Enid Wyn Jones
Enid Wyn Jones | |
---|---|
Ganwyd | 17 Ionawr 1909 Wrecsam |
Bu farw | 15 Medi 1967 Bangkok |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gweithiwr cymdeithasol |
Priod | Emyr Wyn Jones |
Plant | Gareth Wyn Jones |
Roedd Enid Wyn Jones (17 Ionawr 1909 – 15 Medi 1967) yn amlwg mewn bywyd cyhoeddus yng Nghymru a Lloegr ac yn lladmerydd cymdeithasol ar nifer o gyrff fel Y.W.C.A. (World Young Women’s Christian Association).
Bu'n llywydd Cyngor Cymru ac is-lywydd Cyngor Y.W.C.A. o 1959 hyd 1967 ac roedd yn aelod o gyngor byd y mudiad gan gynrychioli Cymru mewn cynadleddau tramor.[1] Roedd ganddi ddiddordeb mawr mewn crefydd hefyd ac fe'i hetholwyd yn llywydd Cyngor Cenedlaethol Merched Eglwysi Rhyddion Lloegr a Chymru rhwng 1958 a 1959. Bu'n llywydd Adran y Merched o Undeb Cymru Fydd yn 1966-67 ac roedd yn ynad heddwch yn Sir Ddinbych o 1955 hyd 1967. Bu farw mewn awyren wrth ddychwelyd i Gymru o Gynhadledd Byd y Y.W.C.A. ym Melbourne, Awstralia, ac fe'i claddwyd yn Llansannan.
Bu'n weithgar hefyd yn y maes meddygol fel is-gadeirydd Pwyllgor Gweinyddesau Bwrdd Ysbytai Cymru; fel aelod o Fwrdd Rheolaeth Ysbytai Clwyd a Dyfrdwy; o Bwyllgor Gweinyddol Meddygon Dinbych a Fflint ac o Bwyllgor Canolog Cronfa Elusennol Frenhinol y Meddygon. Roedd pynciau crefyddol a chymdeithasol a heddychaeth yn agos at ei chalon, a bu'n annerch cymdeithasau'n gyson ar y pynciau hyn.
O ran crefydd, roedd yn aelod gyda'r Crynwyr yn ogystal â'r Presbyteriaid Cymreig a bu hefyd yn aelod o Bwyllgor Crefyddol y B.B.C.
Magwraeth
[golygu | golygu cod]Ganed Enid Wyn (née Williams) yn Wrecsam, yn ferch i'r Dr. David Llewelyn Williams a Margaret Williams. Symudodd y teulu i Gaerdydd ychydig cyn y Rhyfel Byd Cyntaf, ond yn ystod y rhyfel fe'i magwyd hi yn y Rhyl. Derbyniodd ei haddysg yn y Welsh Girls’ School, Ashford, ac yna fel gweinyddes yn Ysbyty Brenhinol Caerdydd.
Priodi
[golygu | golygu cod]Ar 9 Medi 1936 priododd ag Emyr Wyn Jones o'r Waunfawr, Caernarfon oedd yn ffysigwr yn Lerpwl, a chawsant ddau o blant. Cartrefodd y teulu yn "Llety'r Eos", Llansannan. Mae Enid Wyn Jones yn nain i'r gwleidydd yr Athro Richard Wyn Jones.[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Y Bywgraffiadur Cymreig Arlein; Y Llyfrgell Genedlaethol; adalwyd 15 Medi 2016.
- ↑ Gwefan X; adalwyd 20 Medi 2024.