffordd i fel meddyg. Awgrym Dr Pugh oedd iddo ddilyn cwrs diploma dwy flynedd yn y Coleg Milfeddygaeth Frenhinol yn Camden Town, Llundain. Cofrestrodd yno yn 1854. Graddiodd, ar gopa'r rhestr dosbarth, ym mis Mai 1855.Yn 19 oed, fe ddaeth yn aelod o Goleg Brenhinol y Milfeddygon (Royal College of Veterinary Surgeons[3]).Bu'n cynorthwyo milfeddyg yn Bridgnorth, Sir Amwythig, am 5 mlynedd. Yn 1859, ynghyd â chyfaill oes, James Joseph Meyrick[4], fe'i comisiynwyd yn swyddog gyda Magnelwyr y Brenin (Royal Artillery[5]). Braint anghyffredin oedd hon, heb nawdd bonheddwr. Daeth yn sgil y galw mawr a fu am filfeddygon yn ystod Rhyfel y Crimea. Cyflwynodd y ddau eu hunain i wersyll Magnelwyr Ceffyl y Brenin[6] yn Woolwich ar Ionawr 30, 1860.
Yn ystod seibiant ym mis Hydref 1860 ymwelodd â chartref y Dr. John Jones (perthynas a chyfaill) yn Llanfair Caereinion. Yna cyfarfu a Katie (17 oed), merch John, a syrthiodd mewn cariad.
Yng Ngogledd America[1]
[golygu | golygu cod]Fel ymateb i fygythiad o du'r Ffeniaid[7] (Gwyddelig) anfonwyd cydran o'r fyddin i Ganada. Dewiswyd Griffith Evans yn filfeddyg iddynt. Ym mis Mehefin 1861 hwyliodd ar y Great Eastern[8] (llong fwya'r byd ar y pryd), gan gyrraedd Quebec yng Ngorffennaf cyn symud i Montreal. Ychydig iawn o ymrafael a'r ffeniaid a welwyd - ond gan fod Llywodraeth Prydain yn gweld llywodraeth Abraham Lincoln yn fygythiad o'r de arosod y fyddin yng Nghanada i aros datblygiadau. I lenwi amser cofrestrodd Griffith Evans ar gwrs meddygol ym Mhrifysgol McGill. Ar ôl cyfnod anturus a gwerthfawr derbyniodd gradd M.D. yn haf 1864. Hanner canrif yn ddiweddarach agorwyd darn o lyfrgell Osler y brifysgol er mwyn anrhydeddu ei fywyd a'i waith. Fe'i disgrifiwyd fel un o "epil mwyaf nodedig McGill". Yn ystod y cyfnod hwn profodd Griffith Evans nifer o anturiaethau, gan gynnwys un o'r ymweliadau olaf heddychlon gan ddyn gwyn i wersyll y brodorion Sioux (1863). Hyn yn erbyn pob cyngor o'r perygl - gan fod y dyn gwyn eisoes wedi dechrau ar y broses o ddileu eu gwareiddiad.
Ym Mehefin 1864, cychwynnodd Griffith Evans ar daith llawn mor rhyfedd i ymweld â llinell flaen Rhyfel Cartref America. Ar y pryd, gyda chyfiawnhad efallai, ystyriwyd bod cydymdeimlad llywodraeth a lluoedd arfog Prydain ar ochr Cynghrair y De. Hefyd, nid oedd yr amseriad o gymorth, gyda'r Undeb mewn cyfnod aflwyddiannus o’r rhyfel. Er hynny, trwy fanteisio deheuig ar ei gysylltiadau llwyddodd gael dau gyfweliad personol gyda'r Arlywydd Abraham Lincoln ei hun (ar Fehefin 24) ! Perswadiwyd yr Arlywydd i roi trwydded iddo. Ceir disgrifiad manwl a ddeallus o'r ymweliad yn nyddiaduron[1] Griffith Evans o Orffennaf 3 i 20, pan ddychwelodd i Washington. Trannoeth cafodd Griffith Evans un cyfarfod olaf gyda Abraham Lincoln i adrodd ei argraffiadau iddo. Mewn blynyddoedd i ddod adnabyddwyd Griffith Evans fel un o'r Ewropeaid (a oedd yn dal yn fyw) olaf a oedd wedi cyfarfod a'r Arlywydd hwnnw.
