Eglwys Uniongred Ethiopia
Eglwys sy'n rhan o Eglwysi'r tri cyngor yw Eglwys Uniongred Ethiopia neu Eglwys Uniongred Tewahedo Ethiopia (Amhareg:Yäityop'ya ortodoks täwahedo bétäkrestyan). Roedd yn rhan o'r Eglwys Goptaidd hyd 1959, pan roddwyd iddi'r hawl i gael Patriarch ei hun gan Pab Cyril VI o Alexandria.
Mae Eglwys Uniongred Ethiopia yn un o'r ychydig eglwysi Cristnogol yn Affrica sydd a gwreiddiau yn mynd yn ôl ymhellach na'r cyfnod trefedigaethol. Cyfeiria Tewahedo at y gred yn un natur Crist (Monoffisiaeth), yn hytrach na natur ddynol a natur ddwyfol ar wahan. Yn 451 cynhaliwyd Cyngor Chalcedon dan nawdd yr Ymerawdwr Bysantaidd Marcianus, a gytunodd ar athrawiaeth "dwy natur mewn un person". Gwrthododd Patriarchiaid Alexandria, Antioch, a Jeriwsalem dderbyn hyn, gan ddechrau'r ymraniad rhwng Eglwysi'r tri cyngor a'r eglwysi eraill. Dywed Eglwys Uniongred Ethiopia ei bod wedi ei sefydlu gan yr eunuch oedd yn swyddog i Candace, brenhines Ethiopia, a fedyddiwyd gan Philip yr Efengylwr, digwyddiad a ddisgrifir yn Actau'r Apostolion.
Daeth Cristionogaeth Uniongred yn grefydd y wladwriaeth dan Ezana, brenin Axum yn y 4g. Mae gan yr eglwys tua 38 miliwn o aelodau yn Ethiopia, tua hanner poblogaeth y wlad. Ceir hefyd eglwysi mewn gwledydd eraill, yn enwedig yr Unol Daleithiau.