Gwlad yr Addewid
Awdur | Ed Thomas |
---|---|
Cyhoeddwr | Parthian Books |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Cymraeg |
Dyddiad cyhoeddi | 29/06/2015 |
Argaeledd | Ar gael |
ISBN | 9781910409008 |
Genre | Dramâu Cymraeg |
Cyfieithiad Cymraeg o ddrama gyntaf Ed Thomas, House Of America yw Gwlad yr Addewid. Fe'i cyfieithwyd gan Sharon Morgan ac fe'i chyhoeddwyd yn 2015 gan Parthian Books.[1] Disgrifiwyd yr addasiad fel "perl o gyfieithiad" gan adolygydd theatr Y Cymro, Paul Griffiths: "yn canu’n farddonol yn acenion a dywediadau Cwm Tawe [De Powys]; yn eistedd mor gyffyrddus yn y Gymraeg a’r Saesneg wreiddiol, yn gredadwy, yn ganiadwy ac yn gofiadwy."[2] Llwyfannwyd y ddrama Gymraeg gyntaf gan Theatr Genedlaethol Cymru yn Eisteddfod Genedlaethol Glyn Ebwy 2010.
Disgrifiad byr
[golygu | golygu cod]Drama ffrwydrol, angerddol am deulu Cymreig a'r freuddwyd Americanaidd.
"Mae’n stori gref, ac yn ddrama wych am deulu sy’n ceisio atebion; sy’n cwffio yn erbyn pawb a phopeth er mwyn profi eu hunaniaeth. Gydag absenoldeb y tad, mae’r plant yn credu ei fod wedi dianc i’r Amerig, wedi dilyn y Freuddwyd Fawr sy’n parhau i ddallu a denu Sid. Wrth i Bwll Glo arall gael ei agor gerllaw, mae’r ysfa am waith yn atyniad mawr i Sid a Boyo ond yn codi ofn brawychus ar y fam. Ofn sy’n cael ei egluro a’i arteithio wrth i gyfrinachau ddaear ddod i’r wyneb. Yng ngwyneb yr holl anobaith, mae Sid a Gwenny yn boddi eu gofidiau drwy gyffuriau a gwirodydd, gan geisio dianc hefyd, i fyd sy’n well."[2]
"Rydym wedi symud fymryn tua'r gorllewin o Flaenau Gwent", meddai Meg Elis wrth adolygu cynhyrchiad Cymraeg o'r cyfieithiad i wefan BBC Cymru yn 2010: "ond does dim eisiau gwrando ar lawer o'r ddrama cyn gwybod yn union lle'r ydych chi - ardal ddiwydiannol Cwm Tawe," ychwanegodd.[3]
"Y geiriau oedd yn gosod y ddaearyddiaeth. Roedd rhythm yr acenion, y cytseiniaid yn dangos yn glir bod yr awdur yn gwybod o'r gorau lle'r oedd - ac yn anad dim, yn y cynhyrchiad hwn, fod y cyfieithydd yn hollol sicr o'i lleoliad a'i hieithwedd. Gallech flasu'r iaith, a'i theimlo. Roedd hi'n pefrio drwodd."[3]
Cefndir
[golygu | golygu cod]Ym 1988, ysgrifennodd Ed Thomas ei ddrama gyntaf, House of America. Enillodd y ddrama sawl gwobr fel drama a ffilm (1996), yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.