Yng ngwanwyn 1869 cafodd Griffith Evans seibiant yn ôl yng Nghymru. Wrth aros gyda'i rhieni cymerodd amser i gerdded yr holl ffordd i Lanfair Caereinion. Ceir hanes rhamantus y cyfarfod rhyngddo a Katie Jones yng ngofiant[1] Jean Ware (wyres Griffith Evans) ohono. Bellach roedd yn 25 oed, a'i rhieni (a oedd wedi gwrthwynebu iddi briodi milwr yn 17 oed) wedi marw. Cytunwyd priodi ar ôl i Griffith Evans ddychwelid o'i wasanaeth yng Nghanada. Cyrhaeddodd yn ôl i Loegr ar Orffennaf 16 1870 a phriodwyd y ddau ar Hydref 26 yng nghapel Bethel, Towyn. Ysgrifennodd Robyn Ddu Eryri englyn ar eu cyfer.
Dechrau Teulu[1]
[golygu | golygu cod]Treuliodd y ddau y 7 mlynedd nesaf mewn cartrefi yn Ipswich, Llundain (Woolwich) ac Iwerddon (y Curragh). Yn ystod y cyfnod hwn gannwyd iddynt tair o ferched; Myfanwy Wynona, Erie a Towena. Dyma'r cyfnod daeth problemau ariannol y teulu yn Nhowyn i'w haped a bu farw Maria a Mary Evans. Bu farw Evan yn 1882.
Yr India[1]
[golygu | golygu cod]Galwyd Griffith Evans yn ôl i'w dyletswyddau milwrol ym Medi 1877 a gadawodd am yr India ar Hydref 30 y flwyddyn honno. Aeth Katie i fyw gyda'i hewythr a'i modryb (Rees) yn Nhowyn. Yn syth ar ôl cyrraedd ar Ragfyr 9 1877, anfonwyd Griffith i Sialkot (heddiw yn nhalaith Punjab, Pacistan) i ymchwilio i glefyd a oedd wedi lladd nifer o geffylau’r fyddin. Roedd wedi ymddiddori yng ngwaith Louis Pasteur ers ei gyfnod yn McGill, ac mae’n debyg ei fod wedi clywed am waith Robert Koch, yn 1876, yn puro’r microbau oedd yn gyfrifol am y clefyd anthracs. Gyda chymorth microsgop newydd a brynodd yn arbennig ar gyfer ei gyfnod yn yr India (ond heb fodd i sefydlu neu liwio ei samplau) daeth i’r canlyniad mai’r anthracs oedd yn gyfrifol. Griffith oedd y gyntaf i adnabod y clefyd yn yr India. Yn wir, roedd ar flaen gad ei bwnc. Rhaid cofio mai dim ond yn 1884 cyhoeddodd Koch ei Osodiadau (Postulates) enwog. Blynyddoedd yn ddiweddarach sylweddolodd Griffith, ysywaeth ei fod wedi methu darganfyddiad o bwys. Roedd wedi nodi fod nifer celloedd gwyn waed y ceffylau sâl wedi cynyddu’n sylweddol. Gofynnodd am adnoddau gan yr awdurdodau i ymchwilio’n bellach i hyn, ond fe’i gwrthodwyd. Pum mlynedd yn ddiweddarach, yn 1882 dangosodd y Rwsiad Élie Metchnikoff[9] sail yr hyn oedd Griffith wedi ei weld wrth iddo gyhoeddi ei esboniad o swyddogaeth celloedd gwynion y gwaed wrth amddiffyn y corff. (Yn 1908 enillodd Metchnikoff wobr Nobel am ei waith ar y cyd a Paul Ehrlich.)
Yn Ionawr 1879 cynigwyd i Griffith dyrchafiad yn Arolygydd. Byddai hyn yn ymestyn ei arhosiad, a’i absenoldeb o’i deulu, am bum mlynedd arall. Ond o’i dderbyn ‘roedd yn disgwyl y byddai’n esgyn i swydd Brif Filfeddyg yr India (Principal Veterinary Surgeon). Derbyniodd y swydd, ac o ganlyniad mudodd Katie i’r India yn Nhachwedd 1880 a ganwyd mab, Ywain Goronwy ap Griffith iddynt ar 1 Rhagfyr 1881 a merch, Mair, yn 1884. (Wrth ddychwelid i Lundain yn 1885, ‘roedd Goronwy yn hollol ddwyieithog - mewn Cymraeg a Hindwstaneg. Yno cyflogodd y teulu dwy forwyn uniaith Cymraeg i sicrhau mai Cymraeg fyddai iaith gyntaf y ddau.)
