Dydd Gŵyl Dewi
Dydd Gŵyl Dewi Sant ar 1 Mawrth yw'r diwrnod y dethlir Dewi Sant, nawddsant Cymru. Bydd nifer o blant yn gwisgo'r wisg Gymreig ac yn cystadlu mewn eisteddfodau ysgol—yn arbennig trwy ganu ac adrodd. Bydd llawer o bobl o bob oed yn gwisgo cenhinen bedr (a welir fel arwyddlun Cymreig) neu genhinen (arwyddlun Dewi Sant) ar y diwrnod. Cynhelir nifer o Nosweithiau Llawen a chyngerddau. Hefyd y mae nifer o gymdeithasau yn cael noson gawl a gŵr gwadd i'w hannerch.
Mae'r cyntaf o Fawrth wedi bod yn ŵyl genedlaethol ers canrifoedd; yn ôl y traddodiad bu farw Dewi Sant ar y cyntaf o Fawrth 589 OC. Gwnaed y dyddiad yn ddydd cenedlaethol (answyddogol) Cymru yn y 18g.
Cynhelir gorymdaith flynyddol yng Nghaerdydd i ddathlu'r ŵyl. Yn 2006 yn yr Unol Daleithiau cafodd Dydd Gŵyl Dewi ei gydnabod yn swyddogol fel diwrnod cenedlaethol y Cymry, ac ar y cyntaf o Fawrth cafodd Adeilad Empire State ei oleuo yn lliwiau baner Cymru. Mae cymdeithasau Cymreig drwy'r byd yn dathlu drwy gynnal ciniawau, partion a chyngerddau.
Cododd problem yn 2006 o ran agwedd grefyddol yr ŵyl, gan fod y cyntaf o Fawrth yn disgyn ar Ddydd Mercher Lludw, sy'n cael ei ystyried yn ddiwrnod anaddas i ddathlu. O ganlyniad, dathlwyd y diwrnod ar 28 Chwefror gan y Catholigion ac ar 2 Mawrth gan yr Eglwys yng Nghymru.
Ymgyrch am ŵyl banc
[golygu | golygu cod]- Prif: Gŵyl banc Dydd Gŵyl Dewi
Mae ymgyrch ar droed i gael Dydd Gŵyl Dewi yn ddydd gŵyl banc swyddogol yng Nghymru. Yn ôl arolwg a gynhaliwyd ar Ddydd Gŵyl Dewi 2006 yr oedd 87% o bobl Cymru yn cefnogi hyn, gyda 65% yn barod i aberthu gŵyl banc arall yn ei le.[1] Denodd deiseb sy'n cefnogi'r ymgyrch dros 13,000 o lofnodion yn 2022.[2] Rhoddwyd diwrnod o wyliau i staff Cyngor Gwynedd a Pharc Cenedlaethol Eryri ar Ddydd Gŵyl Dewi 2022.[3] Mae Cyngor Sir Ceredigion, Cyngor Caerdydd, a Chyngor Castell-nedd Port Talbot yn ystyried gwneud yr un peth yn 2023.[4][5]
Gorymdeithiau Gŵyl Ddewi
[golygu | golygu cod]Yn y 2010au cynyddodd y nifer o orymdeithiau; mae'n ymddangos mai Caerdydd, Aberystwyth a Wrecsam oedd y cyntaf gyda'r ardaloedd canlynol yn dilyn:
- Y Sadwrn cyn yr Ŵyl
- Pwllheli (ers 2014)
- Tremadog (ers 2017)[6]
- Caerfyrddin
- 1af o Fawrth
- Y Sadwrn wedi'r Ŵyl
- Aberystwyth, cynhaliwyd y cyntaf yn 2013 gan gerdded o Gloc y Dref i sgwâr Llys y Brenin. Yn ôl y trefnydd, Siôn Jobbins, cynhelir y digwyddiad i "ddathlu Dewi, y Gymraeg a'n traddodiadau unigryw". Ysbrydolwyd y Parêd gan orymdaith Caerdydd.
- Abertawe tua 15.00 yp
- Bangor (ers 2016) 12.45 yp
- Sul wedi'r Ŵyl
- Bethesda (Dyffryn Ogwen)
- Wythnos
- Llandeilo, cynhelir wythnos o weithgareddau yn yr ardal i ddathlu'r ŵyl (2017), ond nid oedd gorymdaith.[8]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Poll backs St David's Day holiday" (yn Saesneg). 2006-03-01. Cyrchwyd 2022-03-02.
- ↑ "Petition: Make St David's day a bank holiday in Wales". Petitions - UK Government and Parliament (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-03-02.
- ↑ "Galwadau o'r newydd am ŵyl y banc ar Ddydd Gŵyl Dewi". BBC Cymru Fyw. 2022-03-01. Cyrchwyd 2022-03-01.
- ↑ "Cyngor Sir Ceredigion yn ystyried rhoi gwyliau i'w staff ar Ddydd Gŵyl Dewi 2023". Golwg360. 2022-03-01. Cyrchwyd 2022-03-01.
- ↑ Seabrook, Alex (18 Mawrth 2022). "Cyngor Caerdydd am archwilio'r posibilrwydd o roi diwrnod o wyliau i staff ar Ddydd Gŵyl Dewi 2023". Golwg360.
- ↑ urdd.cymru; Archifwyd 2022-03-01 yn y Peiriant Wayback adalwyd 9 Chwefror 2017.
- ↑ Gwefan Cyngor Sir Wrecsam. Adalwyd 25 Chwefror 2017.
- ↑ llandeilo.gov.uk; Archifwyd 2016-12-12 yn y Peiriant Wayback adalwyd 9 Chwefror 2017.