"Perfformiwyd House of America am y tro cyntaf yn 1988", eglura'r actores a'r dramodydd Sharon Morgan oedd yn portreadu'r fam yn y cynhyrchiad wreiddiol o'r ddrama: "...yn rhan o dymor o ddramâu roedd Geoff Moore, y dyn difyr hwnnw, yn eu Ilwyfannu yn St Stephen's (Y Point erbyn hyn), yr hen gapel yn y Bae oedd yn gartre' i'w gwmni arloesol Moving Being."[4]
"A dyna ddechrau ar siwrne wyllt, gyffrous. Pum paced o sigaréts ar ford fach ddu a dwy gadair y naill ochr iddi oedd yn cynrychioli tŷ'r Lewisiaid, a'r nosweithiau hwyr meddw yn y Dowlais [tafarn] yn ein cynnal ni wrth i ni geisio ufuddhau i orchymyn Ed [Thomas] i dorri holl gadwynau confensiwn, i 'fod yn rhydd', i 'dorri'r walie lawr'. Deuddeg oedd yn y gynulleidfa ar y noson gynta', a'r dramodydd Siôn Eirian yn eu plith, yr hwn a ddywedodd, wrth Ed, mae'n debyg: 'Galli di dowlu dy bensil nawr'. Yn dilyn taith fer o gwmpas cymoedd de Cymru yn yr hydref, aethon ni i berfformio yng Nghanolfan Gelfyddydol Battersea yn Llundain, cyn dychwelyd i Gaerdydd, a'r gynulleidfa erbyn hyn yn y mestyn mas i'r hewl yng Nghanolfan Celfyddydau Chapter. Ar hyd y daith cafodd y drama adolygiadau gwych ac yn 1989 fe berfformio'n ni yng Ngŵyl Caeredin, ac yn yr un flwyddyn fe enillodd y drama wobr Time Out/01 for London."[4]
"Ers hynny mae'r ddrama wedi ei chynhyrchu droeon yng Nghymru," ysgrifennodd Sharon Morgan yn y Rhagair i'r ddrama yn 2015, "ac wedi ei chyfieithu i amryw o ieithoedd."[4]
"Mae wedi bod yn fraint arbennig ei chyfieithu i'r Gymraeg, yn enwedig oherwydd dimensiwn ychwanegol ein dwyeithrwydd sy'n ychwanegu at y cysyniad o'r freuddwyd goll, yr egni a'r angerdd sy'n cael ei fygu mewn cymdeithas ddryslyd o ran ei hunaniaeth. Mae gan ardal enedigol Ed, Cwmgïedd ac Ystradgynlais, ei thafodiaith unigryw ei hun, tafodiaith bert, nad y'n ni bron byth yn ei chlywed ar lwyfan, sgrin na radio, sy'n gwneud tranc yr iaith yn y pentrefi diwydiannol yma yn fwy ingol fyth. Mae'r themâu yn fyd-eang, fodd bynnag, a fy mhrif nod oedd ceisio creu ieithwedd a rhythmau yn y Gymraeg oedd yn gallu cynnal yr hiwmor a'r farddoniaeth mewn modd uniongyrchol a naturiol; hynny yw, bod mor driw i'r gwreiddiol a phosib. Wrth ailymweld a'r cyfnod yn fy mhen, es i ar daith yn ôl i'r gorffennol, ac with deipio, fe ddaeth aml i wên wrth glywed atseiniau lleisiau Russ, Rich, Tim, Ed, Cath a Wyn yn bownsio o gwmpas yr ystafell ymarfer. Ond er ei lleoli yn yr wythdegau, mae'r neges yr un mor berthnasol heddiw, i ni yng Nghymru, ac ym mhobman yn y byd lle mae angerdd gwirionedd hunaniaeth yn cael ei wyrdroi."[4]
Cymeriadau
[golygu | golygu cod]- Mam
- Boyo
- Gwenny
- Sid
- Labrwr
Cynyrchiadau nodedig
[golygu | golygu cod]1980au
[golygu | golygu cod]Performiwyd y ddrama Saesneg wreiddiol House of America am y tro cyntaf ym mis Mai 1988, yn Theatr San Steffan [The Point], Caerdydd, fel rhan o'i thymor ysgrifennu radical; Cyfarwyddwr Ed Thomas; set a goleuo Ian Hill; cerddoriaeth Wyndham Price; cast:
- Mam - Sharon Morgan
- Boyo - Tim Lyn / Richard Lynch
- Gwenny - Catherine Treganna
- Sid - Russel Gomer
- Labrwr - Wyndham Price
Teithiodd y fersiwn ddiwygiedig o gwmpas de Cymru, i Lundain ac i Ŵyl Caredin ym 1989, gyda Richard Lynch yn portreadu Boyo.