Yn y cyfamser ( Medi 1880) bu cyfnod allweddol yn hanes Griffith. Fe’i hanfonwyd i Ffindir y Gogledd Orllewin[10] lle oedd clefyd angheuol difrifol, a enwid yn Surra (Marathi sūra ), yn lladd ceffylau’r fyddin a’r tywysogion a bonedd yn eu cannoedd. Dyma gyfnod ail ryfel y Saeson yn erbyn Afghanistan (1878-80) ac roedd colli’r ceffylau o bwys strategol. Nid oedd triniaeth i’r cyflwr.
Er waethaf anghrediniaeth ei gyd milfeddygol, ‘roedd Griffith yn argyhoeddedig mai parasit microsgopig byddai’n gyfrifol. Un o’i brif amheuwyr oedd Cymro arall o’r enw’r Dr Timothy Lewis[11] (Cynorthwyydd Arbennig i Gomisiwn Glanweithdra’r India). Roedd Lewis wedi “brofi” i’w boddhad ei hun nad oedd parasitiaid o’r fath yn waed llygod mawr yn creu clefyd o gwbl. Roedd Griffith yn bygwth ei ddamcaniaeth. Yn fuan ar ôl cyrraedd Dera Ismail Khan[12] darganfu Griffith lu o barasitiaid yng ngwaed y ceffylau a oedd yn dioddef o Surra. Er bod cais ganddo i brofi’r fath canlyniad trwy chwistrellu’r parasitiaid i waed ceffylau iach wedi’i gwahardd rhag blaen gan Brif Filfeddyg Byddin yr India (F.F. Collins[13]) ar y sail eu bod yn rhy werthfawr i’r fyddin, chwistrellodd Griffith yr organebau i waed pedwar ceffyl iach ac i gi a gast. Clafychodd y cwbl a llenwyd eu gwaed a’r parasitiaid. Yn y wythnosau canlynol gwnaeth arbrofion ac arsylliadau pellach, gan awgrymu, ymhlith pethau eraill, mai trwy bryfed sugno gwaed y lledaenwyd y clefyd.
Ym mis Hydref bu rhaid i Griffith ail gydio yn ei dyletswyddau eraill, ac yna dychwelodd i Simla i orffen ei adroddiad cyn dyfodiad Katie. Er mawr syndod i Griffiths, gwrthodwyd yr adroddiad yn llwyr gan Timothy Lewis. Ar ben hyn, yn Calcytta fe’i beirniadwyd yn hallt gan Lywodraethwr Cyffredinol y Punjab am beidio â darganfod triniaeth i’r clefyd yn y pedair wythnos y bu yn Dera. (Ni atebwyd y broblem am genedlaethau.) Yn waeth, fe’i hystyriwyd yn granc ac fe’i halltudiwyd i swydd ddiarffordd yn Madras. Dyma ddiwedd ei obeithion ddod yn Brif Filfeddyg yr India. Yn wir, yn hwyrach, dinistriwyd ei adroddiad. Y ffodus, ar gais Griffith, ‘roedd Collins wedi anfon copi i’r Veterinary Journal[14] yn Llundain. Ond yn ôl Jane Wear[1] fe’i cyhoeddwyd mewn modd (anghyflawn) oedd yn ei ddibrisio’n llwyr. Mae’r holl hanes yn dangos ochr dywyll ymchwil wyddonol lle mae syniadau newydd yn tarfu ar syniadau unigolion dylanwadol y Sefydliad.
