D. Ben Rees
D. Ben Rees | |
---|---|
Ganwyd | 1937 Llanddewi Brefi |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | hanesydd |
Cyhoeddwr Cymraeg a Saesneg, awdur, darlithydd a gweinidog gydag Eglwys Bresbyteraidd Cymru yw D. Ben Rees (David Benjamin Rees; ganwyd Awst 1937). Ers 1962 mae'n arweinydd y gymuned Gymraeg yn Lerpwl. Mae'n arwain un o bump capel Cymraeg sy'n dal i fodoli yn Lerpwl.
Ganwyd David Benjamin Rees yn Llanddewi Brefi. Sefydlwyd ei dŷ cyhoeddi bychan, Modern Welsh Publications Ltd, yn 1963 ac o 1963 i 1968 fe weithredodd o Abercynon yng Nghwm Cynon, de Cymru. Ers 1968 mae wedi gweithredu o Allerton, Lerpwl a hwn yw'r unig dŷ cyhoeddi Cymraeg sy'n dal i weithredu yn ninas Lerpwl.
Gwaith llenyddol
[golygu | golygu cod]Mewn cyfnod o ddeugain mlynedd fel ysgrifennwr, mae'r Dr. D. Ben Rees wedi gweithio'n bennaf mewn pedwar maes:
Heddwch a heddychiaeth
[golygu | golygu cod]Cyhoeddwyd y bywgraffiad Mahatma Gandhi: Pensaer yr India (Mahatma Gandhi: The Architect of India) ym 1970. Mewn adolygiad yn y cylchgrawn misol, Barn, roedd y Parchedig Alwyn Roberts yn canmol y teitl am ddod â chyfraniad Mahatma Gandhi i genhedlaeth newydd o ddarllenwyr. Y gyfrol hon oedd ysbrydoliaeth cyfres o dri llyfr ar heddychwyr Cymreig. Roedd pob cyfrol yn cynnwys portread o fentrau heddwch gweithwyr heddychlon adnabyddus gan academyddion ac awduron dan y teitlau Herio'r Byd (1980), Dal i Herio'r Byd (1983) a Dal Ati i Herio'r Byd (1988) , pob un wedi'i golygu gan D. Ben Rees.
Gweithiau
[golygu | golygu cod]- Arolwg 1965 (Golygydd) (1965);
- Llyfr Gwasanaeth (Ieuenctid) (Golygydd) (1967);
- Gwaith yr Eglwys (1967);
- Mahatma Gandi : Pensaer yr India (1969);
- Arolwg 1970 (Editor) (1970);
- Arolwg (Editor) (1971);
- Pymtheg o Wyr Llen yr Ugeinfed Ganrif (1972);
- Dyrnaid o Awduron Cyfoes (Golygydd) (1974);
- Enwogion Pedair Canrif (1400-1800) (1975);
- Gweddiau'r Cristion (1976);
- Cymry Adnabyddus 1951-1972 (1978); Gweddiau'r Cristion (1978);
- Pregethwr y Bobl: Bywyd a Gwaith Dr Owen Thomas (1979);
- Wales and its Culture (1980);
- Herio'r Byd (Editor) (1980);
- Cerddi eisteddfodol y diweddar Gwilym Jones (Golygydd) (1981);
- Preparation for Crisis (1981);
- Cyfaredd Capel Bethesda, Cemaes, Mon (1878-1981) (Golygydd) (1981);
- Haneswyr yr Hen Gorff (1981);
- Dal Ati i Herio'r Byd (Golygydd) (1983);
- Gweddiau'r Cristion (1983);
- Oriel o Heddychwyr Mawr y Byd (1983);
- Pwy yw Pwy yng Nghymru - Who's Who in Wales, Volume 3 (1983);
- The Liverpool Welsh and their Religion: two centuries of Welsh Calvinistic Methodism/Cymry Lerpwl a'u crefydd: dwy ganrif o Fethodistiaeth Galfinaidd Gymreig - R. Merfyn Jones a D. Ben Rees (Golygwyd gan D. Ben Rees) (1984);
- Hanes Plwyf Llanddewi Brefi (1984);
- Gwasanaethau'r Cristion (1987);
- Deuddeg Diwygiwr Protest (Golygydd) (1988);
- Dal Ati I Herio'r Byd (Editor) (1989);
- May we wish you a goodnight in Hospital / Gordon A. Catherall and D. Ben Rees (1990);
- A Liverpool Welsh Preacher: Dr. Owen Thomas (1990);
- Prayers for Peace (1992);
- Dathlu Grawnsypiau Canaan a detholiad (1995);
- Graces for all occasions (1995);
- Cymry Lerpwl a'r Cyffiniau Cyfrol 1 (1997);
- The Welsh of Merseyside, Volume 1 (1997);
- Local and Parliamentary Politics of Liverpool from 1800 to 1911 (1999);
- The Hague Declaration on Peace and Justice in the Twenty First Century, Bilingual (Golygydd) (2000);
- Cymry Lerpwl a'r Cyffiniau yn yr Ugeinfed Ganrif, Cyfrol 2 (2001);
- The Welsh of Merseyside in the Twentieth Century, Volume 2 (2001);
- Vehicles of Grace and Hope (2002);
- Ffydd a Gwreiddiau John Saunders Lewis (Editor) (2002);
