Gwleidyddiaeth y Deyrnas Unedig
Enghraifft o'r canlynol | system wleidyddol |
---|---|
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae gwleidyddiaeth y Deyrnas Unedig yn digwydd yn y fframwaith o frenhiniaeth gyfansoddiadol lle mae'r Frenhines (neu'r Brenin) yn bennaeth y wladwriaeth, a'r Prif Weinidog yn bennaeth y llywodraeth. Mae gan y Deyrnas Unedig system amlbleidiol gyda datganoli rhannol y grym yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Ymarferwyd y grym gweithredol gan y llywodraeth. Mae grym deddfwriaethol yn gyfrifoldeb y llywodraeth ynghyd â dwy siambr y Senedd, sef Tŷ'r Cyffredin a Thŷ'r Arglwyddi. Mae'r farnwriaeth yn annibynnol o'r weithrediaeth a'r ddeddfwrfa.
Ers y 1920au, y Blaid Lafur a'r Blaid Geidwadol yw'r ddwy blaid wleidyddol fwyaf yng ngwleidyddiaeth y DU. Er bod clymbleidiau a llywodraethau lleiafrifol wedi bod yn nodwedd achlysurol o wleidyddiaeth seneddol, mae system etholiadol 'y cyntaf i'r felin' a ddefnyddir ar gyfer etholiadau cyffredinol yn tueddu i gynnal trechedd y ddwy blaid hon. Er hynny, yn ystod yr ganrif ddiwethaf byddai ill dwy yn dibynnu ar drydedd blaid er mwyn sicrhau mwyafrif gweithredol yn y Senedd. Y Democratiaid Rhyddfrydol, sef plaid a ffurfiwyd wedi i'r Blaid Ryddfrydol ymuno â Phlaid y Democratiaid Cymdeithasol (SDP) ym 1988, yw'r blaid drydedd fwyaf yn Senedd y DU. Mae'r blaid am ddiwygio'r system etholiadol i fynd i'r afael â threchedd y system dwy blaid.
Er bod tueddiadau 'cenedlaetholgar' (yn hytrach nag 'unoliaethol') wedi newid dros amser yng Nghymru a'r Alban – a Phlaid Cymru yn cael ei sefydlu ym 1925, Plaid Genedlaethol yr Alban ym 1934, a Mebyon Kernow (Meibion Cernyw, plaid Cernyw) ym 1951 – ni fu argyfwng gwledyddiol difrifol i fygwth cyfanrwydd y Deyrnas Unedig fel gwladwriaeth ers y 1970au. Mae Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn meddu ar eu deddfwrfeydd a llywodraethau eu hunain yn ychwanegol i rai'r Deyrnas Unedig. Serch hynny, mae'r ymreolaeth gynyddol a datganoli grymoedd gweithredol a deddfwriaethol hyn heb gyfrannu at leihad yn y gefnogaeth i annibyniaeth oddi wrth y Deyrnas Unedig, gydag ymddangosiad pleidiau newydd o blaid annibyniaeth. Er enghraifft, mae Plaid Werdd yr Alban a Phlaid Sosialaidd yr Alban wedi ennill poblogrwydd mewn blynyddoedd diweddar, ond maen nhw heb dolcio yn arwyddocaol trechedd seneddol y tair prif blaid.
Mae cyfansoddiad y DU heb ei godeiddio, gan ei fod yn cynnwys confensiynau cyfansoddiadol, statudau ac elfennau eraill.
Mabwysiadwyd y system lywodraethu hon, a adwaenir fel system San Steffan, gan wledydd eraill hefyd, megis Canada, India, Awstralia, Seland Newydd, Singapôr, Maleisia a Jamaica, sef gwledydd a oedd yn aelodau'r Ymerodraeth Brydeinig.