Dawns forys
Enghraifft o'r canlynol | ffurf gerddorol, math o ddawns |
---|---|
Math | dawns werin |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae Dawns Forys yn fath o ddawns werin Seisnig.
Tarddiad y gair ‘Morys’
[golygu | golygu cod]Mae’n debyg bod y gair yn tarddu o’r Ffrangeg morisque. Daeth morisque yn moricsh yn Fflemineg ac wedyn moryssh yn Saesneg.[1]
Hanes
[golygu | golygu cod]Mae cofnod o berfformiad gan ddawnswyr morys yn Llundain ar 19 Mai 1448, a dawnsiodd Will Kemp o Lundain i Norwich tua 1600.
Daeth Morys yn llai boblogaidd yn ystod y 18g, nd goroesodd y draddodiad. Roedd dawns morys yn rhan o ddathliad Jubili aur Brenhines Victoria ym 1887, ac mae cofnod bod dawnswyr o Chwarel Headington wedi dawnsio yn ystod darlith gan Percy Manning yng Nghyfnewidfa Ŷd Rhydychen ym Mawrth 1899.[1]
Gwelodd Cecil Sharp ddawns forys am y tro cyntaf ym 1899, a chasgliodd o’r gerddoriaeth. Ffurfiodd yr English Folk Dance and Song Society ym 1911, y daeth yn yr English Folk Dance and Song Society ym 1932.
Cyhoeddodd Sharp rhan cyntaf y Llyfr Morys ym 1907, a’r ail ran ym 1909. Cyhoeddwyd Llyfr Morys Esprans gan Mary Neal ym 1910. Defnyddiwyd y llyfrau mewn ysgolion a mewn clybiau dawns werin.
Ffurfiwyd mwy o glybiau morys a chleddf yn y 20au a 30au. Ffurfiwyd y Cylch Morys ym 1934 gan Ddawnswyr Caergrawnt, Dwyrain Surrey, Greensleeves, Letchworth, Prifysgol Rhydychen a Thaxted. Ffurfiwyd mwyafrif y clybiau yn ystod yr 80 mlynedd ddiwethaf. Mae gan pob clwb sgweier, sydd yn drefnydd, blaenwr, sydd yn dysgu’r dawnsiau, a bagman, sydd yn drysorydd.
Mae sawl math o ddawns forys, yn cynnwys defnydd o ffyn, cadachau a chleddyfau yn ogystal â dramau mwmio a defodau gwerinol, yn cynnwys Dawns forys Gotswold, Dawns forys Molly, Dawns forys cyffiniau Cymru, Dawns forys clocsen Gogledd-orllewinol, Dawns forys cleddyf hir a Dawns Rapper
Cynhelir cyfarfod blynyddol y Cylch Morys yn Thaxted, Essex.
Y calendr
[golygu | golygu cod]Yn draddodiadol, perfformwyd dawns forys ar amserau penodol y flwyddyn; yng nghanolbarth Lloegr, y Sulgwyn; Yn y gogledd-orllewin, yr Haf; cleddyf hir a rapper, y Nadolig. Erbyn hyn perfformir dawns forys yng ngwyliau werin trwy’r flwyddyn. Mae sawl math o ddawns forys sydd yn unigryw i un lleoliad penodol, megis Gŵyl Cadi Ha yn Nhrefynnon, Dawnswyr Cnau Coco Bacup, Dawnswyr Corn Abbots Bromley a Dawns Obby Oss Padstow.[1]
Dramau mumming
[golygu | golygu cod]Dramau traddodiadol gyda enwau amrywiol o ardal ardal, megis souling, pace-egging, tipteers a plough jacks. Perfformir y drama tu mewn neu tu allan tafarndai, heb lwyfan. Casglwyd eu geiriau traddodiadol erbyn 1914. Ychwanegir darnau newydd i adlewyrchu digwyddiadau cyfoes. Mae cymeriadau sydd yn gyffredin i’r dramau i gyd; Sant Siors, marchog Twrcaidd a meddyg. Fel arfer, lleddir Sant Siors gan y marchog Twrcaidd ac wedyn atgyfodir gan y meddyg.[1]