- The Polymath: Reverend William Rees ('Gwilym Hiraethog' 1802-1883 of Liverpool) (2002);
- Gweddiau am Gymru a'r Byd / Prayers for Wales and the World (2002);
- Y Polymathiad o Gymro, Parchedig William Rees, Lerpwl (Gwilym Hiraethog 1802-1883) (2002);
- Cwmni Deg Dawnus (2003);
- The Call and Contribution of Dr Robert Arthur Hughes OBE, FRCA (1910-1996) and some of his predecessors in north East India Vol 1 (Golygydd) (2004);
- Mr Evan Roberts Y Diwygiwr yn Sir Fôn 1905 / Mr Evan Roberts, The revivalist in Anglesey (2005);
- Alffa ac Omega: tystiolaeth y Presbyteriaid Cymraeg yn Laird Street, Penbedw (1906-2006), a bilingual volume (2006);
- The Life and work of Henry Richard (2007); Alun Owen: A Liverpool Welsh playwright (Golygydd) (2008);
- Codi Stêm a Hwyl yn Lerpwl (2008);
- Labour of Love in Liverpool (2008);
- Arloeswyr Methodistiaeth Môn 1730-1791 (2006);
- The Pioneers of Methodism in Anglesey (2006);
- John Elias a'i Gyd Fethodistiaid Calfinaidd 1791-1841 / John Elias and the Calvinistic Methodists (1791-1841) (2007);
- Oes Aur Crefydd Ym Môn, 1841-1885 / A golden Age of Religion in Anglesey 1841-1885 (2008);
- Dr John Williams, Brynsiencyn a'i Ddoniau (1853-1921) / Dr John Williams, Brynsiencyn and his Talents (1853-1921) (2009);
- John Calvin a'i Ddisgyblion Calfinaidd Cymraeg / John Calvin and his Welsh Disciples (2009);
- The sage of a revival: early Welsh Pentecostal Methodism (2010);
- Y Gwron o Genefa (2012);
- A portrait of Battling Bessie (2011);
- Cysegr Sancteiddiolaf Capel Westminster Road Ellesmere Port 1907-2007 / The Welsh missionary witness in Ellesmere Port (1907-2007) (2012);
- Di-Ben-Draw: Hunangofiant (2015);
- Dilyn Ffordd Tangnefedd: Canmlwyddiant Cymdeithas y Cymod (1914-2014) (Golygydd) (2015);
- Arwr Glew y Werin (Cofiant i James Griffiths) (2015);
- Y Cenhadwr Cyntaf o Blith Cymry Lerpwl: Josiah Hughes (1804-1840) / Josiah Hughes (1804-1840): The Reluctant Welsh Calvinistic Methodist Missionary of Malacca (2016);
- The Healer of Shillong: Reverend Dr Hugh Gordon Roberts and the Welsh Mission Hospital (2016);
- Cofiant Cledwyn Hughes: Un o Wyr mawr Mon a Chymru (2017);
- Canmlwyddiant y Gadair Ddu, Gwyl Hedd Wyn / Black Chair Centenary (2017);
- An Unlimited Life: An Autobiography (2018).
Diwylliant Cymreig
[golygu | golygu cod]Mae'r awdur wedi ysgrifennu nifer o lyfrau yn Saesneg ac yn Gymraeg ar ysgrifenwyr.
1) Mae Wales: Culture Heritage (1982) yn gyflwyniad poblogaidd i'r wasg Gymreig a'r traddodiad eisteddfodol, ac mae'n ceisio diffinio cynnwys diwylliant Cymru.
2) Samuel Roberts (1987), cofiant o'r awdur Fictoriaidd Samuel Roberts o Lanbrynmair. Cyhoeddwyd y llyfr yn Saesneg gan Wasg Prifysgol Cymru fel rhan o gyfres 'Ysgrifenwyr Cymru', dan olygyddiaeth Dr Meic Stephens a Dr R. Brinley Jones.
3) 12 o gyfrolau pellach rhwng 1975 a 2006, sy'n mynd i'r afael ag Anghydffurfiaeth Cymru, Astudiaethau Fictorianaidd a hanes cymuned Gymraeg Lerpwl. - Mae D. Ben Rees yn cael ei gydnabod fel yr awdurdod blaenllaw ar Hanes Cymry Lerpwl ers 1984 pan wnaeth ef a'r Athro R. Merfyn Jones gyd-ysgrifennu The Liverpool Welsh and their Religion. Roedd ei lyfr diweddaraf yn seiliedig ar gymuned Gymraeg Ellesmere Port (2012).
Diwinyddiaeth
[golygu | golygu cod]Mae Dr. D Ben Rees wedi dod yn ysgolhaig cydnabyddedig ar John Calvin (1509-1564) ac o Galfiniaethiaeth ers cyhoeddi pedwar llyfr, tri yn yr iaith Gymraeg, ar John Calvin a'i Ddisygblion Cymreig yn ystod y cyfnod 2008 a 2012. Cyflwynodd y Ddarlith Davies ar John Calvin a'r Cyfundeb yng Nghynulliad Cyffredinol ei enwad yn Llanbedr Pont Steffan yn 2008. Cyhoeddwyd y ddarlith bellach fel Y Gwron o Genefa: John Calfin a'i ddylanwad (Caernarfon, 2012).