Yn ddiweddarach, dymuniad Griffith oedd ymestyn ei waith i gyfeiriad clefydau dyn - gan gynnwys clefyd cysgu (Sleeping sickness[15]). Dechreuodd ar y gwaith ond fe’i tiriwyd i ben yn sydyn yn 1886. Yn 1925, esboniodd Griffith (i Sir Frederick Smith[16] a oedd yn paratoi dogfen hanes Corff Milfeddygol Byddin y Brenin[17]) mae gorchymyn uniongyrchol y Frenhines Victoria oedd y gyfrifol am hyn. Roedd gelynion Griffith wedi’i ei erlid i’r eithaf !
Er hyn, rhaid dweud i Griffith derbyn parch o awdurdodau’r India cyn iddo adael eu gwasanaeth.
Griffith Evans oedd y gyntaf yn y byd i ddangos bod modd i ficrob protosoa achosi clefyd. Erbyn heddiw gwyddom am bwysigrwydd y dosbarth yma o glefydau, sy’n cynnwys mathau o Ddysentri, Giardiosis, Tocsoplasmosis, Leishmania, clefyd Chagas a Malaria. (Yn 2016 ‘roedd 216 miliwn yn dioddef o falaria trwy’r byd[18].) Ar ôl sawl newid enw, yn 1896 bedyddiwyd microb Surra yn Trypanosoma evansi gan y Ffrancwr Chauvrat[19]. Yn 1899 cadarnhaodd Leonard Rogers[20] damcaniaeth Griffith mai pigiad pry llwyd (tabanid) oedd yn gyfrifol am ledaeni’r clefyd. Yn 1903 darganfu David Bruce (Major-General Sir David Bruce KCB FRS FRCP FRSE[21]) mae protosoa sy’n gyfrifol am glefyd cysgu, ac mai’r pry tsetse sy’n ei gario. Mae hanes Trypanosoma brucei yn rhan o bob cwricwlwm meddygol (a thu hwnt). Mae’n debyg i Robert Koch (ym Merlin) defnyddio darganfyddiadau Griffith, ac roedd Louis Pasteur yn eu cymeradwyo i’r myfyrwyr ym Mharis. O’r diwedd, ag yntau’n 83 mlwydd oed dyfarnwyd i Griffith Evans fedal Steel Coleg Brenhinol y Milfeddygol. Priodol ac eironig yw mai J.H. Steel[22] (a fu farw yn gymharol ifanc yn 1890) a wnaeth mwy na neb yn Ymerodraeth Prydain i gydnabod cyfraniad Griffith.
Yng Nghymru[1]
[golygu | golygu cod]Gadawodd Griffith yr India yn Nhachwedd 1885. Ar ôl cyfnod byr ymddeolodd, yn Gyrnol, o’r fyddin yn Awst 1890 (ar ddydd ei ben-blwydd yn 55 oed). Roedd gwaharddiad y Frenhines wedi dod a gyrfa ymchwil Griffith i ben. Symudodd y teulu i Brynkynallt ym Mangor. Yno y bu Griffith byw hyd ei farwolaeth yn 1935. (Bu Katie farw yno yn 1923.)
Yn angof, i bob pwrpas, i’r sefydliad milfeddygol, bu’n darlithio ar Hylendid Milfeddygol yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru hyd at 1910. Fe’i “ail darganfuwyd” yn 1916 pan gyfeiriwyd ato gan Syr William Osler[23], Cadair Regiws Meddygaeth Rhydychen, yn ystod cyfarfod i gefnogi sefydlu Ysgol Feddygol Genedlaethol i Gymru. Oherwydd hyn fe’i hanrhydeddwyd gan Fedal Mary Kingsley[24], Ysgol Clefydau Trofannol Lerpwl, Fedal Coffa John Henry Steel, Ysgol Frenhinol y Milfeddygon a DSc er anrhydedd gan Brifysgol Cymru.
Yn ystod y cyfnod hir yma o ymddeoliad bun ymwneud yn egnïol a gwleidyddiaeth leol a chenedlaethol. Roedd dirwest yn bwysig iawn iddo, ond hefyd masnach rydd, hunanlywodraeth i’r Iwerddon, crefydd a phleidlais i ferched. Bu’n edmygydd o’r David Lloyd George ifanc, ac arhosodd hwnnw ar sawl achlysur ym Mrynkynallt. Ar un achlysur yn ystod Rhyfel y Böer, gyda Griffith a Katie yn eistedd ar y llwyfan, ceisiodd Lloyd George dadlau ochr y Böer i gynulleidfa mewn capel ym Mangor. Fe’i croesawyd gan gawod o wyau pydredig a thomatos ac fe’i hebryngwyd trwy ddrws cefn ac ar hyd llwybr cefn i Brynkynallt gerllaw yng nghwmni Griffith, Katie a phlismon. (Ym mhapurau’r teulu, ac ar siaced lwch coifiant Jean Ware[1]) mae telegram Lloyd George, o Gricieth, yn llongyfarch Griffith ar gyrraedd ei ben-blwydd 100 yn 1935.)
