Dorothy Hewett
Dorothy Hewett | |
---|---|
Ganwyd | Dorothy Coade Hewett 21 Mai 1923 Perth, Gorllewin Awstralia |
Bu farw | 25 Awst 2002 Springwood |
Dinasyddiaeth | Awstralia |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bardd, nofelydd, dramodydd, llenor |
Plant | Tom Flood, Kate Lilley |
Gwobr/au | Gwobr Christopher Brennan, Gwobr Barddoniaeth Newcastle, Aelod o Urdd Awstralia |
Bardd o Awstralia oedd Dorothy Coade Hewett (21 Mai 1923 - 25 Awst 2002) sydd hefyd yn cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel nofelydd, dramodydd ac awdur.
Fe'i ganed yn Perth, Gorllewin Awstralia a bu farw yn Springwood o ganser y fron. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Gorllewin Awstralia, Coleg Perth, Awstralia.[1][2][3][4] Roedd Tom Flood a Kate Lilley yn blant iddi.
Mae hi wedi cael ei galw'n "un o awduron Awstraliaidd mwyaf poblogaidd ac uchel ei pharch".[5]
Roedd yn aelod o'r Blaid Gomiwnyddol am gyfnod, er iddi wrthdaro ar sawl achlysur ag arweinyddiaeth y blaid. I gydnabod ei 20 cyfrol o lenyddiaeth gyhoeddedig, fe'i anrhydeddwyd gyda Gorchymyn Awstralia, mae ganddi blac Taith Cerddor yn Circular Quay, a stryd a enwyd ar ei hôl yn Canberra. Sefydlwyd Gwobr Dorothy Hewett am lawysgrif heb ei chyhoeddi yn 2015 gan PCA Publishing. Derbyniodd hefyd Wobr Christopher Brennan.[6]
Ym mis Mehefin 2018, honnodd merched Hewett, Kate a Rozanna Lilley, eu bod wedi dioddef ymosodiad rhywiol yn eu harddegau gan yr awdur a'r newyddiadurwr Bob Ellis, yr artist Martin Sharp, a dynion eraill ar sawl achlysur gwahanol, gyda chymeradwyaeth eu mam.[7]
Magwraeth
[golygu | golygu cod]Ganwyd Hewett yn Perth, Gorllewin Awstralia ac fe'i magwyd ar fferm ddefaid a gwenith ger Wickepin yn Ardal y Gwenith. Cafodd ei haddysgu gartref yn y lle cyntaf a thrwy gyrsiau-gohebu. Yn 15 oed aeth i Goleg Perth, a redwyd gan leianod Anglicanaidd. Roedd Hewett yn anffyddiwr, gan aros felly drwy gydol ei bywyd.
Yn 1944 dechreuodd Hewett astudio Saesneg ym Mhrifysgol Gorllewin Awstralia (PGA). Yma yr ymunodd â Phlaid Gomiwnyddol Awstralia (CPA) yn 1946 a dechreuodd ysgrifennu'r rhan fwyaf o The Workers Star, papur newydd plaid Gomiwnyddol Gorllewin Awstralia, dan lysenwau. Yn ystod ei chyfnod yn PCA enillodd gystadleuaeth ddrama fawr a chystadleuaeth farddoniaeth genedlaethol. [8][9]
Yn 1944 priododd â chyfreithiwr, sef y comiwnydd Lloyd Davies a ganwyd mab iddynt a fu farw o liwcemia pan oedd yn dair oed. Daeth y briodas i ben ym 1948, yn dilyn ymadawiad Hewett i Sydney i fyw gyda Les Flood, gwneuthurwr boeleri, yr oedd ganddi dri mab, Joe, Michael a Tom. Yn ystod y cyfnod hwn, ysgrifennodd Hewett trodd Hewett yn newyddiadurwr o dan gwahanol lysenwau ar gyfer y papur Comiwnyddol, y Tribune; ar y pryd roedd llywodraeth Menzies wedi ei wneud yn anghyfreithlon.[10]
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Ar ôl i'r berthynas hon ddod i ben ym 1958 dychwelodd Hewett i Perth i ddechrau swydd addysgu yn adran Saesneg Prifysgol Gorllewin Awstralia. Ysgogodd y symudiad hwn hi hefyd i ddechrau ysgrifennu eto. Jeannie (1958) oedd y darn cyntaf a gwblhaodd yn dilyn ei hiatus gorfodol; yn ddiweddarach cyfaddefodd Hewett fod y profiad o ysgrifennu'r gwaith hwn yn gwbwl newydd a diarth iddi.
