Neidio i'r cynnwys

Guto Ffowc

Oddi ar Wicipedia
Guto Ffowc
Guto Ffowc: llun dychmygol (1900).
Ganwydc. 13 Ebrill 1570 Edit this on Wikidata
Efrog Edit this on Wikidata
Bu farw31 Ionawr 1606 (yn y Calendr IwliaiddEdit this on Wikidata
o cervical fracture Edit this on Wikidata
Westminster Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Lloegr Edit this on Wikidata
Alma mater
  • St Peter's School Edit this on Wikidata
Galwedigaethperson milwrol, milwr Edit this on Wikidata
Swyddalférez mayor Edit this on Wikidata
TadEdward Fawkes Edit this on Wikidata
MamEdith Jackson (Blake) Edit this on Wikidata

Roedd Guido "Guy" Fawkes, neu Guto Ffowc yn Gymraeg, (13 Ebrill 157031 Ionawr 1606), yn aelod o grŵp o Gatholigion Rhufeinig Seisnig a geisiodd gyflawni Cynllwyn y Powdr Gwn (neu'r 'Cynllwyn Pabaidd'), ymgais i chwythu i fyny Senedd Lloegr a lladd y brenin Iago I o Loegr, a thrwy hynny ddinistrio'r llywodraeth Brotestannaidd trwy ladd y pendefigion Protestannaidd, ar 5 Tachwedd 1605, digwyddiad a goffeir ar Noson Guto Ffowc. Aflwyddiannus fu'r cynllwyn.

Bywgraffiad

[golygu | golygu cod]

Ganed Guto yn Efrog, a threuliodd flynyddoedd fel milwr ym myddin Sbaen. Cyflwynwyd ef i Robert Catesby, arweinydd Cynllwyn y Powdr Gwn, gan y Cymro Hugh Owen. Fel milwr profiadol, roedd ei brofiad o bwysigrwydd mawr i lwyddiant yr ymgais. Fodd bynnag, cafwyd hyd i'r powdwr gwn oedd wedi ei osod mewn seler dan y Senedd cyn i Guto gael y cyfle i'w ffrwydro. Daliwyd ef a'r cynllwynwyr eraill a chafodd ei arteithio, ei gael yn euog o deyrnfradwriaeth a'i ddienyddio tri mis yn ddiweddarach. Ysgrifennai Ffowc ei enw cyntaf yn ei ffurf Eidaleg Guido, sy'n rhoi Guto yn Gymraeg.

Noson Guto Ffowc

[golygu | golygu cod]
Prif erthygl y categori hwn yw Noson Guto Ffowc
Plant o'r Bontnewydd, Caernarfon yn casglu Ceiniog i'r hen Guto!; 1 Tachwedd 1962

Tan yn ddiweddar iawn arferai plant a phobl ifanc yng ngwledydd Prydain fynd o dŷ i dŷ ddechrau fis Tachwedd gyda Guto - dymi o ddyn wedi'i wneud o hen ddillad a gwellt - i hel pres at Noson Guto Ffowc. Ar y noson honno rhoddid y "Guto" ar ben y goelcerth a'i losgi.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
Baner LloegrEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Sais neu Saesnes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.