Yn ôl Jane Wear, ynghanol ei brysurdeb cymdeithasegol roedd ei gampweithiau milfeddygol yn angof i’w gymdeithas ym Mangor[1]. Ond fe’i hurddwyd a Rhyddfraint Dinas Bangor yn 1931.
Hyd ei ddiwedd bu ganddo ddiddordeb angerddol yn nigwyddiadau’r dydd. Ar ddechrau Rhagfyr 1935, ag yntau wedi dioddef sawl trawiad calon, roedd yn dal i ddarllen (bu’n hollol fyddar ers sawl blwyddyn) adroddiadau ei ferch, Erie, o newyddion chwech y dydd. Bu farw yn gynnar ar Ragfyr 7[25].
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]Jane Ware & Hugh Hunt. (1979) The Several Lives of a Victorian Vet. ISBN 0 85974 090 0
A. Murray Fallis. Griffith Evans 1835-1935 Discoverer of the first pathogenic Trypanosome [26].
Ywain Goronwy ap Griffith (mab Griffith Evans). Evans, Griffith (1835 - 1935), arloeswr astudiaeth clefydon anifeiliaid a achosir gan gynfilod, a darganfyddwr ‘Trypanosoma Evansi’. Bywgraffiadur Cymreig (LLGC)[27].
Nigel Williams (2005). A parasite pioneer. Current Biology. 15 (8), R279-R280 (26 Ebrill 2005)[28]
(Gavin Gatehouse. Mae Gavin Gatehouse, Abergwyngregyn, wedi derbyn comisiwn (2018) i baratoi bywgraffiad i Griffith Evans i'r gyfres Scientists of Wales (Gwasg Prifysgol Cymru).)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.00 1.01 1.02 1.03 1.04 1.05 1.06 1.07 1.08 1.09 1.10 Jane Ware & Hugh Hunt (1979). The Several Lives of a Victorian Vet. London: Bachman & Turner. ISBN 0 85974 090 0.
- ↑ "Yr iaith ac addysg - 19eg ganrif (BBC)". BBC Cymru. 2014. Cyrchwyd 3/2/19. Check date values in:
|access-date=
(help) - ↑ "Vet History (Digital Collections)". RCVS Vet History. Cyrchwyd 3/2/19. Check date values in:
|access-date=
(help) - ↑ "Meyrick. James Joseph". The Indian Biographical Dictionary (1915)/Meyrick. James Joseph. 18/1/2014. Cyrchwyd 3/2/2019. Check date values in:
|access-date=, |date=
(help) - ↑ "Royal Artillery". www.army.mod.uk. 2019. Cyrchwyd 3/2/2019. Check date values in:
|access-date=
(help) - ↑ "Unit History: Royal Horse Artillery". Forces War Records. 2019. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-08-21. Cyrchwyd 3/2/2019. Check date values in:
|access-date=
(help) - ↑ "Y Ffeniaid (Hanesyn newyddiadurol)". Y Faner ac Amserau Cymru (LLGC). 10 Ebrill 1867. Cyrchwyd 3/2/2019. Check date values in:
|access-date=
(help) - ↑ "SS Great Eastern". Portal Isambard Kingdom Brunel. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-10-20. Cyrchwyd 3/2/2019. Check date values in:
|access-date=
(help) - ↑ "Ilya Mechnikov". Nobel Prize. 2019. Cyrchwyd 3/2/2019. Check date values in:
|access-date=
(help) - ↑ Wilkinson, Isambard (26 Mai 2008). "Pakistan renames North West Frontier Province to end 'colonial anachronism'". The Telegraph. Cyrchwyd 3/2/2019. Check date values in:
|access-date=
(help) - ↑ Jones, Evan David. "LEWIS, TIMOTHY RICHARDS (1841 - 1886), llawfeddyg, clefydegydd, ac un o arloeswyr meddygaeth drofannol". Y Bywgraffiadur Cymreig. Cyrchwyd 3/2/2019. Check date values in:
|access-date=
(help) - ↑ "Dera Ismail Khan". Encyclopaedia Britannica. Cyrchwyd 3/2/2019. Check date values in:
|access-date=
(help) - ↑ Smith, Frederick (1857-1929) (1927). "A history of the Royal Army Veterinary Corps, 1796-1919". archive.org. Cyrchwyd 3/2/2019. Check date values in:
|access-date=
(help) - ↑ "The Veterinary Journal". The Veterinary Journal. Cyrchwyd 3/2/2019. Check date values in:
|access-date=
(help) - ↑ "What is sleeping sickness?". WHO. Rhagfyr 2017. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-03-31. Cyrchwyd 3/2/2019. Check date values in:
|access-date=
(help) - ↑ Vivash-Jones., Bruce (Ebrill 2016). "Major-General Sir Frederick Smith: His Life and Work". Vet Record Cyfrol 183, Rhan 5: 193 tt. https://veterinaryrecord.bmj.com/content/183/5/167.2.[dolen farw]
- ↑ Smith,, F. (Frederick), Sir, 1857-1929 (1927). A history of the Royal Army Veterinary Corps, 1796-1919. London: Published for the "Royal Army Veterinary Corps Officer's Fund" by Ballière, Tindall and Cox.CS1 maint: extra punctuation (link)
- ↑ WHO (2017). WORLD MALARIA REPORT 2017. WHO. ISBN 978-92-4-156552-3. line feed character in
|title=
at position 14 (help) - ↑ Chauvrat (1896). "Un cas d’anémie pernicieuse du cheval en Algérie, causé par une trypanosome.". Rec. de méd. vét. S: 344. https://link.springer.com/chapter/10.1007/978-3-642-92405-7_3.
- ↑ Sir George R. McRobert & Dr. R. G. Cochrane (1962). [https://www.bmj.com/content/bmj/2/5308/862.full.pdf "Sir LEONARD ROGERS, K.C.S.I., C.I.E., M.D. LL.D., F.R.C.P., F.R.C.S., F.R.S."]. British Medical Journal 2: 862-863. https://www.bmj.com/content/bmj/2/5308/862.full.pdf.
- ↑ "Major-General Sir David Bruce, K.C.B., LL.D., D.Sc., F.R.C.P., F.R.S.". Journal of the Royal Army Medical Corps 58 (1): 1-4. 1932. https://jramc.bmj.com/content/jramc/58/1/1.full.pdf.
- ↑ "Steel, John Henry (rhestr papurau)". Llyfrgell Ddigidol Ymddiriedolaeth Hathi. Cyrchwyd 3/2/2019. Check date values in:
|access-date=
(help) - ↑ "Sir William Osler (1849-1919)". Prifysgol McGill. Cyrchwyd 3/2/2019. Check date values in:
|access-date=
(help) - ↑ "Mary Kingsley Medal". LSTM. Cyrchwyd 3/2/2019. Check date values in:
|access-date=
(help) - ↑ "Dr. Griffith Evans". Nature 136: 942–943. 14 Rhagfyr 1935. https://www.nature.com/articles/136942a0.
- ↑ Fallis, A. Murray (1986). "Griffith Evans 1835-1935. Discoverer of the first pathogenic trypanosome". Can. Vet. J. 27: 336-338. https://www.ncbi.nlm.nih.gov/pmc/articles/PMC1680305/pdf/canvetj00597-0058.pdf.
- ↑ ap Griffith, Ywain Goronwy (1953). "EVANS, GRIFFITH (1835 - 1935), arloeswr astudiaeth clefydon anifeiliaid a achosir gan gynfilod, a darganfyddwr 'Trypanosoma Evansi'". Y Bywgraffiadur Cymreig (LLGC). Cyrchwyd 3/2/2019. Check date values in:
|access-date=
(help) - ↑ Williams, Nigel (26 Ebrill 2005). "A parasite pioneer". Current Biology 15 (8): R279-R280. https://www.sciencedirect.com/science/article/pii/S0960982205003829.