Cyhoeddodd Hewett ei nofel gyntaf, Bobbin Up, ym 1959. Fel mae'r teitl yn awgrymu mae'n waith lled-hunangofiannol yn seiliedig ar ei hamser yn Sydney, roedd y nofel yn gartharsis i Hewett. Mae'r nofel yn cael ei hystyried yn enghraifft glasurol o realaeth gymdeithasol. Roedd yn un o'r ychydig weithiau gorllewinol a drosglwyddwyd i Rwsia yn ystod y cyfnod Sofietaidd. Ail-gyhoeddodd Vulgar Press y llyfr ym 1999, 40 mlynedd ar ôl ei gyhoeddiad cyntaf.[11]
Ym 1960 priododd Hewett â Merv Lilley (1919-2016), priodas a barodd tan ddiwedd ei bywyd. Cawsant ddwy ferch, Kate a Rose yn 1960 ac, yn 1961, cyhoeddodd y cwpl gasgliad ar y cyd o farddoniaeth o'r enw What About the People!
Anrhydeddau
[golygu | golygu cod]- Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Gwobr Christopher Brennan, Gwobr Barddoniaeth Newcastle, Aelod o Urdd Awstralia (1986)[12] .
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Cyffredinol: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
- ↑ Rhyw: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. http://www.theguardian.com/news/2002/sep/05/guardianobituaries2.
- ↑ Dyddiad geni: http://www.theguardian.com/news/2002/sep/05/guardianobituaries2. "Dorothy Hewett". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Dorothy Hewett".
- ↑ Dyddiad marw: http://www.theguardian.com/news/2002/sep/05/guardianobituaries2. "Dorothy Hewett". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Dorothy Hewett".
- ↑ Birns & McNeer.A Companion to Australian Literature Since 1900, Camden House, 2007
- ↑ "The Dorothy Hewett Award for an Unpublished Manuscript". UWA Publishing. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-05-04. Cyrchwyd 16 Gorffennaf 2017.
- ↑ "Dorothy Hewett's daughters Rozanna and Kate Lilley talk about re-casting their mum's image in the age of #MeToo". abc.net.au. 2018-06-21. Cyrchwyd 2019-06-19.
- ↑ Galwedigaeth: http://blogcritics.org/books/article/book-review-selected-poems-of-dorothy/.
- ↑ Anrhydeddau: https://honours.pmc.gov.au/honours/awards/870127.
- ↑ trove.nla.gov.au; adalwyd 15 Gorffennaf 2019.
- ↑ britannica.com; adalwyd 15 Gorffennaf 2019
- ↑ https://honours.pmc.gov.au/honours/awards/870127.
- Cyfeiriadau cuddiedig o Wicidata
- Rhestrau cuddiedig o Wicidata
- Genedigaethau 1923
- Marwolaethau 2002
- Beirdd yr 20fed ganrif o Awstralia
- Beirdd Saesneg o Awstralia
- Dramodwyr yr 20fed ganrif o Awstralia
- Dramodwyr Saesneg o Awstralia
- Llenorion benywaidd yr 20fed ganrif o Awstralia
- Llenorion benywaidd yr 21ain ganrif o Awstralia
- Nofelwyr yr 20fed ganrif o Awstralia
- Nofelwyr Saesneg o Awstralia
- Pobl o Perth, Gorllewin Awstralia