2010au
[golygu | golygu cod]Llwyfannwyd yr addasiad Cymraeg gan Theatr Genedlaethol Cymru yn 2010. Cyfarwyddwr Tim Baker; cynllunydd Mark Bailey; cast:
- Mam - Sara Harris-Davies
- Boyo - Siôn Daniel Young
- Gwenny - Elin Phillips
- Sid - Rhodri Meilir
- Labrwr - Alun ap Brinley
Er canmol yr addasiad o waith Sharon Morgan, "siom, poenus a phryderus" oedd y cynhyrchiad i adolygydd theatr Y Cymro, Paul Griffiths:[2]
"Dwi di bod yn ffan mawr o waith Tim [Baker] ers blynyddoedd, o ddyddiau cynnar Theatr Gorllewin Morgannwg, hyd ei gyfnod presennol yng Nghlwyd Theatr Cymru. Roedd pob cynhyrchiad wastad yn taro deuddeg, yn llawn emosiwn, gydag ensemble cryf o actorion profiadol yn mynd â ni ar daith, er gwaethaf eu hamgylchiadau. Yn wir, af i gyn belled a dweud fod enw Tim yn uchel ar fy rhestr o gyfarwyddwyr posib i arwain y Theatr Genedlaethol. Hyn i gyd, cyn imi weld Gwlad yr Addewid. O’r fath siom, poenus a phryderus. Roedd yma berl o gyfieithiad gan Sharon Morgan [...] Trueni na chafwyd cynhyrchiad oedd yn deilwng o’i gwaith [...] Siom, siom, siom a sarhad ar glasur o gyfieithiad. Yn anffodus i Tim, rhaid imi osod rhan helaeth o’r bai ar ei ysgwyddau ef. O’r castio hyd y cynllunio, heb sôn am y cyfarwyddo. Cynhyrchiad nas anghofiaf, am y rhesymau anghywir."[2]
Nodi ei phryderon dros "ymdrechion ambell i gymeriad" i ynganu'r cyfieithiad caboledig wnaeth Meg Elis wrth adolygu cynhyrchiad ar wefan BBC Cymru:[3]
"Digwyddais grybwyll hyn yn nes ymlaen - a chael yr esgus mai gogleddwr oedd un o'r actorion. Cystal datgan yn groyw yma nad oes ffliwsan o ots o lle daw actor. Fel y dywedodd John Mortimer pan wrthwynebodd rhyw actores ddweud llinellau ei chymeriad am eu bod yn treisio pa bynnag oedd ei chred ffasiynol hi ar y pryd - "It's called acting, dear" ac os nad yw actorion Cymraeg wedi dysgu'r wers honno, mae rhywbeth mawr o'i le."[3]
"Fe ddylai'r actorion a'r gynulleidfa fod yn gyfarwydd gyda'r sefyllfa a ddarlunnir", meddai Meg Elis, "cymdeithas ôl-ddiwydiannol yn wynebu chwalfa. Unigolion sy'n dal i berthyn i deulu ac - efallai - cymdeithas - ac yn ceisio dal yn wydn at yr hyn sy'n eu clymu ynghyd. A rhyw freuddwyd bell yn wastad ar y gorwel. Cyflëwyd hyn yn dda trwy ddefnyddio'r tafluniau o blant bach hapus yn chwarae - naws "home movies" diniwed - a chysgod y tad diflanedig yn awgrymu llawer".[3]
"Mae cwestiynau mawr yn cael eu trin yn Gwlad yr Addewid, ac enbydrwydd y rhwygiadau yn dod yn fwyfwy amlwg tua'r diwedd: yn llythrennol felly, mewn dwy ffordd bwysig. Wrth i Gwenny a Sid gael eu llyncu'n llwyr gan y freuddwyd, y rhwyg ieithyddol sy'n cyfleu hyn gryfaf. Gallwn ddychmygu bod hyn wedi gweithio'n dda yn y gwreiddiol, gyda'r tyndra rhwng yr Americaneg a Saesneg brodorol y cwm ond y mae'n fwy grymus fyth yn y Gymraeg, ac yn ychwanegu dimensiwn llymach at y rhwyg. Pan fo Sid, o'r diwedd yn ceisio tynnu'n ôl ac yn ymdrechu i ddarbwyllo Gwenny golledig mai breuddwyd yw'r cyfan, gwneud hynny trwy gyfrwng ei famiaith y mae ac y mae'r geiriau grymus yn peri i'r gynulleidfa hefyd deimlo'r golled. Daw rhwyg arall hefyd - rhwyg llythrennol wrth i'r set gael ei darnio, ac i lawer o'r chwarae ddigwydd yn, rhwng a thros yr hollt enfawr a grewyd. Dydw i ddim mor hollol siŵr a weithiodd hyn cystal [...] a'r teimlad llethol a gefais wrth wylio Gwlad yr Addewid, yn enwedig tua'r diwedd, oedd ein bod yn cael ein byddaru gan y set a'r sain. Oedd, roedd angen cyfleu'r trais a'r chwalfa - ond o du'r set a'r actorion fel ei gilydd, doedd dim amrywiaeth goslef, ac y mae hyn, o'i estyn am ormod o amser, yn difetha'r union dyndra yr anelir ato."[3]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Rhestr llyfrau Cymraeg
- Wicibrosiect Llyfrau Gwales
- Mae'r cyfieithiad Cymraeg ar gael yma
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gwefan Gwales; adalwyd 1 Awst 2017
- ↑ 2.0 2.1 2.2 2.3 "Paul Griffiths". paulpesda.blogspot.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-09-21.
- ↑ 3.0 3.1 3.2 3.3 3.4 3.5 "BBC - Cymru - Eisteddfod 2010 - O'r Maes - Gwlad yr Addewid". www.bbc.co.uk. Cyrchwyd 2024-09-21.
- ↑ 4.0 4.1 4.2 4.3 Ed Thomas, Sharon Morgan (2015). Gwlad Yr Addewid. Seren Drama. ISBN 9781910409008.